Blaenau Gwent
bondboardbg@thewallich.net
01495 366 895 / 07824 991439
Mae’r tenant wedyn yn cynilo er mwyn talu’r bond yn ôl dros gyfnod o ddwy flynedd.
Rydyn ni eisiau ei gwneud hi’n haws i chi gael blaendal at ei gilydd.
Mae’r gostyngiad mewn tai cymdeithasol a’r cynnydd ym mhrisiau tai wedi achosi mwy o gystadleuaeth i rentu’n breifat yng Nghymru.
Mae taliadau ymlaen llaw – gan gynnwys arian bond a rhent ymlaen llaw – yn golygu ei bod yn anodd i lawer o bobl sydd ar incwm isel gael llety yn y sector rhentu preifat.
Yn ogystal â darparu cymorth ariannol, mae’r Bwrdd Bondiau yn helpu tenantiaid i symud ac ailsetlo.
Rydym hefyd yn helpu i feithrin perthynas dda gyda landlordiaid lleol.
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfryngu a datrys problemau, os yw’r berthynas rhwng tenant a’r landlord yn chwalu.
Drwy helpu pobl gyda’u blaendal a gwella’r berthynas rhwng tenantiaid a landlordiaid, gobeithiwn helpu i atal digartrefedd ar draws Blaenau Gwent.
I atgyfeirio achos at y Bwrdd Bondiau, cysylltwch â’r Adran Dai yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
Dim ond y cyngor sy’n gallu cyfeirio pobl at gymorth.
Cyfeiriad: Canolfan Cyngor ar Dai, 20 Church Street, Glyn Ebwy, NP23 6BG
Amseroedd agor: 10am – 2pm
E-bost: housing@blaenau-gwent.gov.uk
Ffôn: 01495 354600
Argyfwng digartrefedd y tu allan i oriau swyddfa: 01495 311556
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â ni.