Loteri yn y Gweithle

Cynnal Loteri yn y Gweithle ar gyfer Elusen

Gofynion y Loteri

Does dim angen i chi gael trwydded oddi wrth y Comisiwn Hapchwarae i gynnal ‘loteri cymdeithasau bychan’ (o dan £20,000 mewn unrhyw flwyddyn benodol) ond bydd angen i chi gofrestru gyda’ch awdurdod lleol fel hyrwyddwr cymdeithasau bychan.

Mae’n rhad, ac nid oes llawer o fiwrocratiaeth, ac mae’n cadw eich loteri yn gyfreithlon.

 

Gallwch gael gwybod mwy drwy fynd i Sut i redeg loteri cymdeithasau bychan.

 

Loteri

Cofrestru o’r newydd

Pan fydd aelod o staff yn gofyn i ymuno â Loteri, dylid rhoi copi o’r Telerau ac Amodau iddynt a dylent dderbyn e-bost yn amlinellu eu tanysgrifiad yn unol â’r enghraifft isod.

 

“Diolch am ymuno â Loteri Staff << RHOWCH ENW’R BUSNES >>.

Bydd eich taliad cyntaf o £<<FFIGUR>> yn cael ei dynnu o’ch cyflog (ar ôl treth) ar DD/MM/BBBB ac ar ddiwrnod gwaith olaf pob mis ar ôl hynny << DEFNYDDIWCH DDYDDIADAU SY’N BERTHNASOL I’CH BROSES GYFLOGRES>>.

Byddwch yn cael rhif ar hap ac yn cael eich cynnwys yn y loteri yn dilyn pob taliad llwyddiannus hyd nes y byddwch naill ai’n canslo eich tanysgrifiad loteri neu’n gadael <<NODWCH ENW’R BUSNES>>.

Bydd y loteri yn cael ei thynnu bob mis ar ôl prosesu’r gyflogres lle bydd un rhif yn cael ei dynnu ar hap i ennill hanner cyfanswm enillion y loteri. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar e-bost yn fuan ar ôl pob loteri.

Diolch a phob lwc!”

Ar ôl y Loteri

Ar ôl pob loteri, bydd angen i chi gyflwyno manylion rheoleiddio i’ch awdurdod lleol (enghraifft isod).

Manylion Rheoleiddio Enghraifft Trefniadau ar gyfer y loteri, gan gynnwys: • Dyddiadau pan roedd tocynnau ar gael; • Dyddiadau cynnal y loteri; • Trefniadau ar gyfer y gwobrau, gan gynnwys cario unrhyw symiau drosodd (rollover); a • Manylion unrhyw wobrau a roddwyd: • 16/01/2024 – 15/02/2024 • 15/02/2024 • 50% o gyfanswm yr enillion • Ddim yn gymwys Enillion y Loteri (cyfanswm a dalwyd i mewn): £1,000 Symiau a dynnwyd gan hyrwyddwyr y loteri o ran darparu gwobrau (gan gynnwys darparu unrhyw wobrau yn unol ag unrhyw symiau sy’n cael eu cario drosodd) (rollover): £500 Symiau a dynnwyd gan hyrwyddwyr y loteri o ran costau eraill wrth drefnu’r loteri: Ddim yn gymwys Unrhyw swm a roddwyd tuag at ddiben y mae’r Gymdeithas sy’n hyrwyddo wedi’i gynnal: £500 A dalwyd unrhyw dreuliau mewn cysylltiad â’r loteri ac eithrio drwy ddidyniad o’r enillion, ac, os oedd unrhyw dreuliau – (i) swm y treuliau, a (ii) o ba ffynonellau y cawsant eu talu Ddim yn gymwys

Cysylltwch â ni

dosomething@thewallich.net