Dewch i gwrdd â rhedwyr gwych Marathon Llundain 2019

13 Feb 2019

Bob blwyddyn, mae’r Wallich yn cynnal pleidlais elusennol am ddim ar gyfer Marathon Llundain Virgin Money. Mae rhedwyr yn gwneud cais drwy ddweud pam eu bod am redeg y marathon, pam eu bod wedi dewis rhedeg dros elusen ddigartrefedd a sut maen nhw’n bwriadu codi arian.

Mae Marathon Llundain yn ras enwog sy’n cynnwys dros 40,000 o redwyr bob blwyddyn. Mae’r cwrs 26.2 milltir trawiadol yn pasio rhai o atyniadau mwyaf Llundain, gan gynnwys Tŵr Llundain, y London Eye a Phalas Buckingham.

Yn dilyn cais trawiadol, coronwyd Amy Davidson o Ben-y-bont ar Ogwr yn enillydd lwcus ar gyfer cael lle yn ras 2019.

Wrth iddi baratoi i gynrychioli digartrefedd yng Nghymru, dyma ychydig mwy am Amy a sut mae ei hyfforddiant marathon yn dod yn ei flaen.

Pam wnes di ddewis The Wallich?

“Mae fy mam wedi gwirfoddoli gyda thîm allgymorth The Wallich ers tua 7 mlynedd gan helpu gyda’r Brecwast Rhedeg ar benwythnosau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, felly ro’n ni’n gwybod am gwaith hollbwysig The Wallich.

Pan redais Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref cefais fy synnu gan y nifer o bobl ddigartref oedd i’w gweld yn y brifddinas ac o’i chwmpas. Roeddwn i eisiau gallu defnyddio fy ras nesaf i godi ymwybyddiaeth ac i godi arian i atal hyn”

Sut rwyt ti’n codi arian?

“Rydw i wedi cynnal neu drefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau – gwerthu cacennau, rafflau, nosweithiau cwis ac ati.

Ym mis Mawrth rwy’n cynnal #MarchMarathon – ras rhithwir. Mis Mawrth fydd y mis allweddol lle rydw i wir yn cynyddu’r milltiroedd i baratoi ar gyfer Marathon Llundain ddiwedd mis Ebrill.

Rwy’n gofyn i ffrindiau, teulu a chydweithwyr ymuno â fi i redeg, loncian neu gerdded 26.2 milltir drwy gydol mis Mawrth – does dim angen gwneud hynny mewn 1 tro, gallwch wneud llai na milltir y dydd.

Bydd pawb sy’n cwblhau’r her yn cael medal anhygoel am eu gwaith caled!! (os hoffai unrhyw un gymryd rhan cysylltwch â fi) “.

Sut gall pobl gyfrannu?

“Gall pobl gyfrannu drwy’r dudalen Just Giving neu drwy ddod i un o’r digwyddiadau”.

Beth yw dy gynllun hyfforddi?

“Rwy’n rhedeg yn rheolaidd. Rwy’n rhedeg gyda’r Pencoed Panthers.

Y llynedd, fe wnes i gwblhau pedwar hanner marathon ac rwy’n cynnal fy lefelau ffitrwydd drwy redeg 10+ milltir bron bob penwythnos, yn ogystal â rhedeg 3-4 gwaith yr wythnos.

Rwyf hefyd yn cymryd rhan yn Parkrun Porthcawl yn rheolaidd.

I gwblhau’r marathon rwy’n dilyn cynllun. Mae’n gynllun 16 wythnos ac mae’n cynnwys cynyddu’r pellter rwy’n ei redeg ar y penwythnos tua milltir yr wythnos (ar hyn o bryd mae hyd at 14 milltir). Rwyf hefyd wedi cynyddu fy hyfforddiant yn ystod yr wythnos gan ychwanegu sesiynau pellter ac ymdrech ychwanegol.

Rwyf wedi dechrau mynd i ddosbarth Pilates i sicrhau bod fy nghorff yn gallu adfer”

Sut mae’r hyfforddiant yn mynd?

“Mae fy hyfforddiant yn mynd yn wych. Dwi mor falch o fod yn rhedeg Marathon Llundain.

Ar ddiwedd mis Ionawr, fel y rhan fwyaf o’r wlad, cefais fy llorio gan annwyd ofnadwy ac ar ôl dechrau teimlo’n well, dwi’n barod i ddechrau rhedeg mwy o filltiroedd.

Ar 10fed Chwefror, gwisgais fy fest Wallich a rhoi cynnig ar hanner marathon Llanelli “.

Beth rwyt ti’n edrych ymlaen amdano fwyaf yn Marathon Llundain?

“Mae pawb rydw i wedi siarad â nhw sydd wedi cwblhau Marathon Llundain yn dweud ei fod yn brofiad unwaith mewn oes.

Alla i ddim aros i gymryd rhan a thicio’r blwch oddi ar fy rhestr fwced. Ond yn fwyaf pwysig, codi cymaint o arian â phosibl i helpu i gefnogi ac atal digartrefedd yng Nghymru”.

Os hoffech ddilyn taith hyfforddi Amy neu gael gwybod am unrhyw un o’i digwyddiadau / heriau, dilynwch ei sianeli cymdeithasol.
Twitter – @AmyVLM2019

Instagram – @AmyVLM2019

Cyfrannwch nawr a helpwch Amy i gyrraedd ei tharged o £1,500

Ydych chi am roi cynnig ar her newydd i godi arian ar gyfer elusen ddigartrefedd? Ewch i’n tudalen Codi arian neu e-bostiwch dosomething@thewallich.net nawr.

Tudalennau cysylltiedig