Y Celfyddydau Creadigol: Y Prosiect Stori

Mae Prosiect Stori yn gydweithrediad bywiog rhwng pobl sy’n cael eu cefnogi gan The Wallich a chymuned celfyddydau perfformio dynamig Cymru, gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r rhaglen Flourish

Ar y cyd ag artistiaid a theatrau ledled Cymru, byddwn yn rhyddhau ton o frwdfrydedd artistig ac yn grymuso pobl sydd wedi bod yn ddigartref.

 

Ein partneriaid prosiect gwych

Mae gennym weledigaeth gyffredin

Dod â sgiliau a chyfleoedd newydd i bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd a dod â lleisiau, cynulleidfaoedd a chydweithwyr newydd i theatrau yng Nghymru.

Rydyn ni eisiau datgelu talentau cudd a meithrin creadigrwydd yn The Wallich a chyflwyno pobl rydyn ni’n eu cefnogi i’r sector celfyddydau.

Rydyn ni yma i gefnogi pobl o bob cefndir, gan roi help llaw iddyn nhw i siapio eu straeon a’u syniadau yn rhywbeth anhygoel.

Gyda chymorth theatrau, byddwn yn grymuso pawb i rannu eu straeon yn y ffordd fwyaf cyffrous, ysbrydoledig a diogel posibl.

Bydd y Prosiect Stori yn cysylltu neu’n ailgysylltu’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi â hud y theatr ac adrodd straeon.

Yn 2022, fel rhan o’n prosiect cyffrous Ar y Cyrion bu The Wallich yn cydweithio ag Owen Thomas, dramodydd gwych o Gaerdydd, a gyda’n gilydd, fe wnaethom gynhyrchu’r ‘Monologau Bwlb Golau’.

textimgblock-img

Roedd y monologau hyn yn fwy na straeon.

Roedden nhw’n gyfnodau o fyfyrio a sbardunodd newid ar gyfer y bobl rydyn ni’n eu cefnogi.

Daeth y bartneriaeth hon yn gatalydd ar gyfer y Prosiect Stori.

Ac nid dyna ddiwedd y gân. Rydyn ni am adeiladu ar y llwyddiannau hyn drwy’r ffyrdd canlynol:

  • Creu cysylltiadau cynaliadwy gyda gweithwyr proffesiynol ym maes y celfyddydau
  • Creu mannau lle mae creadigrwydd yn rhydd i ffynnu a sbarduno newid ystyrlon i unigolion
  • Cyflwyno lleisiau a chynulleidfaoedd newydd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i’r celfyddydau

Ochr yn ochr ag Owen a’n partneriaid theatr, rydyn ni’n ehangu mwy na chyrhaeddiad y celfyddydau.

Byddwn yn ei wella, gan ei wneud yn fwy bywiog, cynhwysol a hwyliog nag erioed o’r blaen.

Mae ein hamcanion cyffredin yn cynnwys

  • Datblygu rhwydwaith o theatrau, artistiaid a sefydliadau celfyddydol, gan hwyluso’r cysylltiad rhwng defnyddwyr ein gwasanaeth a’u perfformwyr lleol ym maes y celfyddydau
  • Cynyddu cyrhaeddiad, ymgysylltiad a chyfranogiad cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol
  • Grymuso pobl i ddarganfod a mwynhau cyfleoedd creadigol, gan leihau effaith eu heriau iechyd a lles
  • Galluogi cymunedau sydd bellaf oddi wrth brofiadau diwylliannol i archwilio sgiliau newydd drwy wahodd ymarferwyr celfyddydol o bob rhan o’r sector i ddarparu cyfleoedd creadigol
  • Herio canfyddiadau a stereoteipiau o bobl sy’n ddigartref – ailysgrifennu’r naratif, un stori bwerus ar y tro
  • Meithrin diwylliant o ddysgu ar y cyd, lle mae artistiaid gwadd a chydweithwyr yn cymryd rhan mewn hyfforddiant sy’n seiliedig ar drawma – Bydd hyn yn gwella dealltwriaeth grwpiau ar y cyrion ac yn uwchsgilio ein defnyddwyr gwasanaeth mewn sgiliau theatr trosglwyddadwy

Bydd y Prosiect Stori yn cefnogi cyfranogwyr i ganfod llwybr unigryw, wedi’i deilwra i’w diddordebau a’u breuddwydion.

Nid yw’r daith hon yn dod i ben pan fydd llenni’r llwyfan yn cau.

Mae’r Prosiect Stori yn docyn i ddyfodol sy’n llawn gweithgareddau celfyddydol, gwirfoddoli a chyfleoedd cyflogaeth.

Dydyn ni ddim yn gwneud hyn ar ein pen ein hunain – rydyn ni wedi creu grŵp llywio o gynrychiolwyr sy’n cynnwys defnyddwyr gwasanaeth, theatrau a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant celfyddydol er mwyn sicrhau bod y prosiect hwn yn llwyddiant.

Prosiect Stori

Y Diweddglo

Bydd darnau theatr pwrpasol yn dod at ei gilydd mewn un digwyddiad cydweithredol.

Bydd pob grŵp o bob cwr o Gymru yn casglu ac yn plethu eu straeon gyda’i gilydd.