Stori Emily

15 Nov 2021

Ar ôl naw mlynedd o gam-drin emosiynol a chorfforol mae *Emily, 19 oed, yn dechrau dod ati’i hun ar ôl ei thrawma, yn groes i bob disgwyl.

Gyda help The Wallich, mae Emily bellach yn teimlo’n ddiogel yn ei llety â chymorth, ac mae’n paratoi’r ffordd ar gyfer ei dyfodol.

Darllenwch ei stori

Plentyndod anodd

“Fe ges i nhynnu oddi wrth mam yn wyth oed.

Roedd gen i ecsema, a ro’n i’n meddwl mai llosg oedd y marciau. Fe ddwedais wrth yr ysgol fod mam wedi fy llosgi i.

Doedd dim bwyd yno [yn y cartref], roedd fy ngwallt i’n flêr ac yn fudr, ac roedd y tŷ’n drewi o oglau pi-pi.

Fe wnes i ffafr â fi’n hun mewn ffordd, achos fe wnes i symud at dad.

Gwaethygu wnaeth pethau o hynny ymlaen.

Fe wnaeth dad fy ngham-drin i’n emosiynol. Ddim yn rhywiol na dim byd felly, ond yn emosiynol ac yn gorfforol.

Fe ges i fy ngham-drin pan o’n i rhwng 8 ac 17 oed.

Os na fyddwn i’n rhwbio cefn dad, byddai’n fy nharo i.

Ro’n i’n teimlo, ‘Pam ddylwn i orfod gwneud hyn, dim morwyn dwi, dwi’n blentyn i ti’.

Roedd yn anodd. Byddai dad yn tynnu ei deimladau allan arna i.

Byddwn i’n tynnu fy nheimladau allan ar fy nghyn-gariad; ond allwn i ddim peidio. Doedd gen i ddim ffordd o ryddhau fy nheimladau i.

Roedd dad wedi cael ei gam-drin yn blentyn, ac felly’n meddwl ei bod hi’n iawn fy ngham-drin i dwi’n credu. Fe wnes i adael lle dad pan o’n i’n 17 oed.

Mae’r peth wedi chwalu fy mhen i, rhaid i fi gyfaddef.

O safbwynt dad, dwi ddim yn gwybod sut gall rhywun wneud hynny i’w plentyn. Dwi wedi newid lot oherwydd hynny.

Mae’n anodd, achos dwi’n methu rhoi’r peth allan o fy meddwl. Dwi’n cael diwrnod da weithiau, a diwrnod gwael dro arall.

Flwyddyn yn ôl, fis Hydref diwethaf, fe wnes i gymryd gorddos.

Dwi’n cofio’r ambiwlans a phopeth, ond do’n i ddim yno. Mirtazapine oedd y tabledi, y feddyginiaeth dwi’n ei chymryd ar gyfer iselder.

Fe wnes i gymryd gorddos achos fy mod i’n meddwl mod i ddim eisiau bod yma.

A bod yn onest, byddwn i’n gallu gwastraffu fy mywyd i’n llwyr. Dwi ddim yn teimlo’n isel, ond mae fy nghorff i’n boenau i gyd, a dwi’n teimlo mod i’n methu gwneud hyn.

Bywyd teuluol

“Mae gen i frawd a dwy chwaer.

Dwi’n siarad gyda mam, ond dwi ddim mor agos â hi at fy mrawd a fy chwiorydd i.

Fe gollodd mam efell fy mrawd pan oedd hi’n feichiog. A dwi’n teimlo y byddai gefell fy mrawd wedi haeddu cael bod yma.

Mae mam yn fy nhrin i’n wahanol i fy chwaer arall.

Dwi’n siarad gyda nain a taid, sef rhieni dad, ac fe wnaethon nhw roi lot o help i fi. Ro’n i’n mynd i symud i fyw atyn nhw.

Dwi’n dweud popeth wrth nain, ac mae hi’n fy mharchu i. Wneith hi ddim hyd yn oed dweud wrth dad. Dyna pam dwi’n ei pharchu hi.

Dwi’n meddwl y byd o nain a taid.

Maen nhw’n gwybod beth ddigwyddodd. Yn amlwg doedd hi ddim yn hoffi beth oedd yn digwydd, ond doedd dim y gallai hi ei wneud. Doedd hi ddim yno gyda fi.

Fydde hi ddim yn hoffi hynny yn amlwg, ond a bod yn onest, fydde hi ddim yn hoffi ffonio’r heddlu i ddweud am ei mab.”

Cymorth gan The Wallich

“Fe wnes i symud chwe gwaith yn ystod y pandemig.

Dwi yma [ym mhrosiect pobl ifanc The Wallich] ers blwyddyn erbyn hyn.

Mae’r staff yn help mawr. Pan wnes i adael lle dad, doedd gen i ddim byd.

Doedd gen i ddim dillad, ’sgidiau, dim tystysgrif geni na dim byd i ddweud pwy o’n i.

Felly, fe ges i help gan The Wallich i gael tystysgrif geni. Fe wnaethon nhw fy helpu i gael dillad. Fe wnaethon nhw fy helpu i wneud cais am gyfrif banc, oherwydd doedd gen i ddim un.

Fe wnaeth The Wallich fy helpu i fod yn fwy annibynnol.

Ac fe wnaethon nhw helpu fy iechyd meddwl i hefyd. Fe ges i wasanaeth cwnsela gyda Thîm Iechyd Ieuenctid Iechyd da.

Dwi’n hoffi bod yma. Dwi’n siarad gyda’r bobl sy’n aros yma. Mae hi’n gallu bod yn frys gwyllt yma weithiau, ond ar ddiwrnodau eraill mae hi’n braf ac yn hamddenol.

Mae’n debyg i gartref. Mae’n teimlo fel cartref.

Wrth agor y drws, dydych ddim yn teimlo eich bod chi yn The Wallich, rydych chi’n teimlo eich bod chi yn eich fflat fach eich hun.

Mae The Wallich wedi rhoi llawer iawn o help i fi. Hyd yn oed os ydw i mewn hwyliau drwg neu rywbeth, maen nhw’n dal i fy helpu i.”

[Siarad am sut i ymdopi o ddydd i ddydd]

“Dwi’n mynd allan. Dwi ddim yn berson sy’n aros i mewn.

Dwi’n cadw fy hun yn brysur. Dwi’n mynd am dro, dwi’n cwrdd â ffrindiau, dwi’n mynd i siopa, dwi’n gwylio teledu ac yn gwrando ar gerddoriaeth.

Rydyn ni’n gwneud dosbarthiadau coginio. Rydyn ni’n mynd ar dripiau. Llwyth o bethau.

Fis Hydref, mae gennyn ni weithgaredd gyda The Wallich i fynd i gasglu a cherfio pwmpenni, felly dwi’n mynd i fwynhau hynny.

Mae’n rhywbeth i edrych ymlaen ato dydy.”

Anelu at ddyfodol cadarnhaol

“Mae gen i swydd bellach; dwi’n gweithio mewn bar yn Abertawe.

Dwi wedi cynyddu fy oriau yn y gwaith achos dwi ddim eisiau gorfod dangos fy mod i ar fudd-daliadau. Dwi eisiau bod yn berson sy’n dangos fy mod i’n gallu llwyddo.

Dwi eisiau bod yn rhywun sy’n gweithio gyda DNA, neu’r heddlu a safleoedd trosedd. Dwi’n hoffi pethau felly. Dwi ddim yn gwybod pam, ond dyna dwi wedi bod eisiau ei wneud erioed.

Efallai y gallwn i fod yn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu neu rywbeth yn gyntaf, ac wedyn mynd i addysg bellach.

Do’n i ddim yn grêt yn yr ysgol. Dwi wedi gwneud arholiadau TGAU, ond do’n i ddim yn canolbwyntio rhyw lawer yn yr ysgol.

Doedd ysgol ddim i mi. Fe wnes i Saesneg yn y coleg, ond fe wnes i adael y coleg. Dwi ddim yn un ar gyfer ystafell ddosbarth.

Dwi eisiau cael tŷ fy hun.

Dwi ddim yn poeni os yw’n dŷ cyngor ai peidio a dweud y gwir, achos ar ddiwedd y dydd, mae pawb yn gorfod byw.

Dwi eisiau bod y person hwnnw sy’n gwneud i bawb deimlo balchder. Dwi’n meddwl bod taid yn falch ohona i. Ond ar rai dyddiau dwi’n teimlo mod i’n methu gwneud hyn. Ond dwi ddim wedi rhoi’r ffidil yn y to.

Dwi’n falch ohono fi’n hun, ond mae hi’n frwydr ddiddiwedd yn dy ymennydd dydy.

Oni bai am The Wallich, fyddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud.

Mae’r staff i gyd yn glên ac yn eich helpu.

Dwi’n meddwl fy mod i wedi datblygu ers dod yma.

Dwi wir yn mwynhau bod yma. Dwi wedi gwneud llwyth o ffrindiau newydd. Mae’n teimlo’n saff iawn yma. Mae’r staff yn gwneud yn siŵr ein bod ni mewn amgylchedd diogel.”

Dywedodd Olivia, Uwch Weithiwr Cymorth yn The Wallich:

“Drwy gydol ei chyfnod yma, mae Emily wedi magu hyder ac mae bellach wrthi’n gwneud cais am ei chartref ei hun.

textimgblock-img

Mae Emily wastad wedi bod yn awyddus i gymryd rhan mewn gweithgareddau, boed hynny’n golygu gwneud waffls, lliwio ei dillad, a hyd yn oed peintio murlun graffiti.

Mae Emily wedi elwa’n fawr o fyw yma, gyda ffrindiau, atgofion a sgiliau a fydd yn ei helpu ar ei thaith i fyw’n annibynnol.”

Rhagor o wybodaeth am sut mae The Wallich yn helpu pobl ifanc sy’n ddigartref.

*Ffugenw yw Emily i ddiogelu hunaniaeth y cleient

Os oes unrhyw rai o’r pynciau a drafodir yn yr astudiaeth achos hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Ewch i’n tudalen Cymorth a Chyngor i gael rhagor o wybodaeth.

Tudalennau cysylltiedig