Stori Andre

11 Jul 2025

Andre Castell-nedd Port Talbot

Treuliodd Andre 11 mis yn byw yn y coed ar ôl i’w landlord ei droi allan heb fai.

Pan benderfynon nhw werthu’r fflat yr oedd yn byw ynddi, doedd gan Andre unman arall i fynd.

Darllenwch stori Andre

“Y diwrnod y cysylltodd The Wallich â mi, roeddwn i ar ben fy nhennyn. Roedd wedi bod yn 18 mis caled. Maen nhw wedi achub fy mywyd i.

Roeddwn i’n curo ar ddrysau am gymorth, ond roedd pob un yn cau yn fy wyneb drwy’r amser gan nad oedd gen i unrhyw ddyletswydd. A dweud y gwir, roeddwn i wedi cael llond bol.

Roedd bod yn y coed am 11 mis yn dda ac yn ddrwg. Iawn yn yr haf, caled yn y gaeaf. Roedd y gwlybaniaeth yn ddiddorol – sôn am ‘wet behind the ears’, yn llythrennol! Mae’n rhaid i chi chwerthin am y peth nawr.”

Er ei fod wedi byw yn Sir Gaerfyrddin am 15 mlynedd, dywedodd, “Roeddwn i bob amser yn teimlo nad oeddwn i’n perthyn ym Mhen-bre nac ym Mhorth Tywyn. Roedd yn gamgymeriad symud yno”.

textimgblock-img

Felly pan oedd Andre yn mynd trwy gyfnod anodd, teimlai fod angen iddo fynd at ei unig rwydwaith cymorth yng Nghastell-nedd Port Talbot. Ei chwaer a’i ffrindiau oedd ei gysylltiad lleol.

Pan oedd wedi blino ar geisio symud i’r ardal, penderfynodd mai ei unig opsiwn oedd gwersylla yno.

Adeiladodd Andre gartref bach iddo’i hun allan o goed yn y goedwig. Roedd ganddo stôf goed ac ambell ffrind a oedd yn cadw llygad arno.

Yn ffodus, roedd ffrindiau Andre yn byw yn Nhŷ Raena, preswylfa The Wallich, a nhw wnaeth ei roi mewn cysylltiad â ni.

Symud i mewn i Dŷ Raena

“Pan symudais i mewn yno gyntaf, hwn oedd y cartref cyntaf i mi ei gael ers oesoedd. Gwych. A bod yn deg, mae popeth sydd ei angen arnoch chi yn yr ystafell yna. Dylai pwy bynnag sy’n cael lle yno oherwydd eu bod nhw’n ddigartref, neu beth bynnag, gyfrif eu hunain yn lwcus. Mae’n drefniant da, rydw i’n ei hoffi.”

Mae yna 12 fflat hunangynhwysol yn Nhŷ Raena. Mae gan bob un ohonyn nhw gawod, oergell a chyfleusterau coginio, ynghyd â’u cod eu hunain ar y drws i deimlo’n ddiogel.

Pan symudodd Andre i mewn, fe wnaethon ni ei roi ar y llawr uchaf i ddechrau. Ond roedden ni’n medru gweld ei fod yn cael trafferth gyda’r grisiau rai dyddiau oherwydd cyflwr ei iechyd. Felly cyn gynted ag y gallem, fe wnaethon ni ei symud i lawr is.

“Mae’n beth da bod y staff yn dod i archwilio’r ystafelloedd, oherwydd rwy’n gallu bod yn flêr iawn a dweud y gwir – bob amser yn taflu pethau ar fy ngwely. Mae yna strwythur, sy’n beth da.
Roeddwn i yno am tua blwyddyn a hanner. Ac roedd yn braf. Os oeddwn i byth angen unrhyw beth, roedd y staff i lawr y grisiau. Gwych.”

Roedd staff Tŷ Raena yn cynnal digwyddiadau i’r preswylwyr a phan oedd Andre yn byw yno, roedd yn barod am unrhyw weithgaredd; coginio ar gyllideb, garddio, cwisiau a boreau coffi. Mae’r gweithgareddau hyn yn rhan o ddod yn annibynnol.
“Roeddwn i wrth fy modd gyda’r coginio a’r planhigion. Byddaf yn hau planhigion nawr yn fy nghartref newydd.”

Gwneud cartref newydd

Dywedodd cefnogaeth Andre yn The Wallich nad oedd byth yn methu bil, a phan ddaeth yn barod i symud ymlaen, fe wnaethon ni ei helpu gyda’i gamau nesaf i symud i gartref mwy parhaol yn yr ardal.

Fe wnaeth Gwasanaeth Atal a Llesiant The Wallich helpu Andre i roi trefn ar ei drydan ac i ddodrefnu’r fflat un ystafell wely.

Mae ein Gweithwyr Cymorth yn gwybod beth sydd ar gael, a sut i wneud cais am arian ar gyfer eitemau hanfodol nad oes gan lawer o bobl.

“Fe wnaethon nhw fy helpu gyda’r gwaith meddwl, mi ddyweda i hynny wrthych chi. Dyma’r lleiaf o straen rydw i wedi’i gael erioed wrth symud tŷ .

Fe roddodd fy chwaer oergell-rewgell i mi, ond fe wnaethon nhw [The Wallich] sortio dillad gwely, peiriant golchi, meicrodon, coginiwr araf a ffwrn ffrio i mi. Byddai wedi costio llawer o arian i mi pe bai’n rhaid i mi fod wedi prynu rhain i gyd i gychwyn.

Maen nhw’n werth eu pwysau mewn aur, credwch chi fi. Rydw i wir yn ddiolchgar amdanyn nhw.”

Edrych i’r dyfodol

“Mae’r dyfodol yn edrych yn llawer gwell nag oedd e ddwy flynedd yn ôl. Yn fwy positif.

Roeddwn i’n meddwl y byddwn i yn y goedwig yna am byth. Yn meddwl, sut ddaeth pethau i hyn?

Pan gefais yr alwad ffôn [i symud i mewn gyda The Wallich], roeddwn i ar fin rhoi’r ffidil yn y to. Roedd gen i farf fawr fel Grizzly Adams!

textimgblock-img

Ers i mi fyw yn y coed, rydw i wedi dod ohoni’n berson gwell. Rydw i’n gwerthfawrogi popeth gymaint yn fwy. Dŵr tap, pethau fel ‘na. Rydyn ni’n cymryd gormod yn ganiataol.

Mae popeth yn disgyn i’w le’n braf rwan. Yn setlo. Rydw i’n un drwg am fynd i ’nghragen weithiau, i guddio. Dyna pam mae The Wallich yn dda hefyd, o ran cymryd rhan mewn pethau.”

Bydd Andre yn gwirfoddoli yn y Banc Bwyd yn ei gymuned newydd yn fuan.

“Mae’n braf rhoi rhywbeth yn ôl, yn enwedig gan fy mod i wedi defnyddio’r gwasanaeth fy hun. Mae’n ffordd dda o gwrdd â’r gymuned hefyd.

Rydw i’n mwynhau coginio eto. Byddaf yn coginio Pastai Bugail yr wythnos hon, ac mae gen i fwy o sgiliau bywyd rwan.”

Cymorth pellach

Er bod Andre yn dod i ddiwedd ei gymorth ffurfiol, mae’r tîm yng ngwasanaeth Atal a Llesiant Castell-nedd Port Talbot yn gallu darparu cyngor ac arweiniad yn ôl y galw i ddefnyddwyr gwasanaeth fel Andre, hyd yn oed ar ôl iddyn nhw symud allan.

Er eu bod wedi bod yn gweithio gydag ef i feithrin annibyniaeth, mae Andre’n gwybod bod ei Weithwyr Cymorth, Nicola a Nigel, ar ben arall y ffôn os oes eu hangen arno.

Yn The Wallich, mae ein staff yn helpu pobl sydd mewn argyfwng, wrth gwrs, ond maent hefyd yn rhwyd ddiogelwch yn aml – sy’n atal pobl yng Nghymru rhag mynd yn ôl i fod yn ddigartref byth eto.