Rhoi
Gallai eich rhodd chi heddiw fod yn drobwynt

Ledled Cymru, mae miloedd o bobl yn wynebu digartrefedd, cysgu ar y stryd, aros mewn llety dros dro, neu geisio ail-afael yn eu bywydau ar ôl argyfwng. Mae nifer wedi profi trawma, iechyd meddwl gwael, tor perthynas, cam-drin domestig neu galedi ariannol.
Bob blwyddyn, rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â phobl sy’n profi digartrefedd neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref i ddarparu cymorth ymarferol, gwasanaethau llety a chyfleoedd i helpu pobl i ail-afael yn eu bywydau.
Mae The Wallich yn cefnogi tua 7,000 o bobl sy’n ddigartref, neu mewn perygl o fod yn ddigartref, ac sy’n wynebu ofn ac ansicrwydd digartrefedd yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae eich rhoddion chi’n golygu y gallwn gamu i’r adwy pan fydd ar rywun angen help ar frys.
Rhowch rodd heddiw
Dewiswch sut hoffech chi roi:
Cyfraniadau rheolaidd
Drwy drefnu rhodd reolaidd, byddwch yn sicrhau bod The Wallich yn gallu bod yno nid yn unig yn y gaeaf, ond gydol y flwyddyn.
Rhodd untro
Gallai eich rhodd untro eleni helpu i ariannu cymorth hanfodol, gwelliannau i wasanaethau, a phrosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth ystyrlon i’r bobl a’r cymunedau sydd ei angen fwyaf.
Rhodd apêl Nadolig
Rydyn ni angen eich help chi i allu darparu cinio Nadolig ac anrheg Nadolig i’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi.
Pam cyfrannu?
Stori Dafydd*
Pan gyrhaeddodd Dafydd un o hosteli The Wallich ar ôl cyfnod o gysgu ar y stryd, nid oedd ganddo unrhyw eiddo ac roedd angen cymorth arno i ddechrau eto.
Diolch i garedigrwydd pobl sy’n cefnogi The Wallich, roeddem yn gallu darparu dillad ac eitemau hanfodol i’w helpu i setlo’n ddiogel mewn llety gydag urddas.
Y weithred fach o garedigrwydd honno oedd cam cyntaf ei daith oddi wrth ddigartrefedd.
Gyda chefnogaeth, dechreuodd Dafydd ail-fagu ei hyder, cysylltu ag eraill a pharatoi ar gyfer cartref i’w hunan.
Pan oedd yn barod i symud ymlaen, roedd help gyda’r hanfodion bob dydd yn golygu y gallai drawsnewid eiddo gwag yn le i’w alw’n gartref.
*Newidiwyd yr enwau a’r delweddau rhag datgelu pwy yw’r bobl sy’n cael cefnogaeth gan The Wallich.
Bydd angen cymorth brys ar fwy o bobl y gaeaf hwn
Gall eich rhodd newid bywydau – gan helpu rhywun i wneud y canlynol:
- Dod oddi ar y stryd
- Dianc rhag camdriniaeth
- Dal ati i weithio
- Cadw eu plant yn ddiogel ac yn gynnes
- Dechrau eto yn eu cartref eu hunain
Rhowch faint bynnag y gallwch.
Gallai eich caredigrwydd chi fod yn drobwynt yn stori rhywun.