Gohirio Iechyd Meddwl

08 Dec 2022

Mae’r argyfwng iechyd meddwl yn cael effaith anghymesur ar bobl sy’n ddigartref

Mae’r Wallich yn lansio ymgyrch newydd sy’n edrych ar dirwedd lle mae iechyd meddwl mewn argyfwng, digartrefedd a defnyddio sylweddau yn digwydd ar y cyd yng Nghymru.

Pam mae angen yr ymgyrch hon arnom ni?

Yn ystod cyfnod cynnar y pandemig, rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2020, bu ein staff cymorth sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn helpu dros 4,000 o bobl a oedd yn ddigartref.

Mewn cyfnod o ansicrwydd, roedd un peth yn sicr. Roedd angen i ni barhau i ymateb i unrhyw un a oedd ein hangen ni.

Roedd 24 o’n gwasanaethau ledled Cymru yn cael eu hystyried yn ‘wasanaethau hanfodol’ a gweithiodd ein staff rheng flaen yn ddiflino i gynnig cymorth llety, lles, ariannol ac iechyd drwy gydol y cyfnodau clo.

Ar yr un pryd, datgelodd dadansoddiad data gan Mind bod mwy o bobl wedi profi argyfwng iechyd meddwl yn ystod pandemig y coronafeirws nag erioed o’r blaen.

Arolwg staff ar gymorth iechyd meddwl mewn argyfwng

Roedd ein staff yn fwy a mwy pryderus a rhwystredig oherwydd eu hanallu i sicrhau cymorth a chefnogaeth i bobl mewn argyfwng iechyd meddwl.

textimgblock-img

Mewn arolwg staff, a gwblhawyd gan The Wallich yn 2022:

Roedd 96% o’r staff a holwyd wedi cefnogi cleientiaid mewn argyfwng iechyd meddwl.

Roedd 95% wedi gofyn am gymorth gan Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol (CMHT) neu Dimau Argyfwng.

Roedd 66% o’r staff a holwyd yn ei chael yn anodd iawn cael gafael ar y gefnogaeth hon ac nid oeddent yn fodlon â’r gefnogaeth a oedd ar gael.

Dywedodd 8% nad oedd unrhyw gefnogaeth ar gael.

Ac o ran yr anhawster i gael gafael ar gymorth yn ystod ac ar ôl y pandemig:

Mae 72% yn teimlo nad oes mynediad cystal at wasanaethau iechyd meddwl ar gael i bobl sy’n ddigartref, o’i gymharu â’r boblogaeth gyffredinol.

Mae 60% o’r staff a holwyd yn teimlo ei bod yn anoddach cael gafael ar gymorth iechyd meddwl i gleientiaid ers dechrau’r pandemig.

I ddod yn fuan: Adroddiad yr ymchwiliad Gohirio Iechyd Meddwl

 

Penderfynom ymchwilio ymhellach i hyn ac rydym wedi anfon ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI) at bob bwrdd iechyd, awdurdod lleol, heddlu a gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru, yn ogystal â Llywodraeth Cymru.

Bydd yr ymgyrch ehangach hon, sy’n dwyn y teitl ‘Gohirio Iechyd Meddwl’, yn darparu tystiolaeth bod;

Yr argyfwng iechyd meddwl yn cael effaith anghymesur ar bobl sy’n ddigartref

Byddwn yn rhyddhau ein hadroddiad Gohirio Iechyd Meddwl yn 2023. Bydd yn cynnwys y canlynol:

Bydd yr adroddiad hefyd yn amlinellu atebion i’r argyfwng presennol – o’n safbwynt ni mewn ymateb i’r mater, ac argymhellion i eraill sy’n ariannu, yn comisiynu ac yn darparu gwasanaethau ledled Cymru.

Cymerwch ran yn ein hymgyrch

Dewch yn ôl i edrych ar y dudalen hon i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ac erthyglau cysylltiedig â’r ymgyrch, neu gofrestru i gael ein cylchlythyr.

Tudalennau cysylltiedig