Creu eich digwyddiad eich hun

O gasgliadau bwced i dwrnamaint pêl droed, trefnwch eich digwyddiad codi arian eich hun ar gyfer The Wallich

Trefnwch eich digwyddiad codi arian eich hun i gefnogi The Wallich

A ydych chi wedi dechrau cynllunio digwyddiad codi arian cyffrous? Neu a hoffech chi ddangos eich cefnogaeth, ond bod angen ychydig o ysbrydoliaeth neu help llaw arnoch?

Rydym yma i’ch helpu i wneud yn siŵr y bydd eich digwyddiad codi arian yn llwyddiant mawr.

textimgblock-img

12 DIWRNOD, 12 FFORDD

Helpwch ni i fynd i’r afael â digartrefedd y gaeaf hwn gyda’ch ffrindiau, eich teulu, eich grŵp cymunedol neu eich cydweithwyr.

Mae gennym 12 syniad hwyliog, ariannol, ymarferol, cymdeithasol a gwirion i’w dechrau unrhyw bryd – gallech hyd yn oed herio eich ffrindiau a chwblhau’r 12.

Gael gwybod mwy
textimgblock-img

CODWYR ARIAN FACEBOOK

Defnyddiwch eich hoff gyfryngau cymdeithasol i godi arian.

Mae llawer yn pennu targed ar eu pen blwydd neu’n ei ddefnyddio i gyrraedd ffrindiau a theulu yn ystod her noddedig.

Casglwch roddion ar gyfer The Wallich

Anfonwch am eich pecyn codi arian di-dâl heddiw, lle cewch ddigon o gyngor ar sut i drefnu’r digwyddiadau gorau, pob math o awgrymiadau a thriciau bach i’ch helpu i gyrraedd ac i ragori ar eich targed, yn ogystal â defnydd o adnoddau hyrwyddo di-dâl.

Syniadau ar gyfer digwyddiadau codi arian

textimgblock-img

Os rydych chi neu aelod o’ch teulu yn teimlo eich bod yn cael problemau gyda gamblo, gallwch chwilio am gyngor a chefnogaeth gan gwnselwyr proffesiynol ar Gambleaware drwy ffonio 0808 8020 133 am ddim neu fynd ar y wefan www.gambleaware.co.uk.

Tudalennau cysylltiedig