Hanes Abi – o Wirfoddoli i Gael Swydd

21 Feb 2019

Dechreuodd Abi wirfoddoli gyda The Wallich yn ebrill 2018 cyn cael cynnig swydd lawn-amser yn y tîm cyfathrebu yn awst. Darllenwch sylwadau Abi ar ei siwrnai gyda The Wallich a manteision bod yn wirfoddolwr.

Pam gwirfoddoli gyda The Wallich? 

“Ers fy mod yn ifanc, roeddwn yn ymwybodol o’r ffaith bod digartrefedd yn gyffredin ond wyddwn i ddim sut i helpu. Roedd ceginau bwyd ar Ddydd Nadolig yn llawn bob amser a wyddwn i ddim beth arall i’w wneud ar wahân i roddi arian, oedd yn anodd i fyfyrwraig, neu gael sgwrs gyda phobl yn cysgu allan. 

Yn fy swydd flaenorol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, roeddwn yn gweithio ochr yn ochr â chleientiaid The Wallich oedd yn cymryd rhan yn Behind the Label yn 2016. 

Yna cefais hyfforddiant gan gydlynydd gwirfoddoli yn The Wallich. Rhoddodd yr hyfforddiant gyfle i mi ddeall mwy am yr elusen a sut y gallwn helpu mewn ffyrdd nad oeddwn wedi’u hystyried o’r blaen”.

Wnaethoch chi fwynhau gwirfoddoli? 

“Roedd gwirfoddoli yn brofiad gwych. Teimlais fy mod wedi cael croeso’n syth gan bawb ac roedd fy ymdrechion, waeth pa mor fach oeddent, yn cael eu gwerthfawrogi. 

Bûm yn gwirfoddoli am ddwy flynedd a hanner bob wythnos ochr yn ochr â fy swydd llawn amser. Roedd y drefn yn hyblyg, ac ni roddwyd unrhyw bwysau arnaf o ran yr oriau yr oeddwn yn gweithio. 

Yn ystod fy nghyfnod yn gwirfoddoli gyda’r tîm codi arian a chyfathrebu, gweithiais ar ymgyrchoedd newydd i godi arian, bûm yn helpu i ddylunio deunyddiau, trefnu gwybodaeth ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, ymchwilio i brosiectau yn yr arfaeth ac unrhyw dasg fach y gallwn ei gwneud i ysgafnhau’r pwysau ar y timau.

Er syndod i mi, yn Awst cefais alwad ffôn gan reolwyr CC a chyfathrebu. Cefais gynnig swydd lawn-amser yn y tîm cyfathrebu.  

Roeddwn ar ben fy nigon i fod yn aelod llawn-amser o The Wallich”. 

Beth yw eich eiliadau gorau hyd yma? 

“Wrth wirfoddoli ac ers dechrau fy swydd, rwyf wedi gweld yr ymgyrchoedd y bûm yn gweithio arnynt yn cael eu gwireddu. Er enghraifft, Onesies

Yn ogystal â fy llwyddiannau personol, mae gwybod fy mod yn cyfrannu at helpu miloedd o bobl bob blwyddyn a bod yng nghanol pobl sy’n fy ysbrydoli bob dydd yn golygu bod dod i’r gwaith yn bleser pur”.

Fuasech chi’n argymell The Wallich?

“Buaswn yn argymell gwirfoddoli gyda The Wallich i unrhyw un.  

Dylech fynd amdani, boed i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, i adeiladu ar eich profiad neu os ydych â’ch bryd ar weithio i elusen yn y dyfodol.  

Rwy’n teimlo’n hynod o ffodus o fod yn rhan o deulu’r Wallich.” 

Mynnwch fwy o wybodaeth am wirfoddoli a sut y gallwch ein helpu i atal digartrefedd yng Nghymru.