Y Gweinidog Tai Julie James AC yn cyhoeddi £10 miliwn o arian gan Lywodraeth Cymru i bobl ddigartref a rhai sy’n cael trafferth hunan-ynysu yn ystod haint y Coronafirws. Rhoddir y cyllid i awdurdodau lleol i brynu ystafelloedd mewn gwely a brecwast neu westy, llety myfyrwyr gwag a llety arall i redeg ochr yn ochr â’r llety sydd eisoes ar gael i bobl sy’n cysgu ar y stryd.
“Rydym yn croesawu’r newyddion heddiw am yr arian ychwanegol i bobl ddigartref yn ystod haint COVID-19.
“Mae bron yn amhosib hunan-ynysu os nad oes gennych gartref; fel sector, rydym wedi bod yn poeni am sut i ddelio â hyn ac wedi bod yn galw gyda’n gilydd am gymorth gan y llywodraeth i’n helpu i gadw pobl yn ddiogel. Gobeithio y gellir defnyddio’r cyllid hwn i roi pethau yn eu lle i bob person, beth bynnag yw eu hamgylchiadau.
“Nid oes amheuaeth mai COVID-19 yw’r her fwyaf i ni ei hwynebu fel mudiad rheng flaen sy’n delio â digartrefedd a chysgu ar y stryd. Mae’r Wallich ac elusennau digartrefedd eraill yn wynebu problemau o ran staffio, lle mae pobl yn gorfod rhannu llety, a chael gwybodaeth i’r bobl sydd fwyaf ei angen. Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n staff a’n gwirfoddolwyr sy’n dal i weithio’n ddiflino ac yn greadigol i roi cymorth ar adeg pan fo’r bobl yr ydyn ni’n gweithio gyda nhw’n arbennig o fregus.
“Yn ogystal â’r arian, rydym yn croesawu sicrwydd y Gweinidog y gwneith ei gorau glas i cael gwared â’r rhwystrau dyddiol a wynebir gan ein cleientiaid a sicrhau mynediad cyfartal at y gwasanaethau sydd eu hangen mor daer arnynt. Gobeithio y gall ychydig o obaith i’r bobl a gefnogwn ddod allan o’r argyfwng hwn.”
“Bydd yr wythnosau a’r misoedd nesaf yn eithriadol anodd i ni gyd, ond i’r rhai nad oes ganddynt sicrwydd o gartref, ac i’r bobl sy’n gweithio’n ddiflino i’w helpu, bydd yn amser arbennig o galed.
“Bydd llawer ohonynt efallai heb y cyfleusterau i gadw at y canllawiau iechyd cyhoeddus ar lendid ac ynysu.
“Bydd y cymorth ariannol o £10m a gyhoeddaf heddiw’n sicrhau bod gan bobl sydd eisoes neu sydd mewn perygl o gysgu ar y stryd, a rhai sydd mewn llety dros dro anfoddhaol, y cymorth a’r adnoddau angenrheidiol i ddiogelu eu hunain yn ystod yr argyfwng.
“Rydym hefyd yn cymryd camau i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru, beth bynnag yw eu statws mewnfudo, y cymorth i aros yn ddiogel ac iach dros y cyfnod hwn.”