Celf a digartrefedd: Sefydliad Paul Hamlyn

Paul Hamlyn Foundation

Prosiect Archwilio a Phrofi ‘O’r Cyrion’

Nod prosiect cyffrous The Wallich, a ariennir gan Sefydliad Paul Hamlyn, yw archwilio a phrofi effaith amrywiaeth o gyfleoedd celfyddydau cyfranogol yng Nghanolbarth – Gogledd Cymru, De-ddwyrain Cymru a De-orllewin Cymru.

Ar hyn o bryd rydyn ni’n galw am ddatganiadau o ddiddordeb gan ymarferwyr creadigol sy’n arbenigo mewn celfyddydau gweledol i hwyluso cyfres o weithdai gyda’n defnyddwyr gwasanaeth ym mhob rhanbarth rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2021.

Y Celfyddydau yn The Wallich

Mae The Wallich yn sefydliad sy’n wybodus o safbwynt seicolegol.

Hynny yw, rydyn ni’n credu bod ymateb i ddigartrefedd yn golygu mwy na rhoi to uwch ben rhywun.

Mae gweithgareddau i ddifyrru, fel y celfyddydau neu chwaraeon, yn aml yn arfau pwysig ar gyfer ymateb i drawma a gwella ar ôl trawma.

textimgblock-img

Mae llawer o’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi wedi bod yn llawn mynegiant a chreadigrwydd erioed.

Mae datblygu amgylcheddau ar gyfer y creadigrwydd hwn, fel dull sy’n seiliedig ar drawma i roi diwedd ar gylchoedd o ddigartrefedd, caethiwed ac argyfwng iechyd meddwl, yn flaenoriaeth i The Wallich.


 

SWYDDI GWAG DIWEDDARAF

Nid oes unrhyw gyfleoedd ar gael

Tudalennau cysylltiedig