“F’enw i yw Brett. Rwy’n dod yn wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr.
Rydw i wedi bod gyda’r Wallich am ddwy flynedd a hanner yn fras.
I ddechrau roeddwn i ym mhrosiect Vesta ym Mhen-y-bont ac wedyn fe symudais i Groes Ffin yn y Barri.
Fe ddechreuais fynd i ddibynnu ar gyffuriau pan oeddwn yn 30.
Roedd gen i fy nghwmni fy hun. Roedd yn eitha llwyddiannus. Roedd gen i dair fan, a thŷ braf yn Abertawe gyda fy nghariad.
Roedden ni newydd gael merch fach ond, o fewn rhyw wyth mis iddi ddod allan o’r ysbyty, fe sylwais fod fy nghariad ar y pryd wedi newid. Rwy’n meddwl ei bod hi’n mynd drwy iselder ôl-enedigol.
Roedden ni’n dadlau llawer. Felly, fe benderfynais i, yn hytrach na dadlau gyda babi newydd yn y tŷ, y byddwn i’n gadael. Ac fe adewais i.
Roeddwn i’n ceisio rhedeg y cwmni ar fy mhen fy hun, tra oeddwn i’n byw mewn hosteli, a llefydd gwely a brecwast. Roedd yn amhosib.
Yn y diwedd, doedd gen i ddim cwmni, dim tŷ, ac yn y bôn roeddwn i’n byw ar y stryd.
Dyna pryd y dechreuodd fy nghysylltiad â’r Wallich.
Rwy wedi cael cefnogaeth dda iawn gan y gweithwyr cymorth. Maen nhw’n fawr eu gofal ac maen nhw wedi bod yn wych gyda fi.
Pan ddechreuais i ddefnyddio Diamorphine, fe sylweddolais i’n gyflym iawn mor ddibynnol arno yr oeddwn i’n mynd yn gorfforol.
Fe gymerodd amser hir i fi ar Buprenorphine i sefydlogi, oherwydd ychydig iawn o bobl mewn gwirionedd sy’n dod dros ddibyniaeth ar heroin.
Mae’n frwydr.
Ers i fi fod yn y Barri, rwy wedi rhoi gwerth 18 mis o brofion glân.
Cefais gynnig cwrs dadwenwyno yn Ysbyty Llandochau. Es i mewn i wneud cwrs 10 diwrnod. Roeddwn i’n poeni am y symptomau diddyfnu y byddwn yn eu cael.
Fe bares i bedwar diwrnod ar y ward. Roeddwn yn teimlo’n euog am fynd ag amser yr ysbyty, a mynd â lle yno, oherwydd dibyniaeth yr oeddwn i wedi ei thynnu arnaf fy hun.
Des yn ôl at brosiect y Wallich i weld fy ngweithiwr cymorth – y person roedd gen i fwyaf o ffydd ynddo.
Fe wnes i’r penderfyniad mod i am wneud y chwe diwrnod olaf yn fy fflat.
Am bedair wythnos wedyn, roeddwn i’n cael symptomau ofnadwy. Allwn i ddim cysgu na bwyta. Roeddwn i’n chwydu ac yn cael cryndod ofnadwy. Roeddwn yn isel fy ysbryd ac roedd fy emosiynau i fyny ac i lawr drwy’r amser.
Erbyn hyn rwy wedi gwella ac mae fy iechyd yn iawn.
Pan oeddwn i’n byw ar y stryd, allwn i ddim dychmygu sefyllfa lle byddwn i yn ôl yn gweithio, ar ôl i’m perthynas chwalu a minnau wedi mynd i ddibynnu ar gyffuriau oherwydd hynny.
Bydd y Wallich yn creu cynllun symud ymlaen i fi fel rhan o’r cymorth. Mae gen i opsiynau’n barod o ran llefydd i fyw ynddyn nhw, ac rwy’n gobeithio mynd yn ôl i’r byd adeiladu.
Dydw i ddim yn barod i gychwyn fy nghwmni fy hun eto. Rydw i eisiau’r holl fuddion sy’n dod o weithio i rywun arall – tâl salwch, tâl gwyliau, gwyliau blynyddol – nes bydda i wedi cael fy hyder yn ôl.
Mae’r Wallich wedi bod yn help aruthrol, drwy roi lle i fi i fyw a chymorth, ac rwy’n ddiolchgar iawn iddyn nhw.”