Gyda chymorth The Wallich, llety arbenigol ac agwedd gadarnhaol tuag at wirfoddoli, mae Ian wedi gweddnewid ei fywyd.
“Roeddwn yn byw gyda fy rhieni yng Nghaerdydd pan gefais gymorth gan wasanaethau The Wallich ym mis Gorffennaf 2016.
Cyn hynny, ychydig iawn o gymorth a ges i, er bod fy sefyllfa’n un adnabyddus. Dim ond pan ddois i i The Wallich y ces i gefnogaeth sylweddol ac ystyrlon.
Fe ddois i i The Wallich oherwydd fy mod yn camddefnyddio alcohol. Roedd fy rhieni wedi cael digon ohono i’n manteisio ar y sefyllfa a phenderfynon nhw nad oeddwn yn gallu byw â nhw mwyach.
Ar ôl treulio cyfnod byr yn aros yn eu Lloches Nos, sydd yn Grangetown yng Nghaerdydd, cefais gynnig ystafell gyda The Wallich ar eu prosiect Shoreline; yn byw gyda phobl eraill oedd â phroblemau tebyg i mi.
Wnaeth fy mhroblemau i ddim digwydd dros nos. Fe gymerodd sawl blwyddyn i gyrraedd y pen, ond fesul diwrnod, fesul mis, roedd pethau’n gwaethygu’n raddol. Roeddwn yn gweithio’n gyson, yn mynd ar wyliau yn rheolaidd yn y wlad yma a thramor ac roedd gen i arian i’w wario.
Dros amser, fe wnes i sylweddoli bod yn rhaid delio â fy mhroblemau alcohol. Roedd gen i help a chefnogaeth 24-awr, a wnaeth fy helpu’n fawr.
Dros amser, dechreuais sylweddoli faint oeddwn i, nid yn unig yn brifo fi fy hun, ond yn brifo pobl eraill o’m cwmpas.
Ar ôl cwblhau cwrs WISE The Wallich ddechrau 2017, roeddwn yn ddigon ffodus i allu dechrau gwirfoddoli gydag adran gweithgareddau codi arian a phartneriaethau’r elusen, ac rydw i’n dal yn weithgar gyda hynny hyd heddiw.
Yn ogystal â fy ngwaith gyda’r tîm codi arian, rydw i wedi gweithio ochr yn ochr ag adrannau eraill yn cynnal cyfweliadau, gan gyfrannu pâr ychwanegol o ddwylo a siarad am fy stori mewn sawl cynhadledd. Mae hyn yn rhoi balchder a chyfrifoldeb i mi ond mae hefyd yn fy helpu i wella fy sgiliau personol, y gallaf eu defnyddio yn y dyfodol.
Nid yn unig y mae cymryd rhan yn y rhain yn rhoi cyfrifoldeb imi, mae hefyd yn fy helpu i ymdrin â’m problemau.
Nid yn unig y mae The Wallich wedi rhoi lle diogel i mi fyw, maent wedi fy helpu i fynychu cyfarfodydd ac wedi f’arwain i drwyddyn nhw.
Maen nhw wedi fy helpu i gymryd rhan mewn sawl prosiect, gan gynnwys prosiect a gafodd ei gefnogi ar y cyd gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Roeddem wedi curadu arddangosfa gelf, o’r enw Who Decides, a oedd i’w weld yn yr amgueddfa am sawl mis. Roedd hyn yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â defnyddwyr gwasanaeth a’r amgueddfa.
Rhoddodd y prosiect hyder i mi, yn ogystal â gwneud i mi deimlo fy mod yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.
Fe wnaeth yr arddangosfa fy arwain i hefyd at fynychu sawl gweithdy celf yn Abertawe.
Bellach mae gennyf fy fflat fy hun, fe wnes i symud yno yn ystod yr haf y llynedd. Nid yn unig mae hynny wedi rhoi annibyniaeth newydd i mi; mae wedi fy ysbrydoli i ddal ati o lle roeddwn i ychydig flynyddoedd yn ôl.
Rydw i’n aml yn cymharu fy hun nawr a thair blynedd yn ôl. Nid oedd fy mywyd yn mynd i unman. Doedd gen i ddim byd sylweddol i edrych ymlaen ato a doeddwn i ddim wir yn poeni am fywyd.
Wrth edrych yn ôl, dylai fy rhieni fod wedi fy ngwneud i’n ddigartref ymhell cyn y gwnaethon nhw. Fe wnaethon nhw fy ngwneud i’n ddigartref dim ond oherwydd y sefyllfa ar y pryd a’r ffaith eu bod wedi cael digon o fy ymddygiad.
Dwi’n sylweddoli fy mod wedi gwadu bod gen i broblem, oherwydd fe allwn i fod wedi stopio fory. Ond pan oeddwn i ar fy mhen fy hun, doedd fory byth yn cyrraedd. Am y tro cyntaf ers tro, rydw i’n gyfrifol amdanaf fi fy hun. Ond rwy’n sylweddoli bod gen i’r gefnogaeth a’r cymorth perthnasol y tu ôl i mi os bydd ei angen arnaf.
Dwi wedi bod yn sobr ers ychydig fisoedd erbyn hyn.
Dwi’n gwybod y bydd adegau pan fydd pethau’n anodd, ond os wna i ddal ati a gweithio’n galed a meddwl yn gadarnhaol, does dim rheswm pam na alla i gael y bywyd yr oedd gen i o’r blaen.
Dwi wedi dysgu sgiliau – roedd rhai ohonyn nhw gen i o’r blaen ond wedi mynd yn angof oherwydd alcohol.
Dwi’n dal yn cadw mewn cysylltiad â The Wallich.
Doedd dim byd arall yn wirioneddol bwysig ar y pryd heblaw lle’r oedd fy niod nesaf yn dod. Bellach mae hynny wedi newid.
Dwi’n dal i gymryd meddyginiaeth, a hynny o ganlyniad uniongyrchol i’r ffaith fy mod wedi camddefnyddio alcohol mewn rhyw ffurf neu’i gilydd. Fe fydda i’n parhau i’w cymryd nhw am gyfnod, ond dw i’n gobeithio na fydda i’n ddibynnol arnyn nhw’n rhy hir.
Dim ond fi sy’n gallu dal ati i weithio tuag at y nod hwnnw.
Dwi’n gweld hyn fel cyflawniad pwysig, oherwydd ychydig o flynyddoedd yn ôl fyddwn i ddim wedi meddwl y byddwn i yn y sefyllfa hon.
Ar hyn o bryd, dydw i ddim yn gwneud gormod o gynlluniau tymor hir. Mae gen i syniadau, ond mae angen i mi ddal ati a dal i weithio ar yr hyn dwi wedi’i gyflawni eisoes a chymryd pethau’n araf wrth i mi addasu.
Dwi’n credu’n gryf mai dim ond chi sy’n gallu helpu eich hun, ond gyda’r cyngor a’r gefnogaeth iawn, a’r ymrwymiad a’r parodrwydd, mae’n bosib cyflawni hynny.