Rhaid i’r polisi camddefnyddio sylweddau gynnwys lleihau niwed

01 Apr 2021

Credwn fod yn rhaid i ni gefnogi pobl fel maen nhw, nid fel y byddem yn dymuno iddyn nhw fod.

Mae gan y Wallich ymrwymiad hirsefydlog i’r egwyddor o leihau niwed, yn enwedig o ran camddefnyddio sylweddau neu ymddygiad niweidiol arall.

Hoffem weld Llywodraeth nesaf Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yn defnyddio dull cefnogi sy’n canolbwyntio ar leihau niwed, fel elfen allweddol o ailadeiladu gwasanaethau yn dilyn pandemig y coronafeirws.

Beth mae hyn yn ei olygu’n ymarferol yw gweithio gyda’r heddlu, y gwasanaeth prawf a thimau diogelwch cymunedol i reoli camddefnyddio sylweddau, a’r niwed i gymdeithas sy’n gysylltiedig â hynny, mewn modd sensitif.

textimgblock-img

Ni ddylem ruthro i wneud pobl y mae angen cymorth arnynt i sobri yn droseddwyr.

Yn yr un modd â digartrefedd fel mater ehangach, rydyn ni’n gryf o blaid dull sy’n ymdrin â chamddefnyddio sylweddau fel mater sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd, yn hytrach na phroblem i’w datrys gan y system cyfiawnder troseddol.

Hoffem weld Canolfannau Lleihau Niwed Uwch yn cael eu treialu yng Nghymru, i ddarparu lle diogel a glân i bobl ddefnyddio sylweddau dan oruchwyliaeth, cyfnewid nodwyddau sydd wedi’u defnyddio ac offer arall, a chael cyngor a chefnogaeth.

Mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu y gallai hyn leihau’r risg o orddos a feirysau a gludir yn y gwaed i raddau helaeth, yn ogystal â lleihau nifer y marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau y gellir eu hosgoi.

Galwn ar Lywodraeth nesaf Cymru i weithio’n agos gyda’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu sydd newydd gael eu hethol, yn ogystal â Llywodraeth y DU, i ystyried sut y gellid treialu hyn yng Nghymru.

Darllenwch ein maniffesto

Tudalennau cysylltiedig