Mae’r Etholiadau Lleol yn ôl ar gyfer 2022.
Ar Mai 5, bydd pawb sy’n 16 oed a hŷn – gan gynnwys gwladolion tramor- yn gallu pleidleisio i gynghorwyr lleol eu cynrychioli ar gynghorau sir a chymuned.
Mae llywodraethau lleol yng Nghymru yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth a’r amgylchedd, ac wrth gwrs, tai.
Mae gan bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu gwasanaethau i gefnogi pobl sy’n profi digartrefedd neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref, felly bydd y cynghorwyr newydd yn gyfrifol am ddatblygu strategaethau i gyflawni’r ddyletswydd hon.
The Wallich yw darparwr mwyaf y trydydd sector yng Nghymru ar gyfer gwasanaethau tai a digartrefedd, y mae llawer ohonynt yn cael eu comisiynu gan awdurdodau lleol.
Edrychwn ymlaen at groesawu aelodau sydd newydd eu hethol ac aelodau sy’n dychwelyd.
Rydym yn credu ei bod yn bosibl rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru os byddwn yn cydweithio, a safwn yn barod i weithio gyda phob gweinyddiaeth leol er mwyn gwireddu hyn.
Hefyd, ni allwn aros i rannu ein syniadau yn seiliedig ar ddegawdau o brofiad o’r hyn sy’n gweithio.
Mae’n rhaid i weinyddiaethau cyngor newydd ddatblygu eu cynigion yn seiliedig ar fframwaith fel y’i nodir yn y Cynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd.
Mae hyn yn golygu canolbwyntio ar atal a gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth er mwyn sicrhau bod digartrefedd yn ‘brin, byr ac nad yw’n cael ei ailadrodd.
Cynhaliodd y Grŵp Gweithredu Digartrefedd adolygiad manwl o’r polisïau a’r strategaethau digartrefedd yn 2019-20 a daeth i’r casgliad mai dull sy’n canolbwyntio ar ailgartrefu yn gyflym yw’r ffordd orau i sicrhau bod pobl yn derbyn cefnogaeth effeithiol o ddigartrefedd i fyw’n annibynnol a chynaliadwy.
Mae’n rhaid i wasanaethau digartrefedd a chymorth tai fod yn fwy atebol i’r rhai sy’n eu defnyddio.
Dylid eu datblygu ar y cyd, ochr yn ochr â’r bobl â phrofiad byw, sy’n arbenigwyr yn y mathau o gymorth sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i roi diwedd ar ddigartrefedd.
Mae’r mwyafrif o bobl sydd angen gwasanaethau digartrefedd wedi profi trawma yn eu bywydau.
Mae’n hollbwysig bod gwasanaethau wirioneddol yn Amgylcheddau sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol, sydd wedi’u datblygu ar sail dealltwriaeth o natur rhyng-gysylltiedig trawma â digartrefedd, iechyd meddwl gwael, camddefnyddio sylweddau a phrofiad o’r system cyfiawnder troseddol.
Mae angen i Awdurdodau a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig adeiladu llawer o gartrefi cymdeithasol fforddiadwy, o safon uchel, gan gynnwys llawer o eiddo un ystafell wely, er mwyn cyflawni’r galw uchel amdanynt.
Nid yw toreth o fflatiau moethus a llety o safon uchel i fyfyrwyr yn cyflawni anghenion pobl ar incwm is.
Mae’n rhaid sicrhau nad oes mwy o gytundebau amheus ynghylch cyfraniadau adran 106.
Mae’n rhaid i adeiladwyr ddarparu cartrefi fforddiadwy neu dalu’r arian llawn sy’n ddyledus i gynghorau.
Mae angen i gomisiynwyr ddarparu lefelau priodol o gyllid i sicrhau lefelau staffio diogel.
Mae’n rhaid caniatáu amser ar gyfer arfer adlewyrchol i staff er mwyn prosesu trawma mechnïol a lleihau’r risgiau o orweithio a blinder tosturi.
Mae canllawiau’r Grant Cymorth Tai yn nodi’r disgwyliad y bydd y gwasanaethau’n cael eu hysbysu’n seicolegol, ond bydd hyn ond yn bosibl os rhoddir amser i staff ddatblygu’r elfennau hyn.
Nid yw’n bosibl os ydynt yn treulio eu hamser yn delio â phroblemau.
Rydym yn galw am roi diwedd ar Orchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus a’r dull gorfodi at gysgu allan.
Mae cynghorau a’r heddlu yn defnyddio’r mesurau hyn yn llawer rhy aml, sy’n gallu tanseilio’r ymdrechion i gefnogi pobl sy’n byw bywydau ar y stryd.
Yn ein barn ni nid yw’r gorchmynion diogelu mannau agored cyhoeddus yn helpu pobl allan o ddigartrefedd.
Ni ddylid troseddoli unrhyw un oherwydd eu profiad o dlodi neu drawma.
Nid yw dirwyon a chofnodion troseddol yn mynd i’r afael ag achosion sylfaenol digartrefedd ac maent yn niweidio ymddiriedaeth a pherthnasoedd â darparwyr cymorth.
Mae’n rhaid rhoi diwedd ar borthgadw a’r rhwystrau diangen at gymorth.
Ni ddylai fod drws anghywir i ofyn am help, felly mae angen i bob gwasanaeth gydweithio’n well i sicrhau bod pobl yn cael cymorth lle bynnag a pha fodd bynnag y byddant yn cyflwyno eu hunain.
Mae’n rhaid rhoi’r amser sydd ei angen ar bobl i ymgysylltu â chymorth pan fyddant yn teimlo’n barod.
Nid yw’r cynnig o gymorth yn dod i ben. Nid oes pobl anodd eu cyrraedd.
Cyfrifoldeb y gwasanaethau yw i fod yn gwbl hygyrch i bawb.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi diwedd ar brofion gan gynnwys angen blaenoriaethol, bwriadoldeb a chysylltiad lleol.
Rydym yn cefnogi’r dull hwn ac yn annog awdurdodau lleol i fod yn barod i helpu pawb, waeth beth yw eu hamgylchiadau.