Yn agos at gyfnod y Nadolig, rydym yn derbyn llawer o roddion hael iawn sy’n cynnwys eitemau megis pethau ymolchi neu ddillad, ond fel elusen, nid oes gennym ddigon o leoedd i storio pethau ar gyfer yr adegau y mae pobl eu hangen drwy’r flwyddyn gyfan.
RYDYM EISIAU GALLU DARPARU EITEMAU I’N CLEIENTIAID SY’N ADDAS, YN FFITIO’N GYWIR AC YN EU DIOGELU RHAG Y TYWYDD PAN FYDD EU HANGEN ARNYNT
Mae pobl o bob math yn cysgu allan ac rydym yn awyddus iddynt dderbyn profiad urddasol pan fyddant yn derbyn dillad sydd wedi’u rhoi gennym.
Mae angen i’r eitemau fod yn briodol ac os byddwn yn rhoi elfen o ddewis i’n defnyddwyr gwasanaeth, mae hynny’n helpu i roi hwb i hyder y person ar ôl bod yn ddigartref.
Gallwch ein helpu drwy brynu’r eitemau hollbwysig ar y rhestr, yn newydd, pan fydd eu hangen ar bobl.
“Nid yw’r ffaith fy mod yn ddigartref yn golygu bod yn rhaid i mi edrych yn flêr”
Byddwn yn rhoi i’r bobl y byddwn yn cwrdd â hwy drwy ein Timau Ymyrraeth Cysgu Allan ar hyd a lled Cymru.
Rhowch gymorth i bobl fel Cheryl, Bob a Lyn gael urddas, cadw’n gynnes a sych a’u symud oddi ar y strydoedd am byth yn y pen draw.
Bydd y pecyn hwn yn cynnwys eitemau megis:
Cysylltodd Cheryl* â’n Tîm Ymyrraeth Cysgu Allan yng Nghaerdydd yr haf hwn.
Roedd yn cysgu allan ac nid oedd ganddi lawer o eiddo ei hun, ond roedd yn cario pwrs mawr a oedd yn cynnwys colur, hancesi gwlyb a chynnyrch hylendid personol, ac roedd bob amser yn gofyn i’r staff am gyflenwad newydd o’r rhain.
Meddai Cheryl, “Nid yw’r ffaith fy mod yn ddigartref yn golygu bod yn rhaid i mi edrych yn flêr”.
Roedd gofal personol yn bwysig i Cheryl, sy’n wir am y rhan fwyaf o’n defnyddwyr gwasanaeth.
Mae’r gallu i gadw’n lan yn creu urddas a hunanwerth a gall fod yn gam pwysig ar gyfer symud oddi ar y strydoedd.
Bydd y pecyn hwn yn cynnwys eitemau megis:
Roedd Bob* yn ddefnyddiwr gwasanaeth ein Tîm Ymyrraeth Cysgu Allan yn Abertawe. Roedd wedi bod ar y strydoedd am fisoedd ac un o’i frwydrau mwyaf oedd cadw’n gynnes a sych.
Dywedodd Bob, “Pan fyddwch yn gwlychu ar y strydoedd, rydych yn aros yn wlyb ac ni allwch gynhesu.”
Yn anffodus, hyd yn oed heddiw, mae dolur traed y ffosydd yn digwydd i lawer o bobl sy’n cysgu allan.
Mae eitemau cynnes a sych fel sanau, dillad thermol a menig yn gallu rhoi cysur tymor byr a chadw pobl yn iach nes y byddant yn barod i ymgysylltu â gwasanaethau a symud oddi ar y strydoedd.
Bydd y pecyn hwn yn cynnwys eitemau megis:
Roedd Lyn* yn ddefnyddiwr gwasanaeth ein Tîm Ymyrraeth Cysgu Allan ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Roedd Lyn yn ddyn bychan ac roedd llawer o’r dillad a oedd gennym yn rhy fawr iddo, felly roedd y Tîm yn cael anhawster yn ei gadw’n gynnes.
Bu’n rhaid i Lyn dderbyn dillad merched a dywedodd, er ei fod yn teimlo cywilydd, nid oedd ganddo “unrhyw ddewis”.
Mae’r elfen hon o ddewis yn bwysig iawn i bobl sy’n cysgu allan.
Mewn sefyllfa sydd eisoes yn un anodd iawn, y peth olaf y mae pobl sy’n agored i niwed eisiau ei deimlo yw nad oes ganddynt unrhyw urddas ac nad oes ganddynt reolaeth dros ddewisiadau.
Gall cot newydd, mewn lliw penodol, neu esgidiau sy’n ffitio’n iawn, wella hyder rhywun a gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Bydd y pecyn hwn yn cynnwys eitemau megis:
Yn ystod tywydd poeth, mae pobl sy’n profi digartrefedd yn wynebu cyfres newydd o heriau.
Gall pobl ar y strydoedd gael eu hamlygu i’r haul am gyfnodau hir – sy’n creu risg o ddadhydradu, llosg haul a chyflyrau difrifol eraill.
Mae Pecyn Hanfodion yr Haf yn cynnwys eitemau fel dŵr a hufen haul, a all helpu i leihau’r risg y bydd y problemau hyn yn datblygu i fod yn rhai mwy difrifol, a allai beryglu bywyd.