Yng nghymoedd Bro Morgannwg, mae recriwtiaid diweddaraf, Arc Academy ar gyfer ei fwtcamp adeiladu, yn gweithio’n galed ar eu prosiect newydd.
Gyda chymorth parhaus gan dîm Adeiladu Cyfleoedd Sgiliau a Llwyddiant (BOSS) The Wallich, yn ddiweddar dewiswyd rhai o’n defnyddwyr gwasanaeth i gymryd rhan mewn cwrs dwys unigryw am bedair wythnos.
Mae ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes adeiladu neu waith daear, ond na wyddant sut i fynd ati.
Mae gweld ein cleientiaid yn datblygu a dysgu yn ystod y cwrs yn ein hysbrydoli. Yn sgil eu set sgiliau newydd daw gobaith, gan helpu i leihau stigmâu cofnod troseddol ar gyfer y dyfodol.
Buom yn cyfweld rhai o’r dynion ac yn holi eu barn am y cwrs. Gwyliwch ein fideo byr:
Bûm yn ddi-waith am bedwar mis, gan fod fy ngherdyn CSCS wedi dod i ben ac nid oedd gennyf arian i’w adnewyddu. Doedd pethau ddim yn argoeli’n dda nes i mi glywed am The Wallich.
Andrew
Dysgodd nifer o’r cyfranogwyr egwyddorion adeiladu cwbl newydd neu cawsant gyfle i uwchsgilio o’u profiad blaenorol er mwyn cael gwell cyflog. Roedd y cwrs yn cynnwys nifer o sgiliau, er enghraifft:
Rydym yn falch iawn fod tri o’n cyfranogwyr wedi sicrhau swyddi cyflogedig, parhaol llawn-amser o ganlyniad uniongyrchol i’r bwtcamp a’r cymorth a ddarparwyd gan BOSS.
Mae cynnig profiadau unigryw i gleientiaid yn rhywbeth yr ydym yn ymfalchïo ynddo, yma yn The Wallich.
Yn ogystal â’r cyfle i ddysgu sgiliau newydd a chael gwell rhagolygon gwaith, mae’r profiadau yr ydym yn eu cynnig i bobl yn gwella eu hyder i allu delio ag unrhyw beth yn eu bywydau.
Roedd fy mywyd yn eithaf anodd cyn hyn. Fyddwn i ddim wedi cael y cyfle a roddodd The Wallich i mi.
-Paul
Doedd fy mywyd cyn dod i gysylltiad â The Wallich ddim yn dda iawn. Buaswn wedi bod yn ddigartref a di-waith.
-Lee