Stori Stevan

12 Feb 2019

Darllenwch brofiad Stevan o ddigartrefedd yng Ngorllewin Cymru. Mae wedi cymryd rhan yng Ngwasanaeth Datrysiadau Ceredigion ac mae’n gobeithio am ddyfodol newydd.

“Cyn dod i gysylltiad â The Wallich, roeddwn yn byw mewn pabell yn y goedwig gyda fy nghi Jack.

Ac eithrio ychydig o denantiaethau byr, roeddwn wedi bod yn ddigartref ers 30 mlynedd.

Rwyf wastad wedi cael trafferth setlo. Y rheswm am hynny’n rhannol yw nad wyf yn teimlo’n ddiogel dan do, oherwydd trawma a achoswyd gan dân ar aelwyd y cartref pan oeddwn yn blentyn. Rwyf hefyd wedi cael problemau gydag alcohol fel oedolyn. 

Cael cymorth

Mae The Wallich wedi fy helpu mewn sawl ffordd; mae hyn yn cynnwys darparu adnoddau i rai sy’n cysgu allan fel brecwast cynnes, cawodydd cynnes, parseli bwyd a gwasanaethau golchi.

Cefais sach cysgu pan falodd fy un i a blancedi ychwanegol pan oedd y tywydd yn oer. Gwnaethant gais am grant ar gyfer popty y tu allan oedd yn gymorth gwirioneddol.
Darparodd The Wallich gyfeiriad dan eu gofal ar gyfer fy llythyrau. Helpodd hyn i sicrhau cyswllt rhyngof â gwasanaethau eraill fel yr awdurdod lleol a gwasanaethau iechyd/budd-dal.

Yn olaf, daethant o hyd i lety i mi; maen nhw wedi fy helpu i ymgeisio am grantiau ar gyfer blaendaliadau rhent ac wedi cysylltu gyda’r landlord ar fy rhan.
Heb The Wallich, buaswn yn dal yn fy mhabell.

Edrych ymlaen

Rwy’n awyddus i ddechrau gwneud gwaith gwirfoddol er mwyn helpu eraill. Credaf ei fod yn bwysig addysgu’r ifanc ynglŷn â digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau.

Hoffwn gyfarfod rhywun a setlo. Teimlaf nad wyf bellach yn ddigartref a bod cael cartref yn rhywbeth llawer mwy realistig.

Rwy’n dal i gael fy synnu braidd gan y newid sydyn yn fy ffordd o fyw ac mae’n teimlo’n chwithig treulio cymaint o amser dan do.

Ond rwy’n edrych ymlaen at weithio ar feysydd eraill o fy mywyd, gan fod gen i leoliad sefydlog bellach.

Rwyf wedi dechrau gweithio gyda’r gwasanaeth cyffuriau ac alcohol lleol i ddelio â fy mhroblem yfed ac rwy’n gobeithio dechrau mentora eraill rhyw bryd yn y dyfodol i helpu pobl sy’n mynd trwy’r un profiad â mi.

Mae fy iechyd wedi gwella’n sylweddol ers i mi fyw dan do.

Hoffwn ddiolch o galon i The Wallich, am y cymorth a’r gefnogaeth y maent wedi’i roi i mi yn ystod y llynedd.”

Llun trwy garedigwrydd Cambrian News, www.cambrian-news.co.uk

Hefyd mae Stevan wedi ymddangos yn ddiweddar mewn erthygl yn y Cambrian News.

Darllenwch fwy am The Wallich neu am ein hystadegau diweddaraf am gysgu allan.