Prosiect Trawsffiniol i Fenywod

De Cymru

01792 323 954

Mae’r Prosiect Trawsffiniol (Cross Borders) yn gweithredu yn ardaloedd Abertawe gan gynnig llety a chefnogaeth i fenywod sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref

Mae gan bob un o’r menywod sy’n cael eu cefnogi broblemau alcohol a / neu gamddefnyddio sylweddau yn ogystal ag anghenion cymhleth eraill.

Mae’r staff yn helpu’r menywod i oresgyn eu problemau

Rheolir y gwasanaeth hwn o Abertawe a darperir cymorth ategol saith niwrnod yr wythnos â darpariaeth ar alwad y tu allan i oriau.

Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.

Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.

Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw. Mae’r amgylchedd yn bwysig iawn yn y prosiect hwn.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Tudalennau cysylltiedig