Gan awgrymu mai cysgwyr ar y stryd sy’n achosi’r anhrefn mwyaf yng nghanol y ddinas, ymatebodd FOR Cardiff gyda datganiad cyhoeddus yn awgrymu bod angen mwy o blismona ac y dylai ein siwrne frecwast roi’r gorau i ymgysylltu â phobl ar hyd Heol Eglwys Fair.
“Mae digartrefedd yn aml yn bwnc sy’n hollti barn oherwydd diffyg dealltwriaeth, emosiynau cyfeiliornus a chydnabyddiaeth anghyffyrddus fod tlodi fel hyn yn dal i fodoli yn 2019. Yn y Wallich rydym yn hynod siomedig gyda’r cyfathrebiad hwn gan FOR Cardiff ac yn poeni’n arw am yr iaith a ddefnyddiwyd a’r hyn y mae rhai aelodau o’r gymuned fusnes yn awgrymu y dylid ei wneud. Mae hyn yn ymateb caled a gelyniaethus i argyfwng dynol diymwad.
I fod yn glir, ni ofynnwyd i ni roi’r gorau i’n siwrne frecwast, ac ni wnawn hynny. Mae cyfathrebiad cyhoeddus wedi’i ryddhau’n awgrymu y gofynnwyd i ni ddarparu ein gwasanaethau yn rhywle arall. Nid yw hyn yn wir.
Mae ein Tîm Ymyrraeth Cysgu ar y Stryd, neu’r siwrne frecwast, yn wasanaeth hanfodol a ddarperir mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd ac mewn cerbyd wedi’i dalu amdano gan bobl Caerdydd drwy ymgyrch gan y South Wales Echo. Mae’n aml yn bwynt cyswllt cyntaf i bobl sy’n canfod eu hunain yn ddigartref. Mae’n cynnig bwyd poeth, cyngor a gwasanaeth cyfeirio i helpu pobl i ddod oddi ar y stryd ac i mewn i gartref.
Wrth i’r gaeaf gyrraedd, rydyn ni ar hyn o bryd yn gweld 50 o bobl a mwy ar strydoedd canol y ddinas bob bore – mwy na dwywaith y nifer o’i gymharu â chwe blynedd yn ôl. Dengys ffigurau Llywodraeth Cymru fod cysgu ar y stryd ar draws Cymru wedi cynyddu o 45% rhwng 2015 a 2018. Mae hyn yn argyfwng cenedlaethol ac ni allwn ac ni ddylen ni geisio ei anwybyddu.
O ystyried ymrwymiad diweddar Llywodraeth Cymru i roi allgymorth i’r digartref, fel ymateb i’r Gweithgor Digartrefedd a sefydlwyd gan y Gweinidog, byddai’n syndod pe byddent o blaid hyn. Maen nhw wedi cyflwyno cynlluniau i wneud allgymorth yn fwy grymusol.
Mae allgymorth grymusol yn gweithio gyda’r cysgwyr ar y stryd sydd wedi dieithrio fwyaf. Os yw hyn i weithio, rhaid bod yn gyson, pwrpasol a mynd at y bobl sydd mewn angen, nid disgwyl iddyn nhw ddod at y gwasanaeth.
Mae’r syniad bod cynnig hawliau dynol sylfaenol i bobl, a holi am eu lles, yn eu hannog i gysgu yng nghanol y ddinas yn hollol hurt. Mae pobl yn cysgu ar strydoedd prysur am nifer o resymau – diogelwch, cynhesrwydd fentiau gwres, i gael cwmni eraill, eisiau teimlo’n rhan o gymdeithas – nid i fanteisio ar y frechdan facwn a’r baned goffi mewn cwpan blastig am 7am.
Os yw cymuned fusnes Heol Eglwys Fair yn awyddus i weld lleihad gwirioneddol mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwell fyddai mynd i’r afael ag ymddygiad yr hwyl a sbri-wyr sy’n llifo allan o’r tafarndai a’r clybiau ar nos Wener a Sadwrn.
Ymddengys fod y gost o lanhau’r sbwriel, amser yr heddlu a’r pwysau ar y GIG yn dderbyniol oherwydd eu bod yn ‘gwsmeriaid’ sy’n talu.
Lle mae ymddygiad troseddol, fel delio cyffuriau, yn digwydd ymhlith cysgwyr strydoedd Caerdydd, cytunwn yn llwyr fod angen rhoi sylw i hyn. Yn aml iawn mae cysgwyr ar y stryd yn cael eu targedu gan ddelwyr cyffuriau, ac os gallwn wneud i ffwrdd â’r gadwyn gyflenwi rhaid gwneud hynny.
Yr hyn na ddylen ni ei wneud yw targedu a chosbi pobl fregus dim ond oherwydd eu diffyg cartref. Mae bod yn ddigartref yn golygu na allwch ymolchi na chael cawod a nunlle i gadw eich pethau. Cewch eich cau allan o rywle i fynd i’r tŷ bach. Gall trawma hefyd arwain at gymryd cyffuriau neu alcohol i fferru’r poen meddwl.
Yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau cymdeithasol sy’n creu’r sefyllfa ac edrych ar y bobl hyn gyda thosturi a charedigrwydd gan feddwl sut y gallwn wneud bywyd yn well iddynt. Mae angen ymateb cymunedol i ddigartrefedd lle mae Llywodraeth, y cyhoedd, elusennau a busnesau’n gweithio gyda, ac nid yn erbyn, ei gilydd.”
Llun: © Hawlfraint Jaggery