Mae grant o £100,000 gan Barlcays ar gyfer elusen ddigartrefedd yn prynu gwelyau, cyfarpar diogelu personol a mwy

09 Mar 2021

llywodraeth

Mae Cronfa Cymorth Cymunedol COVID-19 y DU 100×100 Barclays wedi dyfarnu grant o £100,000 er mwyn darparu cymorth i The Wallich, elusen ddigartrefedd a chysgu allan flaenllaw yng Nghymru, yn eu hymateb i bandemig y COVID-19

Mae derbyn Cyllid Cymorth Cymunedol COVID-19 y DU 100 x 100 Barclays wedi galluogi The Wallich i:

Gwahoddwyd elusennau i ymgeisio am un o gant o gyfraniadau o £100,000, a derbyniodd Barlcays gannoedd o geisiadau gan elusennau drwy’r DU a oedd yn cyflawni cefnogaeth ar lawr gwlad i gymunedau a oedd mewn risg o gael eu heffeithio gan yr argyfwng.

Lansiodd Barclays eu Rhaglen Cymorth Cymunedol COVID-19 100×100 y DU i gefnogi gwaith cymorth COVID-19 mewn cymunedau lleol.

Mae’r rhaglen, sy’n rhan o’u pecyn ehangach, sef Pecyn Cymorth Cymunedol COVID-19, yn canolbwyntio ar gefnogi partneriaid elusennau’r DU sy’n cwrdd ag anghenion di-oed pobl yn ein cymunedau, gan gynnwys teuluoedd ar incymau isel, y rhai hynny sy’n wynebu caledi ariannol, pobl hŷn ynysig a gweithwyr allweddol.

textimgblock-img

Mae timau digartrefedd arbenigol The Wallich drwy Gymru wedi darparu cymorth i bobl sydd â phroblemau gyda chwblhau gwaith papur, derbyn cyngor ar gyfer tai, iechyd a chyfiawnder a chwblhau ceisiadau am Gredyd Cynhwysol. Bu mynediad at y rhyngrwyd yn arbennig o hanfodol i bawb yn ystod y pandemig.

Mae The Wallich wedi galluogi mynediad parhaus at wasanaethau cefnogi digidol, yn cynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau, addysg a rhaglenni cyflogaeth, gweithgareddau ymgysylltu â’r celfyddydau, cefnogaeth cymheiriaid a sesiynau cwnsela pan oedden nhw heb fand eang neu Wi-Fi.

Yng nghanol y pandemig o fis Mawrth 2020, cynyddodd costau gweithredol The Wallich o £289,966.

Roedd hyn yn cynnwys cost y cyfarpar diogelu personol, mesurau iechyd a diogelwch a chynyddu hygyrchedd digidol.

Gyda chymorth Barclays a’r gymuned yn ehangach yng Nghymru, mae The Wallich wedi gallu cynnal y gwasanaethau a thalu am y costau annisgwyl hyn drwy’r flwyddyn ac mae’n parhau mewn sefyllfa gref i barhau i ddarparu cymorth drwy’r argyfwng hwn ac wedyn.

Dywedodd PSG The Wallich, Dr Lindsay Cordery-Bruce:

“Diolch i’r gefnogaeth barhaus gan Barclays, mae The Wallich wedi darparu cymorth hanfodol i 3,400 o bobl sy’n profi digartrefedd. Tra’i bod yn ymddangos bod cysgu allan ar y strydoedd wedi gostwng yn ffisegol, nid yw digartrefedd wedi diflannu.

“Mewn rhai achosion, mae pwysau COVID-19 wedi cynyddu’r dangosyddion hynny a all arwain at ddigartrefedd: gwahanu’r teulu, iechyd meddwl, cam-drin sylweddau, troi pobl allan o’u cartrefi, diweithdra neu golli incwm i enwi ychydig yn unig.

“Nid oedd yn ddewis inni gau ein holl wasanaethau yn ystod y pandemig, oherwydd yn amlwg roedd pobl angen ein help.

“Fodd bynnag, gyda chefnogaeth sefydliadau fel Barclays, maen nhw wedi helpu i sicrhau bod cymorth wedi parhau i fod ar gael i unrhyw un sydd ei angen a bod y staff yn gallu darparu’r cymorth hwnnw mewn modd diogel.”

Dywedodd Nigel Higgins, Cadeirydd Barclays:

“Mae COVID-19 wedi creu effaith gymdeithasol ac economaidd na welwyd ei thebyg o’r blaen yn y DU, gyda llawer yn profi mwy o galedi oherwydd yr argyfwng. Mae elusennau anhygoel, fel The Wallich wedi bod yn chwarae rhan hanfodol yn ymateb y DU i’r pandemig, gan sicrhau bod help brys yn cyrraedd y rhai hynny sydd ei angen fwyaf.

“Fel banc, rydym wedi bod yn gwneud popeth a allwn ni ar gyfer ein cwsmeriaid, ein cleientiaid a’n cydweithwyr, a gobeithiwn drwy bartneru gyda The Wallich a llawer o elusennau eraill drwy’r DU, y gallwn ni gyda’n gilydd sicrhau bod cymaint o bobl ag sy’n bosibl yn y cymunedau yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddyn nhw yn cael eu cefnogi drwy’r argyfwng hwn.”

Tudalennau cysylltiedig