Bwrdd Bondiau Blaenau Gwent

Ystafelloedd 12 a 13 Canolfan Fusnes Torfaen, New Inn, Pont-y-pŵl, NP4 0LS

Blaenau Gwent

01495 366 895 / 07824 991439

Mae Bwrdd Bondiau Blaenau Gwent yn rhoi tystysgrifau bond neu flaendaliadau pres i dalu cost blaendal ar fflat neu dŷ i’w rentu

Mae’r tenant wedyn yn cynilo er mwyn talu’r bond yn ôl dros gyfnod o ddwy flynedd.

Rydyn ni eisiau ei gwneud hi’n haws i chi gael blaendal at ei gilydd.

Mae’r gostyngiad mewn tai cymdeithasol a’r cynnydd ym mhrisiau tai wedi achosi mwy o gystadleuaeth i rentu’n breifat yng Nghymru.

Mae taliadau ymlaen llaw – gan gynnwys arian bond a rhent ymlaen llaw – yn golygu ei bod yn anodd i lawer o bobl sydd ar incwm isel gael llety yn y sector rhentu preifat.

CEFNOGAETH ARALL

Yn ogystal â darparu cymorth ariannol, mae’r Bwrdd Bondiau yn helpu tenantiaid i symud ac ailsetlo.

Rydym hefyd yn helpu i feithrin perthynas dda gyda landlordiaid lleol.

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfryngu a datrys problemau, os yw’r berthynas rhwng tenant a’r landlord yn chwalu.

Drwy helpu pobl gyda’u blaendal a gwella’r berthynas rhwng tenantiaid a landlordiaid, gobeithiwn helpu i atal digartrefedd ar draws Blaenau Gwent.

Atgyfeirio

I atgyfeirio achos at y Bwrdd Bondiau, cysylltwch â’r Adran Dai yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Dim ond y cyngor sy’n gallu cyfeirio pobl at gymorth.

Cyfeiriad: Canolfan Cyngor ar Dai, 20 Church Street, Glyn Ebwy, NP23 6BG

Amseroedd agor: 10am – 2pm

E-bost: housing@blaenau-gwent.gov.uk

Ffôn: 01495 354600

Argyfwng digartrefedd y tu allan i oriau swyddfa: 01495 311556

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â ni.

Tudalennau cysylltiedig