Gwasanaeth Llesiant Cyffuriau ac Alcohol (DAWS) Wrecsam a Sir y Fflint

Tŷ Croeso, 31A Grosvenor Road, Wrexham LL11 1BT

Sir y Fflint, Wrecsam

01978 357 926

Mae The Wallich yn darparu mynediad agored at gymorth cuffuriau ac alcohol ar draws Wrecsam a Sir y Fflint

DAWS

Pwy rydyn ni’n eu helpu?

 Oedolion (18 oed a hŷn) sy’n defnyddio cyffuriau a/neu alcohol, ynghyd â’u teuluoedd a’u gofalwyr.

Beth rydyn ni’n ei gynnig?

Mae ein gwasanaeth mynediad agored yn cynnwys darparu gwybodaeth a chyngor sy’n ymwneud ag alcohol a chyffuriau, atgyfeiriadau at ddarparwyr triniaeth cyffuriau ac alcohol strwythuredit h.y. gwasanaeth camddefnyddio sylweddau, atgyfeiriadua trothwy isel ac ôl-ofal sy’n canolbwyntio ar adferiad.

Diben mynediad agored yw galluogi ymgysylltu drwy ddarpariaeth allgymorth a chyfleusterau galw heibio. Rydym yn cunnig cymorth, arweiniad a gwasanaeth cyfeirio at ddarparwyr ac asiantaethau perthnasol eriall. Rydym hefyd yn gallu cynnig mynediad at ffôn a chyfrifiadur i helpu i wneud cais am fudd-daliadua a chyflogaeth, ynghyd â chyfleoedd gwirfoddoli ac ymgysylltu â’r gymuned.

Tudalennau cysylltiedig