Nod WISE yw cefnogi pobl sydd wedi bod yn ddigartref i symud i waith, naill ai gyda Y Wallich neu gyda’n partneriaid corfforaethol ar draws De Cymru. Cafwyd 60 o atgyfeiriadau i gleientiaid ymuno â phrosiect WISE ar gyfer tymor 2018/19, a chafodd ugain o bobl eu derbyn.
Caiff ein cleientiaid gyfoeth o brofiad o’n hyfforddiant cyn-cyflogi fel; meithrin hyder, gosod nodau, sgiliau cyfathrebu, gwisgo ar gyfer gwaith, a sgiliau cyfweld.
Mae’r profiad ymarferol yn cynnwys mentora, cymwysterau safonol y diwydiant a dysgu yn y gwaith drwy leoliadau gwaith.
Cynigir cefnogaeth i raddedigion, a’r sefydliadau a fydd yn eu cyflogi, yn ystod y cyfnod prawf i wneud yn siŵr bod eu swyddi yn gynaliadwy.
Nawr mae gan raddedigion WISE yr haf 2019 well hyder a sgiliau i ddilyn eu breuddwyd o ran gyrfa.
Dywedodd Lolita, cyfranogwr WISE yn y gwanwyn 2019:
Ymuno â phrosiect WISE yw’r peth gorau y gallwn i fod wedi’i wneud. Rydw i wrth fy modd fy mod i’n symud ymlaen. Dwi’n gwneud pethau i helpu pobl. Rydw i eisiau dangos iddyn nhw nad oes yn rhaid i chi aros ym mhle rydych chi wedi bod.
Dywedodd Liz Warburton, Cydlynydd WISE Y Wallich:
Rwy’n falch iawn o gyfranogwyr y tymor hwn. Mae bob un ohonynt wedi bod yn ymroddedig i’r prosiect ac wedi camu o’u byd cyfarwydd er mwyn graddio. Rwy’n edrych ymlaen at gael lansio’r prosiect yn Abertawe a helpu mwy o bobl i ddychwelyd i weithio.
Allech chi gynnig profiad gwaith unigryw i’n cleientiaid, gyda chymorth gan Y Wallich, i helpu pobl ddigartref ac agored i niwed gael dychwelyd yn ôl i weithio? Anfonwch neges e-bost at dosomething@thewallich.com i gymryd rhan heddiw.