Mae Tai yn Gyntaf yn ddull o ddatrys digartrefedd trwy ganolbwyntio ar symud pobl sy’n profi digartrefedd yn syth i dŷ annibynnol a pharhaol ac yna darparu cefnogaeth a gwasanaethau ychwanegol fel bo’r angen.
Cyflwynodd bron i 1000 o bobl yn ddigartref yng Ngwynedd yn ystod 2023-24, gyda nifer cynyddol o’r pobl hyn yn cyflwyno gydag anghenion cymhleth, megis problemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, a hanes o droseddu.
Yr egwyddor y tu ôl i’r gwasanaeth yw bod angen i bobl ddigartref gydag anghenion tai a chefnogaeth gronig gael cynnig ‘tŷ yn gyntaf’ – yn hytrach na chael eu rhoi mewn llety argyfwng, sy’n aml yn anaddas i’w hanghenion, yna llety dros dro, cyn symud i gartref parhaol. Unwaith y bydd ganddynt ofod diogel a hir-dymor, gall gweithwyr achos yna cynnig cefnogaeth ddwys sydd wedi ei deilwra yn benodol at anghenion yr unigolyn.
Mae Cyngor Gwynedd wedi dyfarnu cytundeb Tai yn Gyntaf i The Wallich, sef yr elusen ddigartrefedd a chysgu allan fwyaf yng Nghymru. Bydd y gwasanaeth, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Gwynedd drwy Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru, yn darparu cefnogaeth gan weithwyr achos profiadol i 20 unigolyn ar hyd a lled y sir.
Mae sicrhau bod neb yn ddigartref yn y sir yn flaenoriaeth allweddol i Gyngor Gwynedd ac mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu mwy o unedau tai â chefnogaeth, creu llety penodol i bobl ifanc ddigartref, a darparu cefnogaeth iechyd meddwl arbenigol i gefnogi pobl fregus i aros yn eu cartrefi. Daw’r holl gynlluniau hyn o dan Gynllun Gweithredu Tai gwerth £140 miliwn y Cyngor.
“Mae model Tai yn Gyntaf yn defnyddio’r cartref fel man cychwyn, yn hytrach na’r gôl derfynol, ac mae’n caniatáu i bobl sy’n profi digartrefedd gael cefnogaeth sy’n addas ar gyfer eu hanghenion arbennig eu hunain mewn gofod saff a sefydlog.
“Dw i’n croesawu’r prosiect newydd yma ac yn edrych ymlaen at weld y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth efo The Wallich i ddarparu’r cyfleoedd gorau i bobl ddigartref yng Ngwynedd i ailadeiladu eu bywydau.”
“Does dim ateb sy’n addas i bawb pan mae’n dod at daclo digartrefedd, efo pob achos a stori mor unigryw – mae’r dull yma’n rhan o strategaeth amlweddog gan Gyngor Gwynedd i drio atal, trechu a dod â digartrefedd i ben yn y Sir.”
“Agorodd The Wallich gynllun Tai yn Gyntaf cyntaf Cymru fwy na 10 mlynedd yn ôl – ac mae’n gweithio! Dan ni’n hynod gyffrous bod ein tîm bellach yn gallu rhannu eu harbenigedd i gefnogi pobl sydd angen tai yng Ngwynedd. To uwch ben rhywun yw’r cam cyntaf allan o ddigartrefedd, ac mae’r cefnogaeth cofleidiol hollbwysig hefyd yn cadw pobl yn eu cartref am y tymor hir. Edrychwn ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol a gaiff y gwasanaeth newydd hwn ar y gymuned leol.
“Bydd gwasanaeth newydd Tai yn Gyntaf Gwynedd hefyd yn dod â 5 swydd newydd i’r ardal. Os oes gennych chi brofiad yn y maes tai neu ddigartrefedd ac yn frwdfrydig am gefnogi pobl tuag at ddyfodol disglair, edrychwch ar ein gyrfaoedd a gwnewch gais.”
Mae gwasanaeth Tai yn Gyntaf yn wasanaeth arbenigol sydd ar gael trwy atgyfeiriad yn unig. Os ydych chi’n ddigartref, neu’n poeni am rywun sy’n cysgu allan, cysylltwch â gwasanaeth digartrefedd Cyngor Gwynedd:
Mwy o wybodaeth am swyddi trwy’r gwasanaeth Tai yn Gyntaf gyda The Wallich: Jobs at The Wallich ·The Wallich