Karen Robson

Prif Gweithredol

| 029 20 668 464

 

Ymunodd Karen Robson â The Wallich fel Prif Swyddog Gweithredol ym mis Medi 2024.

Hi sy’n gyfrifol am arwain y sefydliad a sicrhau bod ein defnyddwyr gwasanaeth a’n preswylwyr yn cael y cymorth gorau posibl gan yr holl wasanaethau ar hyd a lled Cymru.

Mae gyrfa Karen wedi rhychwantu amrywiaeth o feysydd ym maes cyfiawnder cymdeithasol, gan gynnwys anabledd, iechyd meddwl, ehangu mynediad i addysg uwch, a datblygu rhyngwladol.

Fel uwch arweinydd yn y sector prifysgolion a’r trydydd sector, mae ganddi brofiad o gydweithio â rhanddeiliaid a gweithio ar draws y sbectrwm gwleidyddol i gyflawni newid mewn polisi ac ymarfer.

“Rydw i’n frwd dros gyfiawnder cymdeithasol. Gall bywyd wneud tro gwael â ni, ond gyda’r gefnogaeth gywir gan bobl sydd wir yn poeni, gall pethau wella a gall bywyd fod yn wahanol.

Mae llawer ohonom yn cymryd ein cartref yn ganiataol, ond dydy pawb ddim mor ffodus. Rydyn ni yn The Wallich yma i wneud rhywbeth am hynny! Mae yn ein DNA. Rydw i mor falch o fod yn arwain y sefydliad anhygoel hwn.”

Daw Karen yn wreiddiol o ogledd-ddwyrain Lloegr, ac mae wedi byw a gweithio yng Nghymru ers 27 mlynedd.

Mae hi wedi gwirfoddoli gyda llawer o elusennau ac erbyn hyn mae hi’n arwain y brif elusen yng Nghymru ar gyfer atal a mynd i’r afael â digartrefedd.

Mae profiad bywyd yn allweddol i lwyddiant ac effeithiolrwydd The Wallich.  Bydd Karen yn gweithio’n agos gyda’n Bwrdd Cysgodol (gwirfoddolwyr) a’r 32% o staff sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd, i sicrhau bod ein gwasanaethau’n esblygu i ddiwallu anghenion y rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Arbenigedd

  • Arweinyddiaeth
  • Cyd-gynhyrchu a chynnwys defnyddwyr gwasanaethau
  • Iechyd meddwl
  • Systemau, monitro a gwerthuso
  • Darparu gwasanaeth
  • Gwasanaethau tendro a chomisiynu
  • Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod / Cymorth sy’n ystyriol o drawma
  • Cynhyrchu incwm
  • Ymgysylltu â’r gymuned
  • Dylanwadu ar bolisi a gwleidyddiaeth
  • Rheoli newid