Diweddariad: Ymateb Wallich i Covid-19

26 Mar 2020

Mae’r Wallich wedi ymateb yn ddi-oed a phendant i’r pandemig COVID-19 i warchod ein staff a pharhau i gefnogi’r bobl sydd fwyaf mewn angen ar yr adeg eithriadol anodd hon.

Ers dechrau Mawrth rydyn ni wedi bod yn dilyn cynllun mewn tair rhan, yn unol â strategaeth y llywodraeth, ac wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol yn y sector i sicrhau ymateb cydgysylltiedig a manwl i’r argyfwng.

Ein cynllun

Nod ein cynllun gwasanaethau hanfodol oedd:

  1. Cadw pobl yn ddiogel
  2. Gohirio lledaenu’r haint drwy gymunedau elusen y Wallich
  3. Tawelu meddwl staff a chleientiaid

Rydyn ni nawr wedi ychwanegu pedwerydd nod: Parhau i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol.

Ystyriwyd bod 24 o’n prosiectau ar draws Cymru’n wasanaethau hanfodol, ar sail ein proses asesu sy’n asesu pa mor fregus yw’r cleientiaid sy’n defnyddio’r gwasanaeth, a’r risg i staff y gwasanaeth. Datblygwyd cynllun ar gyfer bob un o’r gwasanaethau hyn sy’n cael ei adolygu a’i ddiweddaru’n rheolaidd, yn unol ag argymhellion y Llywodraeth.

Ein staff

Dim ond oherwydd ymroddiad ac ymrwymiad ein 400 o staff arbenigol i ‘ddarparu doed a ddelo’ y mae’r gwasanaethau hyn yn dal i redeg, yn dal i gefnogi pobl a gyda’r bwriad o barhau i redeg am gyn hired ag y bo angen. Ni allwn ddiolch digon i’n staff am eu gwydnwch, eu dewrder a’u dyfalbarhad.

Ochr yn ochr â’r gweithwyr rheng flaen anhygoel hyn, mae’r Wallich wedi sefydlu Tasglu COVID-19 o naw o staff y Wallich a phob un yn cyfrannu sgiliau gwahanol; y Gwaith Gweithredol, Adnoddau Dynol, Cyfathrebu, ac Iechyd a Diogelwch. Rydyn ni wedi datblygu bwletinau dyddiol cynhwysfawr i’w hanfon i staff. Cyhoeddwyd a diweddarwn ein cynllun tair rhan fel bo angen. Rydyn ni wedi cyfuno fideos, Cwestiynau Cyffredin, adnoddau defnyddiol a diweddariadau gan y llywodraeth, mewn un lle i staff eu defnyddio ar unrhyw adeg. Rydyn ni wedi datblygu asesiad risg COVID-19 a rhagolygon ariannol ac ymarferol i sicrhau ein bod yn meddwl yn hirdymor yn ogystal ag ymateb i argyfwng y funud.

Mae ein Tasglu COVID-19 yn cyfarfod bob dydd dros gyswllt fideo, a hefyd yr Uwch-Reolwyr Gweithredol a’r Tîm Cyfathrebu, a phob grŵp yn diweddaru ei gilydd bron bob awr.

Allgymorth

Byddwn yn parhau i ddarparu bwyd, gwybodaeth a thawelwch meddwl hanfodol i’r bobl sy’n dal i gysgu ar y stryd.

Rydyn ni’n parhau i ddarparu gwasanaeth allgymorth dyddiol yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd.

I ddiogelu ein cleientiaid, sy’n fwyfwy bregus bob dydd, a’n timau staff, rydyn ni’n dilyn canllawiau’r llywodraeth ar bellhau cymdeithasol ac mae’r gwasanaethau’n cael eu haddasu i adlewyrchu hynny. Mae parhau i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol hyn, yn ddiogel, yn eithriadol bwysig.

Rydyn ni’n gweithio’n weithredol â Llywodraeth Cymru a’n hawdurdodau lleol i greu ymateb lleol effeithiol wedi’i deilwrio ym mhob ardal er mwyn ymateb i anghenion cysgwyr ar y stryd yn yr ardaloedd hyn.

Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod gan gysgwyr ar y stryd gefnogaeth ac adnoddau i warchod eu hunain a mynediad at y cyfleusterau sydd eu hangen arnynt.

Ein cymorth

Allgymorth a llety yw ein gwasanaethau hanfodol yn bennaf. Bu’n rhaid i lawer o’n swyddfeydd eraill gau. Lle mae swyddfa wedi cau, defnyddiwn TG a bydd staff yn cyflwyno ymyriadau rheolaidd dros y ffôn, fideoalwad a thrwy negeseuon tecst i roi cymorth i’n cleientiaid gyda beth bynnag sydd ei angen arnynt, gan gynnwys ffocws ar les, eu sefyllfa ariannol, budd-daliadau, iechyd meddwl ac ynysu cymdeithasol.

Mae ein Rhwydwaith Myfyrio, sy’n dîm o gwnselwyr a therapyddion, yn cynnig apwyntiadau ffôn a fideo i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl. Rydyn ni wedi sefydlu gwasanaeth Cyfeillio Digartrefedd a chynhyrchu gweithgareddau printiadwy i bobl sy’n styc yn eu sefyllfa ynysu. Rydyn ni’n addasu ein gwasanaethau’n greadigol a cheisio bod mor arloesol â phosib yn unol â chanllawiau’r llywodraeth.

Cefnogwn staff sy’n gweithio gartref drwy fideo-gynadledda a bwletinau gwybodaeth dyddiol. Rydyn ni wedi rhoi adnoddau i staff i’w cynorthwyo i weithio’n effeithiol o gartref a chefnogi eu lles meddwl. Rydyn ni hefyd yn cefnogi staff sy’n dangos symptomau i hunan-ynysu lle bo angen, ac wedi rhoi pecyn tâl a lles cynhwysfawr at ei gilydd i’w cynorthwyo ar yr adeg hon o boeni ac ansicrwydd.

Yn anad dim, mae’r Wallich yn benderfynol o wneud ein gorau glas i ddod drwy’r argyfwng hwn a pharhau i ddiogelu, cynorthwyo a bod yno i’r bobl sydd ein hangen arnynt.

Eich cymorth chi

Ar yr adeg anodd hon, mae ymateb y gymuned i ddigartrefedd, y cyllid gan y llywodraeth, a’r sector yn tynnu at ei gilydd, yn galonogol iawn. Rydyn ni hefyd yn eithriadol ddiolchgar i’r holl fusnesau ac unigolion a gysylltodd â ni i gynnig cymorth. Bydd angen i hyn barhau ar ôl i’r argyfwng ddod i ben gan ddangos yr un lefel o dosturi i’r rhai sy’n profi effaith waethaf y pandemig ymhell i’r dyfodol.

Tudalennau cysylltiedig