Mewn rhai ffyrdd tebyg i’r model Tai yn Gyntaf, byddai’r dull Ailgartrefu Cyflym yn golygu mai darparu llety diogel, priodol a chynaliadwy ddylai’r flaenoriaeth gyntaf fod ar gyfer pob achos newydd o ddigartrefedd a gyflwynir.
Dim ond ar ôl sicrhau tai y gall gweithwyr cymorth ac asiantaethau eraill fynd ati’n fwy effeithiol i ddelio â’r materion sylfaenol mwy cymhleth y tu ôl i achosion unigol, boed y rheini’n ymwneud ag iechyd meddwl, camddefnyddio alcohol neu sylweddau, neu ryw drawma arall.
Er mwyn i’r broses Ailgartrefu Cyflym fod yn effeithiol, mae angen i bob awdurdod lleol weithio i sicrhau bod tai fforddiadwy ar gael a bod digon o amrywiaeth o dai, p’un a ydyn nhw’n dai cyngor dan berchnogaeth uniongyrchol, yn gymdeithasau tai, neu’n dai rhent preifat fforddiadwy wedi’u rheoleiddio’n dda.
Rhaid i awdurdodau lleol hefyd ystyried y dystiolaeth sy’n dangos y bydd amrywiaeth o opsiynau llety gwasgaredig gyda chefnogaeth bwrpasol yn fwy effeithiol na chrynhoi cleientiaid mewn lleoliadau unigol (fel ‘hosteli torfol’).
Rhaid rhoi blaenoriaeth i ddatblygu tai fforddiadwy dros ddatblygu mwy ar eiddo neilltuedig o safon uchel a llety myfyrwyr premiwm nad ydynt yn diwallu anghenion tai presennol cymunedau Cymru.
Rhaid i’r cynnig estynedig o brosiectau Tai yn Gyntaf fod ar gael i’r unigolion hynny sydd ag anghenion mwy cymhleth, a dylai barhau i gynnal yr egwyddorion a nodwyd gan y Rhwydwaith Tai yn Gyntaf.
Yn benodol, rhaid i’r unigolion gael dewis a rheolaeth dros eu tai, a chael cefnogaeth ddiamod heb gyfyngiad amser.
Dylid ystyried ailgartrefu cyflym fel ymyriad iechyd cyhoeddus hanfodol, gan mai dyma’r ffordd orau o atal y bygythiadau tymor hir i iechyd a achosir gan gyfnodau hir o ddigartrefedd, yn enwedig cysgu ar y stryd.