Datganiad y Wallich: gwasanaethau sy’n parhau yn ystod COVID-19

18 Mar 2020

Mae gan y Wallich gynllun cynhwysfawr yn ei le i ymateb i haint y coronafirws.

Nod ein cynllun gwasanaethau hanfodol yw:

  1. Cadw pobl yn ddiogel
  2. Gohirio lledaenu’r haint drwy gymunedau elusen y Wallich
  3. Tawelu meddwl staff a chleientiaid

Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru, mudiadau rheng flaen eraill a chyrff ymgyrchu i sicrhau ymateb cydgysylltiedig i’r argyfwng hwn a sicrhau nad yw pobl ddigartref yn cael eu hanghofio.

Fel mudiad rheng flaen, rydyn ni’n gwneud ein gorau i barhau i ddarparu gwasanaethau fel arfer. Bydd gwasanaethau hanfodol, fel llety argyfwng / llety cymorth, ac allgymorth yn rhedeg fel arfer, neu mor normal â phosib.

Mae gennym gynlluniau staffio yn eu lle i ddefnyddio ein gweithlu mewn ffyrdd newydd, a thîm o arbenigwyr sy’n cyfarfod yn ddyddiol i wneud penderfyniadau.

Mae ein staff yn dal i weithio’n ddiflino i roi cymorth i bobl ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, ar adeg pan fo’n cleientiaid yn arbennig o fregus.

Drwy ddilyn cyngor y llywodraeth ar COVID-19 a phellhau cymdeithasol, byddwn yn ymateb i bob achos drwy gynnig atebion gwasanaeth penodol i sicrhau bod pobl yn derbyn yr help sydd ei angen arnynt.

Bydd rhai o’n swyddfeydd wedi cau hyd nes y byddwn yn hysbysu’n wahanol, gyda staff yn gweithio o bell o’u cartrefi.

Lle mae swyddfa wedi cau, byddwn yn defnyddio TG a bydd staff yn cyflwyno ymyriadau rheolaidd dros y ffôn, fideoalwad a negeseuon tecst i roi pa bynnag gymorth sydd ei angen ar ein cleientiaid, gan gynnwys ffocws ar les, eu sefyllfa ariannol, iechyd meddwl ac ynysu cymdeithasol.

Bydd ein Rhwydwaith Myfyrio, sy’n dîm o gwnselwyr a therapyddion, yn cynnig apwyntiadau ffôn a fideo i rai sy’n profi trafferthion iechyd meddwl.

Rydyn ni hefyd yn gweithio’n galed i sicrhau bod gan y bobl a gefnogwn fynediad teg at gyfleusterau gwybodaeth ac ymolchi.

I unrhyw un sydd angen help arnynt, mae manylion eu gwasanaeth lleol ar y dudalen Ein Gwasanaethau.

Cofiwch, tra byddwn yn canolbwyntio ein holl adnoddau ar ein hymateb rheng flaen, os byddwch yn cysylltu â ni i siarad am rywbeth heblaw COVID-19 a’i broblemau cysylltiedig, gallwch wynebu oedi cyn derbyn ymateb. Diolch i chi am eich amynedd.

Bydd hyn yn amser heriol i’n mudiad, a mwy heriol fyth i’r bobl a gefnogwn, felly dymunwn annog pawb i wneud eu rhan a rhannu adnoddau a gwybodaeth gyda phobl a fyddai fel arall yn cael eu heithrio o gymdeithas.

Nawr yn fwy nag erioed, mae angen ymateb cymunedol i ddigartrefedd. Gallwch fod yn sicr bod y Wallich yn gwneud ei orau glas i warchod, cefnogi a bod ar gael i’r bobl sydd ein hangen arnynt.

Tudalennau cysylltiedig