Cynnig ar gyfer newid o ran darparu Llety â Chefnogaeth i Bobl Ifanc ag anghenion cymhleth yn Sir Gaerfyrddin
Ers 2002, mae prosiect digartrefedd pobl ifanc Clos Sant Paul yn Llanelli wedi sicrhau canlyniadau rhagorol gyda dros 70% o Breswylwyr yn symud ymlaen yn gadarnhaol, 5 o breswylwyr yn mynd i’r Brifysgol a nifer o wobrau lleol a chenedlaethol am waith arloesol.
Fodd bynnag, cyflawnwyd hyn i gyd er gwaethaf yr adeilad a’i leoliad. Mae ystadegau troseddu yn dangos fod yr ardal o fewn 1Km i’r prosiect yn cofnodi lefelau uchel iawn o droseddu gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol a chyffuriau. Does gan yr adeilad ddim derbynfa chwaith sy’n golygu bod diogelwch yr adeilad yn broblemus. Does dim lle gwag y tu allan a fawr ddim preifatrwydd.
Er mwyn goresgyn yr heriau lleoli sydd wedi’u hamlygu, rydyn ni’n cynnig adeiladu pentref meicro yn Sir Gaerfyrddin; datblygiad o 15 cartref cynaliadwy hunangynhwysol ar safle gyda mannau cymunedol a chymdeithasu, golchdy, mannau tyfu, cadw dofednod a gwenyn a man ar gyfer gweithgareddau chwaraeon. Cartrefi gyda fframiau pren fydd y rhain ac wedi’u hinswleiddio’n dda, pob un â gwely, lle byw a choginio, cawod a thoiled. Bydd dau o’r cartrefi’n elwa o fynediad i bobl anabl.
Mae’r mannau cymunedol yn arbennig o bwysig i’r prosiect hwn gan mai hwn fydd canolbwynt y prosiect sy’n rhoi lle ar gyfer gweithgareddau a datblygiadau cymunedol. Rhagwelir y bydd y gymuned yn dod at ei gilydd i baratoi prydau bwyd, yn cael cyfarfodydd rheolaidd ar sut mae’r safle’n cael ei reoli, yn darparu lle i gyflwyno sesiynau ar bynciau perthnasol a nodir yn ogystal â sesiynau cefnogi grŵp a chyfleoedd hyfforddi. Bydd yr adnoddau hefyd ar gael, drwy drefniant, i gleientiaid allanol o The Wallich a phartneriaid.
Bydd gan y pentref meicro bwyslais cryf ar dyfu ei gnydau ei hun, magu gwenyn, cadw dofednod a rheoli ei waith cynnal a chadw ei hun. Bydd hyn yn cael ei gydlynu gan ofalwr, a fydd hefyd yn mentora ac yn hyfforddi’r preswylwyr i ddatblygu sgiliau yn y meysydd hyn a chymryd perchnogaeth o’r cyfrifoldebau hyn. Bydd y safle’n elwa o deledu cylch cyfyng, cynhwysiant digidol llawn, ac yn darparu mannau cymdeithasol a domestig cymunedol, gan ddarparu cyfleoedd i drigolion ddatblygu sgiliau ymarferol a chymdeithasol; ac yn sgil hynny, hyrwyddo agwedd gymunedol y prosiect a lleihau teimladau o unigrwydd.
Bydd gan y safle agwedd ecolegol ac amgylcheddol gyfeillgar tuag at gynhyrchu, defnyddio/effeithlonrwydd ac ailgylchu adnoddau. Bydd trydan yn cael ei gynhyrchu gan baneli ffotofoltaidd wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad. Gallai’r toiledau fod yn rhai compostio, a bydd dŵr glaw yn cael ei gasglu. Yn dibynnu ar y safle, gellid comisiynu adroddiad ecoleg a chyflwyno’r mesurau a argymhellir i wella bioamrywiaeth y safle. Ym marn The Wallich, mae gan bobl ifanc y cyfle i gael eu cyflwyno i dechnoleg a ffordd o fyw ecolegol ac amgylcheddol yr unfed ganrif ar hugain.
Cafodd cysyniad y pentref meicro ei gyflwyno i The Wallich yn 2016 gan Nerina Vaughan, Technolegydd Pensaernïol. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw bentrefi meicro (o unrhyw fath) ar gyfer pobl ifanc sy’n ddigartref yn y DU.
Mae The Wallich yn chwilio am safle addas ar hyn o bryd ac mae’n cynnal trafodaethau gyda darparwyr cyllid amrywiol i sicrhau cynaliadwyedd tymor hir y prosiect.