Fe wnaeth The Wallich anfon Timau Ymyrraeth ar gyfer Pobl sy’n Cysgu Allan i bedair ardal wledig i helpu pobl ddigartref ac i gasglu data. Mae’r adroddiad hwn yn trafod canfyddiadau o Geredigion, Sir Gaerfyrddin, Penfro a Phowys.
Mae gan ddigartrefedd yng nghefn gwlad ei heriau, ei anawsterau a’i stigma ei hun.
Drwy ymgysylltu â phobl yn yr ardaloedd gwledig hyn fe wnaethom ddysgu am yr heriau hynny, ac oherwydd yr ymchwil hwn llwyddom hefyd i wneud argymhellion ynglŷn â sut i’w goresgyn.