Ailgynllunio risg: Cynlluniau diogelwch ar gyfer gwasanaethau digartrefedd

Ym mis Ebrill 2022, dechreuodd The Wallich sefydlu ffordd newydd arloesol o asesu a rheoli risgiau, gan wella diogelwch bywydau defnyddwyr ein gwasanaethau

Rydym yn falch o ddweud bod The Wallich bellach wedi mabwysiadu’n llawn y defnydd o asesiadau diogelwch a chynlluniau diogelwch gyda’n defnyddwyr gwasanaeth.

Pam fod hyn yn bwysig? Oherwydd y dylai ein gwasanaethau fod yn ystyriol o drawma, o’r cymorth rydym yn ei ddarparu i’r gwaith papur y mae’n rhaid i ni ei wneud.

Inspire - The Wallich, Cardiff 26/08/2021

Beth yw cynlluniau diogelwch?

Nid yw cynlluniau diogelwch yn strategaeth newydd ac maent wedi cael eu defnyddio ers peth amser mewn lleoliadau iechyd meddwl, gwasanaethau trais domestig ac mewn achosion ymyrryd mewn hunanladdiad neu argyfwng.

Maent yn seiliedig ar gryfderau ac yn cael eu defnyddio ar y cyd â staff i ganolbwyntio ar yr hyn y gall unigolyn ei wneud i gadw’n ddiogel, yn ogystal â’r hyn y gall pobl eraill sy’n gweithio gyda nhw ei wneud i helpu.

Fodd bynnag, yn gyffredinol, nid yw cynlluniau diogelwch yn cael eu defnyddio i ganolbwyntio ar sut gallai’r unigolyn effeithio ar ddiogelwch pobl eraill.

Rydym yn credu mai ni yw un o’r sefydliadau cyntaf i addasu cynlluniau ac asesiadau diogelwch ar gyfer y sector digartrefedd

Beth mae cynlluniau diogelwch wedi’u disodli yn The Wallich?

Mae defnyddwyr gwasanaeth yn gallu teimlo bod asesiad risg yn cael ei wneud iddyn nhw yn hytrach na gyda nhw.

Gall hyn arwain at ganolbwyntio’n bennaf ar y risg y mae’r defnyddiwr yn peri i eraill.

Gall asesiadau risg fod yn brofiad amhersonol gan fod y prosesau a’r iaith yn dod o fyd iechyd a diogelwch.

Wrth weithio tuag at drefn asesu risg sy’n ystyriol o gyflwr seicolegol, roedd ein Pennaeth Gweithrediadau PIE a Gwasanaethau Therapiwtig eisiau sicrhau bod y broses yn pwysleisio diogelwch corfforol, seicolegol ac emosiynol defnyddwyr y gwasanaeth a’r staff.

Mae David Gill, Rheolwr Gyfarwyddwr Risg a Chydnerthedd, yn arweinydd yn y maes ac wedi canmol yn fawr yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn The Wallich.

“Rwy’n gweithio gyda llawer o sefydliadau sy’n ceisio ymgorffori dull sy’n ystyriol o drawma / gyflwr seicolegol.

“Gall y broses draddodiadol o reoli risg weithiau gyfyngu ar ymgysylltiad drwy geisio rhagweld ymddygiad yn y dyfodol heb fawr ddim gwybodaeth gan ddefnyddwyr gwasanaeth.

“Gall hyn gynyddu’r tebygolrwydd o ddigwyddiadau sy’n arwain at argyfwng ac yna ymatebion cosbedigol.

“Mae dilyn dull gweithredu diogelwch yn gyntaf yn cyfyngu ar hyn ac yn annog defnyddwyr gwasanaeth i reoli eu risgiau eu hunain ac yn atal digwyddiadau argyfwng rhag digwydd.

“Mae sefydliadau fel The Wallich, sy’n gweithredu fel hyn, yn dangos sut y gellir gwneud hyn yn y gwir ysbryd o helpu a chefnogi pobl.

“Mae’n gam dewr sy’n grymuso staff i gael yr ymgysylltiad gorau posibl a’r canlyniadau gorau yn y pen draw.

“I mi, mae hyn wir yn newid pethau a fydd, gobeithio, yn arfer safonol yn y blynyddoedd i ddod.”

Pam mae cynlluniau diogelwch yn bwysig a sut maen nhw o fudd i bobl?

Gyda’n gweithdrefn cynllunio ac asesu diogelwch newydd, rydym wedi ymgorffori’r dull cydweithredol sy’n seiliedig ar gryfderau ar gyfer yr unigolyn.

Rydym hefyd yn cadw’r gallu i drafod unrhyw faterion lle gallai’r unigolyn effeithio ar ddiogelwch pobl eraill, a hynny drwy ddefnyddio arddull sgwrsio fwy hamddenol nag asesiad risg llenwi ffurflenni traddodiadol.

Mae’r staff yn cynnal asesiad diogelwch cychwynnol i drafod yr hyn y mae’r defnyddiwr gwasanaeth yn ei deimlo sy’n effeithio ar eu diogelwch, gan roi sylw hefyd i’r wybodaeth a dderbyniwyd yn yr atgyfeiriad.

O’r asesiad cychwynnol hwn, byddwn wedyn yn cydweithio â’r defnyddiwr gwasanaeth i lunio cynlluniau diogelwch manwl ar bob mater perthnasol.

Mae cynhyrchu cynlluniau diogelwch fel hyn yn helpu i feithrin perthnasoedd da ac yn hybu ymdeimlad o ddiogelwch o ddechrau cyfnod rhywun gyda ni.

Mae’r cynlluniau diogelwch yn grymuso ein defnyddwyr gwasanaeth ac yn creu ymdeimlad o ranberchnogaeth, gan ei fod yn eu helpu i ganolbwyntio ar eu cryfderau eu hunain a’u mecanweithiau ymdopi.

Newid sy’n ystyriol o drawma

Rydym yn gwybod ei bod hi’n gam dewr i sefydliad fel The Wallich symud oddi wrth asesiadau risg, ond rydym yn credu bod yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn ffordd well o wneud pethau, ffordd sy’n ystyriol o drawma.

Er ein bod o bosibl ar flaen y gad gyda chyflwyno hyn, rydym wedi rhannu ein gwaith ag eraill ledled y DU ac yn gwybod eu bod yn bwriadu cyflwyno rhywbeth tebyg.

Teimlwn y bydd gweithio fel hyn yn helpu yn y pen draw i leihau’r stigma a’r gwahaniaethu a wynebir gan ein defnyddwyr gwasanaeth a’u helpu i weld eu hunain yn wahanol gyda’u cryfderau eu hunain, yn hytrach na rhywun sy’n ‘risg’.

Gall hyn arwain at well dealltwriaeth o’r bobl rydym yn eu cefnogi ar gyfer asiantaethau a gwasanaethau eraill, wrth i ni rannu asesiadau diogelwch i helpu pobl i symud ymlaen.

Wrth i ni symud i ddefnyddio asesiadau diogelwch a chynlluniau diogelwch, mae’r adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth, staff a phartneriaid yn y sector wedi bod yn gadarnhaol.

Rydym yn edrych ymlaen at gyflawni canlyniadau mwy cadarnhaol gyda’r bobl rydym yn eu cefnogi, gan gydweithio ar ein diogelwch ni gyd a datblygu’r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau yn y sector digartrefedd.

textimgblock-img

Gwrando a dysgu

Ymddangosodd Anthony, Pennaeth Gweithrediadau PIE a Gwasanaethau Therapiwtig ar bodlediad The Frontliine Podcast David Gill yn ddiweddar, gan drafod y gwaith a wnaed i ymgorffori asesiadau a chynlluniau diogelwch.

Gwrandewch ar bodlediadau Apple neu Spotify.

Tudalennau cysylltiedig