Sir Benfro
PembrokeshireCRS@thewallich.net
01437 647114
Mae’r gwasanaeth yn cynnig cyngor diduedd ac annibynnol gan staff sydd wedi’u hyfforddi a’u hachredu
Rydym yn defnyddio cyfryngu er mwyn i bobl allu siarad yn effeithiol am broblemau a dod i gytundeb sy’n addas i’r ddwy ochr.
Mae ein gwasanaeth datrys anghydfod a chyfryngu am ddim ac ar gael i unrhyw un yn y fwrdeistref sydd mewn anghydfod a allai effeithio ar sefyllfa eu cartref.
Mae datrys anghydfod yn broses lle mae pobl sy’n anghytuno neu’n gwrthdaro’n defnyddio trydydd person (cyfryngwr) i’w helpu i gyfathrebu a datrys problemau.
PA FATHAU O FATERION YDYM NI’N YMDRIN Â NHW ?
Rydym yn delio ag anghydfodau di-drais a thu allan i’r gyfraith sy’n codi rhwng teuluoedd, cymdogion, pobl ifanc, landlordiaid a thenantiaid a allai arwain at wneud un neu fwy o bobl yn ddigartref.
- teulu’n chwalu
- anghydfod rhwng cymdogion
- anghydfod rhwng landlord a thenant
Pwy sy’n gymwys?
- 14+ oed (nid oes terfyn oed)
- Byw yn Sir Benfro
- Digartref neu mewn risg o fod yn ddigartref
- Derbynnir hunan-atgyfeiriadau
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.
