Os byddwch chi’n ymweld â’r hyb yng nghanol y ddinas ar fore Gwener prysur, fe fyddwch chi’n dyst i’r holl brysurdeb wrth i gleientiaid amrywiol ddod i mewn drwy ddrysau canolfan galw heibio Casnewydd.
Mae anghenion y bobl sy’n ddigartref yng Nghasnewydd yn enfawr ond darperir ar eu cyfer yma; pa un a ydynt wedi dod draw i fewngofnodi i’w tudalen Facebook, cael diod boeth, gwefru eu ffôn, nôl y post, trefnu galwad ffôn i’r gwasanaethau lles neu i drafod eu sefyllfa o ran lle i fyw gydag un o’n gweithwyr cymorth penodedig. Mae’r staff yn y ganolfan galw heibio yn arbenigwyr mewn tai a digartrefedd.
Maen nhw’n gweithio’n galed i feithrin ymddiriedaeth gyda chleientiaid a darparu cymorth wedi’i deilwra – bob amser gydag agwedd gyfeillgar a chroesawgar
Cawsom sgwrs â defnyddwyr gwasanaethau’r ganolfan ynghylch sut mae’r tîm wedi’u helpu nhw, a dyma oedd ganddyn nhw i’w ddweud:
Mae Paul wedi bod yn dod i’r ganolfan galw heibio gyda’i bartner ar ôl colli eu tenantiaeth rhent.
“Byddwn i’n disgrifio Y Wallich fel rhagorol. Mae llawer o help â phethau dwi eu hangen.
Maen nhw wedi fy helpu â Chredyd Cynhwysol a chymorth tai. Pan gaf i gartref, gobeithio y galla i adeiladu ar hynny.”
Mae Louise wedi bod yn defnyddio’r gwasanaeth ers nifer o flynyddoedd ac mae hi wedi gweld y gwasanaeth yn gwella.
“Mae Y Wallich yn helpu â budd-daliadau, agor cyfrif banc – doedd gen i erioed un o’r blaen.
Fe wnaethon nhw hynny mewn tri diwrnod. Ardderchog.
Rydw i wedi bod yn ymweld â’r gwasanaeth ers tair neu bedair blynedd. Maen nhw wedi helpu i roi trefn ar fy mywyd.’
Mae David yn cysgu ar y stryd. Fe ddaeth i Gasnewydd o Awstralia yn 2016. Pan gyrhaeddodd y ganolfan galw heibio, daeth i mewn i gael sgwrs â’r tîm a nôl ei ddillad wedi’u golchi.
“Byddai wedi canu arna i hebddyn nhw [Y Wallich]. Bydd y byd yn lle gwahanol iawn hebddyn nhw.
Roeddwn i wedi cwrdd â Y Wallich ym mis Rhagfyr 2016, ac rydw i wedi bod yn ymweld â nhw fyth ers hynny.
Rydw i’n ymweld â’r ganolfan galw heibio dair gwaith yr wythnos. Mae’r tîm yn ymweld â fi pum diwrnod yr wythnos, ac rwy’n cael paned o de a brecwast.
Fe gerddodd y staff ata i drwy’r eira pan dorrodd y fan hyd yn oed. A phetaent ond yn dod allan i weld a ydw i’n iawn, byddwn i wrth fy modd.”
I gael gwybod mwy am ein cyfleoedd i wirfoddoli, a sut gallwch chi helpu pobl fregus fel Paul, Louise a David.