Seren pêl droed Cymru’n cyrraedd Gwersyll Cyntaf Everest er budd y Wallich

31 May 2024

Derbyniodd seren pêl droed, Cymru, Arsenal a Barry Town Ayshea Martyn her Gwersyll Cyntaf Everest i godi arian i The Wallich

Llwyddodd i godi’r swm arbennig o £395 er budd pobl sy’n profi digartrefedd.

Cawsom gyfle i gael sgwrs ag Aysha am ei phrofiad ar ôl iddi ddychwelyd i Gymru.

Ayshea Martyn at Everest Basecamp

A wnewch chi roi ychydig o’ch hanes inni?

“Ayshea ydw i.

Ar ôl 24 mlynedd o weithio i’r cyngor fel rheolwr cartref gofal a gofalwr, penderfynais ei bod yn amser am newid a dechreuais weithio i’r gwasanaeth tân. Roedd yn newid llwyr.

Rwyf yn un sy’n mwynhau her. Rwyf wedi gwneud y tri chopa cenedlaethol, tri chopa Cymru ddwywaith a thri chopa De Cymru.

Ond, mae Everest yn rhywbeth rwyf wedi bod eisiau rhoi cynnig arno ers amser maith.”

Pa baratoadau wnaethoch chi i ddringo i Wersyll Cyntaf Everest?

“Mae pob un o’r heriau tri chopa wedi bod yn ymarfer da. Ond, ni allwch baratoi ar gyfer yr uchder, does dim mynyddoedd digon uchel yma.

Pan oeddem yno [yn y Gwersyll cyntaf], mi gawsom dridiau o ymarfer uchder. Roeddem yn dringo ac yn dringo ac yn dringo, yn gwneud gwaith ymarfer ar uchder, dod yn ôl i lawr ac yna gorffwys am y noson.

O ran ffitrwydd, rwyf yn cerdded, rhedeg, seiclo, dringo neu gerdded mynyddoedd drwy’r amser, felly rwyf wedi gwneud llawer o waith ffitrwydd.

Rhaid imi hefyd gadw’n ffit er mwyn fy ngwaith, felly mae’n rhywbeth parhaus imi.”

Pam wnaethoch chi ddewis codi arian i elusen ddigartrefedd? Ac Y Wallich, yn benodol?

“Mi wnes i ddewis digartrefedd oherwydd lle bynnag rwyf yn mynd, rwyf yn ei weld ym mhob man, ac mae gweld pobl ar y stryd yn fy ngwneud yn drist.

Diolch i chi mae Y Wallich yn helpu i gael pobl oddi ar y strydoedd, eu cadw oddi ar y strydoedd a rhoi’r modd iddynt i fynd ymlaen i wneud rhywbeth arall, ac mae hynny’n beth gwych.

Rwy’n meddwl bod y gwaith rydych yn ei wneud yn wych.

Mae’n rhywbeth rydych yn ei weld ym mhob man ac mae cael pobl oddi ar y strydoedd, hyd yn oed os mai dim ond ychydig ar y tro, mae hynny’n wych.”

A allwch chi roi syniad inni o sut le yw Gwersyll Cyntaf 1?

“Roedd yn … mae mor anodd ei ddisgrifio, nid yw hyd yn oed y lluniau’n rhoi syniad i chi o’r lle.

Roedd yn rhyfeddol.

Dyma’r peth anoddaf rwyf wedi’i wneud erioed yn fy mywyd oherwydd yr uchder, Rydych yn deffro yn y nos ac yn colli eich gwynt.

Mae’r uchder bron i 18,000 metr. Rydych yn gweld hofrenyddion ar yr un uchder ag yr ydych yn cerdded. Dyna pa mor uchel ydych chi.

Mae’r Gwersyll Cyntaf yn lle rhyfeddol, roedd yn rhewi am ei bod wedi bod yn bwrw eira. Mi wnes i ddechrau’n gwisgo crysau T a throwsus byr ac yna ar ôl inni gyrraedd yno roedd yn rhewi.

Mi oeddech yn deffro yn y bore ac mi oedd eich diod wedi rhewi. Yr oeraf oedd -17 gradd, dwi’n credu.

Roedd y Gwersyll Cyntaf yn lle cofiadwy iawn, roedd mor fywiog.”

Beth oedd y peth anoddaf? Sut oeddech chi’n delio â’r cyfnodau mwyaf anodd?

“Yr oerni oedd y peth anoddaf imi, mi oedd gennych ddillad addas ond, os oedd yn rhaid i chi godi yng nghanol y nos, doeddech chi ddim eisiau gadael eich sach gysgu.

Mi oeddech yn deffro ac mi oedd y ffenest wedi rhewi a byddai pibonwy ar y ffenestri.

Mi oeddwn yn rhoi un haen o ddillad ar ben y llall, a dyna sut wnes i ddod trwyddi.

Roedd pobl eraill yn fy helpu i ymdopi hefyd.

Mi wnes y Gwersyll Cyntaf i mi fy hun ar gyfer fy mhen blwydd yn 50, felly mi oedd hynny’n hwb hefyd.

Roeddwn yn codi arian ac mi oeddwn eisiau codi cymaint â phosibl.

Mi wnaeth pawb fy helpu; y grŵp, y golygfeydd, y bobl, cefnogaeth fy nheulu, popeth!”

Beth oedd yr uchafbwynt?

“Roedd pobl Nepal yn bobl hynod iawn. Does ganddyn nhw fawr ddim a dweud y gwir, ond mi oeddent yn eich croesawu i’w cartrefi ac yn hapus i rannu eu cawl â chi. Maent yn bobl arbennig iawn.

Mi oedd y golygfeydd yn fythgofiadwy, cyrraedd y Gwersyll Cyntaf a gweld pawb arall a oedd yno a hefyd gweld timau a oedd yn dringo Everest.

Roedd y cyfan yn un uchafbwynt mawr, roedd yn wych, yn rhyfeddol.”

Pam ddylai pobl eraill dderbyn her er budd Y Wallich?

“Mae angen cael pobl oddi ar y strydoedd, mae mor drist.

Mae’n boen calon gweld pobl ar y stryd.

Rwy’n credu y dylai pobl wneud mwy o heriau i godi arian, a helpu i gael pobl oddi ar y strydoedd, cael hyfforddiant ar eu cyfer, a’u helpu i gael gwaith.”

Ydych chi eisiau mynd i’r afael â her newydd i godi arian ar gyfer elusen ddigartrefedd? Ewch i’n tudalen Codi Arian neu anfonwch e-bost i dosomething@thewallich.net

Tudalennau cysylltiedig