Gwasanaeth Datrys Anghydfod Sir Benfro

36/38 High Street, Haverfordwest, SA61 2DA

Sir Benfro

07824 991457 | 07384 461011 | 07920 644948

Mae’r gwasanaeth yn cynnig cyngor diduedd ac annibynnol gan staff sydd wedi’u hyfforddi a’u hachredu

Rydym yn defnyddio cyfryngu er mwyn i bobl allu siarad yn effeithiol am broblemau a dod i gytundeb sy’n addas i’r ddwy ochr. 

Mae ein gwasanaeth datrys anghydfod a chyfryngu am ddim ac ar gael i unrhyw un yn y fwrdeistref sydd mewn anghydfod a allai effeithio ar sefyllfa eu cartref. 

Mae datrys anghydfod yn broses lle mae pobl sy’n anghytuno neu’n gwrthdaro’n defnyddio trydydd person (cyfryngwr) i’w helpu i gyfathrebu a datrys problemau. 

textimgblock-img

PA FATHAU O FATERION YDYM NI’N YMDRIN Â NHW ? 

Rydym yn delio ag anghydfodau di-drais a thu allan i’r gyfraith sy’n codi rhwng teuluoedd, cymdogion, pobl ifanc, landlordiaid a thenantiaid a allai arwain at wneud un neu fwy o bobl yn ddigartref. 

  • teulu’n chwalu
  • anghydfod rhwng cymdogion
  • anghydfod rhwng landlord a thenant
textimgblock-img

Pwy sy’n gymwys? 

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Tudalennau cysylltiedig