Penderfyniad Pwy

The Wallich & Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Arddangosfa: Penderfyniad Pwy?

28 Hydref 2017 – 2 Medi 2018 | Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Creu cysylltiadau â’r celfyddydau cyfoes yn #CelfTheWallich

Mae celf yn eiddo i bob un ohonom, ond dim ond nifer fach o bobl sy’n cael eu grymuso i wneud penderfyniadau ynghylch sut mae amgueddfeydd yn penderfynu beth i’w ddangos, beth sy’n cael ei gasglu a sut mae’n cael ei gynrychioli.

Gwahoddodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddefnyddwyr gwasanaeth The Wallich – llawer ohonyn nhw wedi profi digartrefedd – i gyd-greu eu harddangosfa eu hunain o gelf fodern a chyfoes.

Dewiswyd Penderfyniad Pwy? o’r cannoedd o baentiadau, lluniadau, cerfluniau, ffilmiau, printiau a gosodiadau y mae’r Amgueddfa ac Ymddiriedolaeth Derek Williams wedi’u prynu dros y 10 mlynedd diwethaf.

Fe’i cynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 28 Hydref 2017 a 2 Medi 2018.

Dywedodd Sian David, Pennaeth Cyfranogiad a Datblygiad yn The Wallich:

“Mae’r naratif ‘mae celf i bawb’ yn ddywediad perffaith i The Wallich. Rydyn ni’n mynd y tu hwnt i gael pobl oddi ar y strydoedd. Rydyn ni’n ceisio rhoi profiadau gwerthfawr i’n cleientiaid a chreu cyfleoedd cyffrous ac arloesol sydd y tu hwnt i’r cyffredin.”

Wrth iddyn nhw bwyso a mesur elfennau fel harddwch a gwaith cywrain y brwsh, mae defnyddwyr gwasanaeth o The Wallich, fel Ian Harris, wedi bod yn cofnodi eu profiad o ddewis celf ar gyfer yr arddangosfa.

Bu Ian yn canu clodydd y prosiect:

“Rwyf wedi ymfalchïo’n fawr yn fy nghyfraniad i’r arddangosfa hon ac ni allaf aros nes bydd ar waith.

“Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith wedi cael ei ddewis gan ein tîm i’w arddangos. Fodd bynnag, rydyn ni wedi gallu dewis darn unigol i’w arddangos.”

Dewiswyd y gwaith sy’n cael ei arddangos yn Penderfyniad Pwy? o’r cannoedd o baentiadau, lluniadau, cerfluniau, ffilmiau, printiau a gosodiadau y mae’r Amgueddfa ac Ymddiriedolaeth Derek Williams wedi’u prynu dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae hefyd yn dathlu’r bartneriaeth 25 mlynedd rhwng Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Derek Williams.

Dywedodd Grace Todd o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd:

Mae’r casgliadau sydd gennym yn eiddo i bob un ohonom, ond dim ond nifer bychan o bobl sy’n cael eu grymuso i wneud penderfyniadau ynghylch sut mae amgueddfeydd yn penderfynu beth i’w ddangos, beth sy’n cael ei gasglu a sut mae’n cael ei gynrychioli. Ydy hyn yn deg?

“Drwy wneud ein casgliad yn fwy hygyrch i bawb, mae Penderfyniad Pwy? yn anelu at greu Amgueddfa fwy democrataidd ac atebol.”

Cytunodd Sian David â’r sylw hwn a pharhaodd:

“Mae llawer o gyfranogwyr prosiect yr amgueddfa wedi profi caledi, ond maen nhw ar lwybrau newydd tuag at wella eu bywydau.

“Rydyn ni’n gobeithio parhau i greu partneriaethau gyda sefydliadau diwylliannol, fel Amgueddfa Cymru, i roi hwb i sgiliau, hyder ac, yn y pen draw, hapusrwydd ein cleientiaid.”

Cadarnhaodd Michael Pugh, un arall o guraduron The Wallich, bwysigrwydd Penderfyniad Pwy? o ran annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn diwylliant:

“Fyddwn i ddim wedi dod i mewn i’r amgueddfa o’r blaen, ond nawr rydw i yma rydw i wrth fy modd efo’r cyfan. Does gen i ddim ofn dod yma ar fy mhen fy hun, dydi o ddim yn rhoi braw i mi erbyn hyn”.

Fideos

Sut oedd prosiect yr amgueddfa’n gweithio? Pwy yw’r bobl y tu ôl i’r gwaith celf?

Gwyliwch ein fideos cyffrous am arddangosfa Penderfyniad Pwy?

Cyfryngau

Nicola Heywood Thomas yn ymweld â Penderfyniad Pwy? ar gyfer y rhaglen Radio Wales Arts Show Gwrando nawr ar BBC iPlayer

‘My life was like a spin dryer’ gwyliwch gyfweliad BBC Cymru gyda churadur The Wallich

Newyddion y BBC yn cyfweld curadur The Wallich, Mareth

Penderfyniad Pwy? yn cael sylw gan newyddion y BBC

WalesOnline yn adolygu arddangosfa Penderfyniad Pwy? wedi’i churadu gan bobl sydd wedi profi digartrefedd

Arddangosfa Penderfyniad Pwy? yn agor ei drysau i’r cyhoedd ar 28 Hydref 2017

Cipolwg ar arddangosfa Penderfyniad Pwy?

Prosiect yr Amgueddfa yn lansio oriel fideo

Cyfranogwyr yn rhannu eu profiadau o gyfrannu 1000 awr o wirfoddoli i’r arddangosfa

Tudalennau cysylltiedig