Roeddwn wrth fy modd pan ddaeth Cymorth Cymru ataf yn ddiweddar i gyflwyno gweithdy ar Tai yn Gyntaf yn eu Symposiwm Digartrefedd ar 7 Tachwedd 2018.
Bu cydnabyddiaeth gynyddol o lwyddiannau model Tai yn Gyntaf yng Nghymru, ac yn y DU yn ehangach, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a theimlai Cymorth – fel minnau – ei bod yn bwysig dysgu yn sgil profiadau prosiectau presennol Tai yn Gyntaf wrth ddatblygu prosiectau newydd neu rai yn y dyfodol.
Mae The Wallich wedi bod yn darparu Tai yn Gyntaf yn Ynys Môn ers pum mlynedd a hanner bellach, felly roedd yn gyfle gwych i rannu ein profiadau.
Roeddwn yn falch o roi cyflwyniad yn y gynhadledd ochr yn ochr ag Yvonne Connolly, o Fyddin yr Iachawdwriaeth, ar eu prosiect cymharol newydd Tai yn Gyntaf. Treialwyd y gwasanaeth hwn yng Nghaerdydd yn ystod y 12 mis diwethaf.
Er gwaetha’r gwahaniaethau mawr rhwng y ddwy ardal – o ran daearyddiaeth, demograffi a nifer y bobl ddigartref – rydym wedi cael profiadau tebyg iawn ac wedi dysgu am bwysigrwydd dewis i gleientiaid, sefydlu panel budd-ddeiliaid a rhwystrau ariannol tymor byr ar gyfer, yr hyn a ddylai fod, yn fodel cymorth tymor hir.
Aeth ein sesiwn yn hirach gan fod Yvonne a minnau’n dra awyddus i gynnwys cymaint â phosibl o wybodaeth a dysgu, ond cafodd y gweithdy dderbyniad da. Cawsom nifer o sylwadau cadarnhaol a nifer o gwestiynau ar draws y sector.
Rwyf wastad yn barod i rannu’r profiadau a gawn wrth ddarparu prosiect Tai yn Gyntaf oherwydd credaf ei bod yn ffordd werthfawr o leihau digartrefedd yn y tymor hir.
Ni allaf bwysleisio digon mor bwysig yw’r staff i sicrhau llwyddiant y prosiect.
Rwy’n hynod o falch o fy nhîm yn Ynys Môn. Maent yn gweithio’n galed bob dydd i gefnogi anghenion cymhleth unigolion gan ddangos brwdfrydedd ac agwedd gadarnhaol bob amser.
Darllenwch fwy am ein prosiect Tai yn Gyntaf ar Ynys Môn