Bwydlenni sy’n Bwysig

Yn gweithio ym maes lletygarwch? Yn berchen ar far, bwyty neu gaffi? Cefnogwch elusen ddigartrefedd gyda’n haddewid Bwydlenni sy’n Bwysig

Bob blwyddyn, mae The Wallich yn cefnogi dros 7,000 o bobl yng Nghymru gyda thai, llesiant, cyflogadwyedd a mwy.

Mae angen ymateb cymunedol i ddatrys digartrefedd.

Gall gweithio gyda bwytai, tafarndai, bariau, caffis a siopau tecawê yn ein cymunedau ein helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, am byth.

Dangoswch eich cefnogaeth

Byddem yn ddiolchgar dros ben pe gallech wneud addewid i roi rhan o gost pryd o fwyd neu ddiod sydd ar eich bwydlen i gefnogi The Wallich.

Beth bynnag fo’r swm, mae eich cefnogaeth yn golygu popeth i ni a phobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru.

Sut mae’n gweithio

textimgblock-img

Dyma ambell awgrym ar gyfer eich bwydlen.

Am bob pryd X rydych chi’n ei archebu, byddwn yn rhoi £1* i The Wallich i helpu i fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru.

textimgblock-img

Bydd 50c* o bob coctel X yn helpu The Wallich i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru

*Cyfraniadau enghreifftiol, rydych chi’n dewis faint i’w addo.

Pa fusnesau sydd wedi rhoi eu helw?

Rydym yn ddigon ffodus i gael sefydliadau gwych i gymryd rhan yn y fenter Bwydlenni sy’n Bwysig.

Lot11, caffi yn Wrecsam wedi cyfrannu 50c o bob Tosti Twrci a werthwyd ganddynt, gan godi swm gwych o £250.

Dywedodd Sarah, perchennog a rheolwr Lot11:

“Fe wnaethon ni ddewis helpu The Wallich gan fod helpu’r rheini sy’n ddigartref yn rhywbeth sy’n agos at ein calonnau yn Ninas Wrecsam. Rydyn ni eisiau mynd i’r afael â’r problemau a gwneud unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i helpu.”

The Stable Caerdydd wedi rhoi 50p o bob pizza Nadolig Full Monty a werthwyd. Fe wnaethon nhw werthu 467 o pizzas Nadolig, gan godi swm anhygoel o £233.50.

textimgblock-img

Dywedodd Charley, Rheolwr Cyffredinol The Stable, Caerdydd:

“Mae gweithio mewn lletygarwch yng nghanol y ddinas yn aml yn golygu nosweithiau hwyr a boreau cynnar, sy’n golygu ein bod yn aml yn gweld pobl sy’n cysgu allan yn ceisio dod o hyd i loches neu rywle i gysgodi am y noson. Roedd yn ymddangos yn syniad gwych cefnogi The Wallich oherwydd eu gwaith caled yn darparu cymorth a chefnogaeth nid yn unig i gael pobl oddi ar y strydoedd, ond i barhau i fuddsoddi mewn pobl a rhoi cefnogaeth barhaus i’r rheini sydd mewn angen yn y gymuned ac ar y strydoedd sy’n amgylchynu ein hadeilad yn uniongyrchol.”

Manteision

Ymwybyddiaeth brand

Gwella eich enw da ymysg cwsmeriaid a gosod eich hun ar wahân i’ch cystadleuwyr.

Bydd The Wallich yn rhannu eich addewid bwydlen â’n cefnogwyr ledled Cymru a allai helpu i gynyddu nifer y rhai sy’n ymweld â’ch lleoliad.

Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol

Mae cwsmeriaid yn fwyfwy awyddus i gefnogi busnesau sydd â chenhadaeth gymdeithasol.

Drwy gynnig addewid bwydlen i The Wallich, gallwch ddangos ymrwymiad i roi’n ôl, a gwneud rhywbeth am ddigartrefedd yn eich cymuned.

Addysg

Gall ein tîm o arbenigwyr gynnig hyfforddiant wyneb yn wyneb (dewisol) gyda’ch staff, gan sicrhau eu bod wedi’u harfogi a’u grymuso gyda’r wybodaeth i ateb unrhyw gwestiynau, neu gyfeirio at wasanaethau os bydd angen.

Bydd The Wallich yn darparu mynediad at adnoddau ar faterion digartrefedd yn eich ardal a bydd yno i’ch cefnogi ar hyd y ffordd.

Tystysgrif

Tystysgrif o ddiolch y gallwch ei dangos yn eich lleoliad yn nodi faint o arian rydych chi wedi’i godi ar gyfer The Wallich.

Y gwahaniaeth y byddwch chi’n ei wneud

Bydd eich cyfraniad yn helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd yn ein cymunedau.

Mae tair rhan i genhadaeth The Wallich, helpu i gael pobl oddi ar y strydoedd, cadw pobl oddi ar y strydoedd a chreu cyfleoedd i bobl.

Rydyn ni’n arbenigo mewn darparu gwasanaethau i bobl sy’n aml yn cael eu heithrio o wasanaethau eraill ac sy’n cael trafferth cael gafael ar lety neu gadw eu tenantiaeth.

Mae’r amrediad o wasanaethau mae The Wallich yn eu cynnig mor amrywiol â’r grŵp o gleientiaid rydyn ni’n gweithio gyda nhw.

Mae atebion tymor hir, yn hytrach nag atebion tymor byr, yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaethau er mwyn byw bywyd mwy diogel, hapusach a mwy annibynnol.

textimgblock-img

Drwy godi arian hanfodol, gall eich busnes helpu rhywun fel Emily*.

Wynebodd Emily naw mlynedd o gam-drin emosiynol a chorfforol ar ei phen ei hun.

Gyda help gan The Wallich, mae Emily bellach yn teimlo’n ddiogel yn ei llety â chymorth, ac mae’n paratoi ar gyfer ei dyfodol.

“Oni bai am The Wallich, fyddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud. Mae’r holl staff yn glên ac i gyd yn eich helpu chi.”

“Dwi’n meddwl fy mod i wedi tyfu ers i mi ddod yma. Dwi wedi gwneud llwyth o ffrindiau newydd ers dod yma. Mae’n teimlo’n saff iawn yma. Mae’r staff yn gwneud yn siŵr ein bod ni mewn amgylchedd diogel.”

Mae gwneud addewid bwydlen yn ffordd syml, ond effeithiol o gefnogi pobl sy’n ddigartref.

Cysylltwch â dosomething@thewallich.net neu ffoniwch 02920 668464 opsiwn 2 a bydd ein tîm wrth law i’ch helpu i ddechrau arni!

 

Tudalennau cysylltiedig