Ysgolion a cholegau

Gweithgareddau codi arian cyffrous ac oed briodol ar gyfer eich myfyrwyr

Gall digartrefedd fod yn bwnc dadleuol i’w drafod mewn ysgolion, ond gallwn helpu athrawon i ddatblygu ffyrdd sensitif o godi ymwybyddiaeth o faterion digartrefedd.

Rydym yn helpu ysgolion i godi arian, ac rydym yn darparu adnoddau di-dâl sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm i’w gwneud yn hawdd i ysbrydoli eich myfyrwyr i fynd i’r afael â mater digartrefedd ac i’w hannog i frwydro dros newid.

textimgblock-img

Cymerwch ran yn Onesies Wallich a helpwch bobl ddigartref oddi ar y stryd ac i ddiogelwch.

Mae’n syml – yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud yw dewis diwrnod pan fydd eich disgyblion (a’r staff hefyd) yn gwisgo onesies i’r ysgol ac yn cyfrannu £1 y disgybl.

Gall The Wallich hefyd ddarparu’r canlynol i’ch ysgol:

  • Cynlluniau gwersi am ddigartrefedd
  • Cynlluniau ar gyfer gweithgareddau creadigol yn y dosbarth
  • Syniadau a deunyddiau codi arian.

Cofrestrwch eich diddordeb drwy’r ffurflen isod.

Byddwn yn anfon e-bost cadarnhau Onesies Wallich atoch ac yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw pan fydd eich pecyn llawn hwyl ar y ffordd.

Gweithgareddau codi arian hwyliog, cyffrous ac oed briodol ar gyfer eich disgyblion.

Mae pob £1 sy’n cael ei chodi’n ddigon i ddarparu brecwast cynnes, cysur a chysylltiad â phobl i rywun sy’n cysgu ar y stryd – gan eu helpu i gysylltu â’r gwasanaethau y mae cymaint o’u hangen arnynt.

Hefyd, byddwn yn eich helpu i addysgu sêr y dyfodol i ddeall y gwir am ddigartrefedd yng Nghymru a’r pethau ymarferol y gallant eu gwneud.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm codi arian yn dosomething@thewallich.net neu ffoniwch 02920 668 464

Tudalennau cysylltiedig