Dywedodd yr Amgueddfa fod “Llywodraeth Lafur y DU wedi methu gwireddu ei haddewidion cynnar” wrth iddi adrodd bod 1,611 o bobl ddigartref wedi marw 2024. Y llynedd, cafwyd 1,474 o farwolaethau, a 1,313 o farwolaethau yn 2022.
Mae’r ystadegau’n cynnwys pobl sy’n cysgu allan, yn ogystal â’r rhai sydd wedi cael eu rhoi mewn llety brys a lleoliadau ansefydlog eraill. Cafodd pob marwolaeth ei chadarnhau drwy gais rhyddid gwybodaeth, adroddiad gan grwner, elusen neu aelod o’r teulu.
“Gyda chalon drom, rydyn ni’n adrodd bod 1,611 o bobl wedi marw tra’r oedden nhw’n ddigartref yn 2024. Mae hi’n gadarnhaol bod awdurdodau lleol a Byrddau Diogelu Oedolion yn cymryd y mater o ddifrif, a bod gwell adroddiadau a thystiolaeth o weithio’n well mewn partneriaeth leol i atal marwolaethau, ond mae angen mwy na dim ond cyfri’r marwolaethau i wella’r sefyllfa hon.
Mae ein meddyliau â phawb a fu farw ac rydyn ni’n parhau i weithio mewn undod â’u hanwyliaid a’r gymuned ddigartref.”
“Mae’n warthus mai 45 oed i ddynion a 43 oed i fenywod ydy disgwyliad oes cyfartalog pobl sy’n cysgu allan yng Nghymru yn 2025.
Dydy’r oedrannau hyn ddim wedi newid ers y 90au.
Er mwyn gwella bywydau pobl ar y strydoedd yng Nghymru, mae’n rhaid i ni gael sgyrsiau call am gynhwysiant iechyd ac iechyd meddwl, sgyrsiau call am gyffuriau, a pholisi call i fynd i’r afael â’r diffyg tai.
Mae TheWallich yn eiriol dros gynnig gwasanaethau iechyd i bobl ar y strydoedd.
Rydyn ni’n gweithio gyda byrddau iechyd fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bae Abertawe, gan fynd â’n faniau allan gyda nyrsys arbenigol i drin clwyfau, feirysau a gludir yn y gwaed, iechyd rhywiol, COPD a mwy. Os bydd byrddau iechyd Cymru yn parhau i gyflwyno gwasanaethau fel hyn, byddant yn helpu i wella ansawdd bywyd pobl sy’n ddigartref.
Mae modd osgoi marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn llwyr os byddwn ni’n darparu cymorth lleihau niwed drwy ein polisïau ac yn ein hymarfer.
Ers blynyddoedd, mae The Wallich wedi galw am ganolfan atal gorddos yng Nghymru, lle gall pobl gymryd cyffuriau’n ddiogel.
Os bydd pobl sy’n defnyddio cyffuriau yn cael eu trin drwy ‘ddull iechyd’, yn hytrach na chael eu trin fel troseddwyr, mae modd achub bywydau.”
Bydd The Wallich yn lansio ei ymgyrch gaeaf flynyddol ar Ddiwrnod Digartrefedd y Byd ddydd Gwener, a bydd yn gweithio’n ddiwyd i daflu goleuni ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Ar 9 Hydref, bydd yr Amgueddfa Ddigartrefedd a grwpiau rheng flaen gan gynnwys y Simon Community, Streets Kitchen a The Outside Project yn cynnal gwylnos y tu allan i Stryd Downing rhwng 6pm a 7.30pm.
Gwahoddir pobl i oleuo cannwyll yno neu yn eu cartrefi a phostio llun ar-lein gyda’r hashnod #MakeThemCount – @Our_MoH
Am 11am ddydd Sul 12 Hydref yng Nghaerdydd, bydd Eglwys Gymunedol Vine yn cynnal digwyddiad sy’n ceisio hysbysu, ysbrydoli a chofio. Bydd yn cynnwys perfformiad gan y Côr Heb Enw.
Mae’r darlun ledled y DU yn amrywiol. Roedd y cynnydd gwaethaf mewn marwolaethau’n ymwneud â digartrefedd i’w weld yn Ne Orllewin Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr a Dwyrain Lloegr. Fodd bynnag, cafwyd gostyngiad mewn marwolaethau yng Nghymru a’r Alban.
Mae’r rhan fwyaf o farwolaethau yn gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol, gyda 44% o’r holl farwolaethau’n gysylltiedig â hyn.
Ar ôl blwyddyn o ymchwilio, rydyn ni wedi gweld â’n llygaid ein hunain yr anawsterau sy’n wynebu cymunedau sy’n gorfod delio â mewnlifiad o gyffuriau newydd.
Lleoliad | Marwolaethau 2024 | Marwolaethau 2023 | Marwolaethau 2022 |
Cyfanswm Gogledd Iwerddon | 211 | 155 | 205 |
Belfast | 56 | 49 | 56 |
Antrim a Newtownabbey | 19 | 16 | 30 |
Derry a Strabane | 16 | 6 | 10 |
Cyfanswm Yr Alban | 168 | 206 | 157 |
Glasgow | 31 | 51 | 50 |
Caeredin | 23 | 41 | 40 |
Cyfanswm Cymru | 90 | 97 | 76 |
Caerdydd | 23 | 35 | 22 |
Abertawe | 10 | 10 | 16 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 11 | 2 | Heb ei gynnal |
Cyfanswm Lloegr | 1139 | 983 | 875 |
Llundain | 326 | 310 | 295 |
Manceinion | 16 | 18 | 21 |
Brighton a Hove | 36 | 36 | 43 |
Nottingham | 22 | 11 | 7 |
Caerlŷr | 10 | 8 | 4 |
Caergrawnt | 14 | 15 | 11 |
Bryste | 32 | 37 | 24 |
Caerwysg | 21 | 8 | 8 |
Bournemouth, Christchurch a Poole | 18 | 20 | 10 |
“Gan fod Angela Rayner a Rushanara Ali wedi gadael eu swyddi yn 2025, mae hyn yn amlygu’r diffyg arweinyddiaeth ar ddigartrefedd a thai ar bob lefel o lywodraeth yn wyneb yr argyfwng digartrefedd gwaethaf y mae’r wlad hon erioed wedi’i weld. Mae ein hymchwiliad yn dangos sut mae pobl ddigartref yn parhau i gael eu siomi. Rydyn ni’n galw ar y llywodraeth i weithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn.”
Mae’r Prosiect Marw’n Ddigartref yn defnyddio gwybodaeth o ymholiadau gan grwneriaid, sylw yn y cyfryngau, tystiolaeth gan deuluoedd a cheisiadau rhyddid gwybodaeth i wirio manylion pob achos.
Mae’r Amgueddfa Ddigartrefedd wedi casglu data ers 2019 am nad oes gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ystadegau ar farwolaethau pobl ddigartref. Mae hyn yn golygu mai’r prosiect hwn yw’r unig gofnod cyhoeddedig o farwolaethau’n ymwneud â digartrefedd yn y DU ar hyn o bryd.
Gwybodaeth am y Prosiect Marw’n Ddigartref — Yr Amgueddfa Ddigartrefedd
Mae’r Amgueddfa Ddigartrefedd wedi’i lleoli ym Mharc Finsbury, Gogledd Llundain lle agorodd ei safle parhaol cyntaf yn 2023. Cewch ragor o wybodaeth am yr amgueddfa yn www.museumofhomelessness.org