Stori Maria

16 May 2025

Yn ystod y 6 blynedd diwethaf, mae Maria wedi bod yn ymwneud â gwasanaethau digartrefedd ac yn symud o un llety i’r llall. Un o’r gwasanaethau hynny yw’r Prosiect Trawsffiniol i Fenywod – man y mae’n ei alw’n gartref erbyn hyn.

Mae siwrnai Maria wedi dangos gwytnwch, trawsnewidiad ac agwedd benderfynol.

Er ei bod wedi wynebu nifer o heriau drwy gydol ei hoes, mae Maria wedi cymryd camau breision tuag at ddyfodol mwy disglair.

Darllenwch ei stori

Stori Maria

“Ro’n i’n byw ym Mhort Talbot mewn tŷ un ystafell wely. Ro’n i’n rhannu’r tŷ gyda fy mhartner.

Ro’n i’n gwerthu [cyffuriau] a chefais fy nhroi allan o’r tŷ, felly roedden ni ar y stryd am ychydig.

Do’n i ddim yn siarad llawer gyda phobl eraill. Ro’n i ar fy mhen fy hun yn y babell wrth Access Point [yn Abertawe].

Ro’n i ar Spice a Heroin ar y pryd, ond roedd yn hunllef.”

Y llwybr tuag at adferiad

“Es i i’r hostel i bobl ddigartref ar Stryd Paxton i ddechrau. Fe wnes i aros yno am ddwy flynedd cyn symud yma [y Prosiect Trawsffiniol].

Fe wnes i aros yma am dair blynedd a hanner, yn ystafell saith, cyn symud yn ôl i Stryd Paxton am ddwy flynedd arall.

Digwydd symud yn ôl yma eto wnes i ac mae hynny’n fendith.

Rydw i wedi dod adre.

Rwy’n lân nawr ers pum mlynedd, heb heroin.

Rydw i allan o’r carchar ers pum mlynedd.

Dydw i ddim wedi dwyn o siop ers pum mlynedd, felly mae hynny’n fendith hefyd.

Rydw i wedi newid cymaint. Mae’r trawsnewidiad wedi digwydd yn gyflym”

Pan ofynnwyd i Maria beth sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’w siwrnai yn y Prosiect Trawsffiniol, dywedodd:

“Cefnogaeth y staff a gwybod mod i’n ddiogel gyda staff ar y safle 24/7 ac maen nhw yma i helpu bob amser.

Os ydw i angen unrhyw beth, does dim ond angen i mi ddod i mewn, curo’r drws a siarad â’r staff.

Mae Carys [Uwch Weithiwr Cymorth yn The Wallich] yn dod i mewn bob bore, yn anfon neges destun aton ni.

Mae Carys yn werth y byd.

Mae wedi newid fy mywyd.”

Ailddarganfod trefniadau rheolaidd, cyfforddusrwydd a phwrpas

textimgblock-img

“Rydw i bob amser yn astudio llawer yn fy ystafell.

Rydw i’n dysgu cymaint o bethau ar hyn o bryd.

Rydw i’n astudio Seicoleg, yr ymennydd a llawer o astudiaethau Beiblaidd.

Rydw i’n gwneud ymarfer corff bob diwrnod.

Rydw i’n cerdded am awr bob diwrnod ac yn gwneud fy ioga.

Rwy’n ffodus i gael fy ystafell fy hun a’m fflat fy hun.

Mae gen i fy nghegin, ystafell fyw, ystafell ymolchi a thoiled fy hun.

Rwy’n gallu astudio yn gyfforddus.

Pan ofynnwyd i Maria beth yw’r peth mwyaf arwyddocaol y mae hi wedi ei gyflawni, dywedodd:

“Rydw i wedi agor fy nghyfrif banc fy hun ar ôl 25 mlynedd.

Erbyn hyn mae gen i gyfrif banc gyda Nationwide.

Rydw i wedi cael rhif cyfrif a chod didoli, ond rwy’n aros i’r cerdyn a’r rhif PIN ddod drwy’r post.

Mae gallu agor cyfrif yn anhygoel.”

Edrych ymlaen yn obeithiol

“Rwy’n gobeithio gallu cael gwaith lle galla i helpu pobl, helpu’r digartref a dilyn y trywydd yna.

Byddwn yn hoffi helpu pobl sydd â phroblemau cyffuriau.

Rwy’n mynd i weld alla i fynd i brifysgol neu wneud cwrs.

Mae wedi bod yn gymaint o help i mi ac wedi trawsnewid fy mywyd.

Alla i ddim rhoi pethau mewn geiriau a dweud y gwir. Mae mor anhygoel beth maen nhw  [staff y Prosiect Trawsffiniol i Fenywod] wedi’i wneud i mi.

Rwy’n hapus.”

Dywedodd Helen, Gweithiwr Cymorth yn y Prosiect Trawsffiniol i Fenywod:

“Mae wedi bod yn bleser cael gweithio gyda Maria dros y blynyddoedd. Mae wedi dod ag egni ysbrydol gwych i’r prosiect.

Fy hoff atgof gyda hi yw pan aethon ni i grŵp cerddoriaeth gyda’n gilydd. Mae gan Maria lais canu arbennig o dda a thalent gerddorol go iawn gydag unrhyw offeryn y mae’n ei chwarae.

Mae wedi bod yn braf iawn gweld ei hyder yn cynyddu dros y blynyddoedd, ac erbyn hyn mae Maria yn gallu mynd i sesiynau grŵp, a rhoi mewnbwn arbennig o dda, ac mae wedi adeiladu perthynas â’i chymheiriaid.

Alla i ddim aros i weld beth sydd nesaf i Maria!”

Gwyliwch Maria yn dweud ei stori