“Mae’n destun pryder go iawn fod rhai cynghorau’n cyflawni eu dyletswydd i gefnogi pobl drwy eu hanfon i’r sector rhentu preifat sy’n amlwg yn orlawn ac yn anfforddiadwy. O ganlyniad, rydyn ni’n gweld cynnydd mewn digartrefedd ac mae mwy a mwy o’r bobl sydd angen ein cymorth ni’n teimlo mwy o ofn, gorbryder a gofid.
“Mae ein gweithwyr cymorth yn dweud bod cyflwyno Credyd Cynhwysol yn cael effaith enfawr a niweidiol ar bobl – ôl-ddyledion rhent, colli tenantiaethau, perygl o ddod yn ddigartref.
“Yr ateb tymor hir ydy darparu rhagor o dai sy’n wirioneddol fforddiadwy. Yn y tymor byr, mae angen i fudd-dal tai gynyddu i’r un gyfradd â phrisiau rhenti sy’n codi; fel arall, fydd pobl ddim yn gallu ennill.
“Hefyd, mae angen i ni wneud mwy fel cymdeithas i roi diwedd ar y stigma sy’n gysylltiedig â’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘fudd-daliadau’. Mae 20 miliwn o bobl yn y DU yn derbyn rhyw fath o fudd-daliadau.
“Rhaid rhoi’r gorau i ystyried pobl sy’n hawlio budd-daliadau a thwyllwyr budd-daliadau yr un peth, ac mae gofyn cael ymateb cymunedol go iawn i herio gwahaniaethu yn erbyn y rhai sydd â’r lleiaf.
“Mae hyd yn oed defnyddio termau fel ‘budd-daliadau’ neu ‘gredyd’ yn amhriodol – nid braint ydy rhoi cymorth i rywun heb ddim; mae’n rhywbeth sy’n foesol gywir i’w wneud.
“Yn ymarferol, mae cael gwared â stigma yn dechrau â landlordiaid yn rhoi’r gorau i wrthod derbyn tenantiaid sy’n cael cymorth budd-daliadau.
“Ar lefel uwch, mae angen i’r banciau newid eu polisïau hefyd, mewn rhai achosion, er mwyn caniatáu i landlordiaid osod tai ar rent i bobl sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, ac mae gofyn i’r llywodraeth wneud mwy i orfodi hyn a herio gwahaniaethu.”