Am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r Wallich wedi cefnogi Danielle yn Sir Gâr.
Ar ôl datblygu bond cryf gyda’i gweithiwr cymorth, mae Danielle wedi gallu cael llety iddi hi ei hun a’i phlant ifanc.
Mae Danielle hefyd nôl ar y trywydd iawn gyda’i hastudiaethau ac ar y ffordd i gael swydd ei breuddwydion.
Fel rhan o gyfres Dyddiaduron y Cyfnod Clo, darllenwch stori Danielle.
“Mae’r Wallich wedi helpu fi gymaint, ond mae uchafbwyntiau ac iselbwyntiau wedi bod ar hyd y ffordd.
Mae Hollie, fy ngweithiwr cymorth, yn anhygoel. Mae hi wedi fy helpu drwy gyfnod tywyll iawn.
Mae Hollie wedi bod wrth fy ochr, mae hi wedi gwrando ar bethau o’dd ddim yn ei swydd-ddisgrifiad. Dwi wedi adrodd stori fy mywyd wrthi ac mae hi wedi bod fel cwnselydd i fi.
Dwi’n ddiolchgar dros ben i’w chael hi yn fy mywyd. Dwi ddim yn meddwl y bydden i’r person ydw i heddiw hebddi hi.
Cafodd fy merch ganol ei geni’n gynnar iawn a bu bron iddi farw. Ro’dd lot o gymhlethdodau.
Pedwar mis yn ddiweddarach, ro’n i’n feichiog gyda fy nhrydydd plentyn, Jessie. Doeddwn i ddim yn siŵr os o’n i eisiau bwrw ymlaen gyda’r beichiogrwydd, oherwydd popeth o’dd wedi digwydd yn barod.
Ro’n i mewn lle tywyll iawn. Mae wedi bod yn anodd. Dwi ddim am ddweud celwydd.
Ro’dd eu tad a finnau wedi gwahanu. Ro’n i’n fam sengl gyda dau o blant, yn feichiog gyda’r trydydd. Do’dd dim byd gyda fi.
Do’dd gan fy merch hynaf ddim gwely. Ro’n i mewn dyled ofnadwy. Ro’n i’n mynd i gael fy nhroi allan. Nes i adael y brifysgol.
Ro’n i wedi rhoi’r gorau i’r tŷ cyngor i rentu’n breifat gyda thad y ddau ifancaf. Wnes i erioed feddwl y bydde ni’n cael tŷ cyngor eto.
Ond fe wnaeth Hollie fy helpu i ddod o hyd i dŷ a nawr ma ‘da fi dŷ hyfryd a thri o blant hyfryd.
Llynedd, fe wnes i ddechrau gwrthryfela rhywfaint. Pan ro’dd y plant gyda’u tad, bydde ni’n mynd mâs ar y penwythnos.
Ond fe gafodd Hollie air gyda fi, fe wnaeth i fi sylweddoli fy mod i’n well na hynny, yn y ffordd orau bosib.
Ar ôl y sgwrs honno, fe benderfynais i fynd nôl i’r brifysgol. Fe wnes i gais y diwrnod hwnnw. Fe wnes i ei ffonio hi [Hollie] a dwi’n meddwl ei bod hi wedi cael cymaint o sioc â fi.
Fe ges i le yn y brifysgol a dwi wedi llwyddo i aros y tro ma. Dwi wedi cwblhau fy mlwyddyn gyntaf a blwyddyn eto i fynd.
Dwi’n mynd i fod yn gwnselydd cymwys sy’n rhywbeth dwi wastad wedi eisiau bod.
Fe gollais fy nhad chwe blynedd nôl, pan o’n i’n 18 oed. Ro’dd fy nhad yn dioddef gyda’i iechyd meddwl ac yn gaeth i gyffuriau.
Ro’n i’n teimlo mod i wedi gwneud lot dros dad, ond doeddwn i ddim yn gallu ei achub, a hoffwn achub pobl eraill a helpu pobl eraill.
Mae Hollie wedi bod y model rôl ro’n i ei angen. Mae hi wedi gweld y pethau da amdana i, ac er gwaetha fy sefyllfa, doedd hi byth yn barnu.
Mae’r gefnogaeth wedi parhau drwy gydol Covid-19.
Wnâi ddim dweud bod gorfod aros gartref am bron i dri mis wedi bod yn hawdd, achos o’dd e ddim yn hawdd.
Ond dwi wedi siarad â Hollie bob wythnos. Ma’ hi yno ar fy nghyfer i, ddydd ar ôl dydd.
Mae Hollie wedi galw heibio tu allan i gasglu rhai ffurflenni.
Yn amlwg, mae’n gwisgo’r cit llawn a dyw hi ddim wedi dod yn agos ata i, sydd wedi effeithio arna i oherwydd dwi ddim yn gyfarwydd â hynny.
Dwi wedi cael Hollie yn fy mywyd ers sbel erbyn hyn.”
“Mae gwrando ar Danielle yn ail-adrodd ei stori wedi gwneud i fi deimlo mor hapus a dwi mor falch o ba mor bell mae hi wedi dod.
Ac mae wedi cadarnhau pam dwi’n caru gweithio i’r Wallich.
Dwi’n teimlo’n ddiolchgar fy mod i mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth bach i fywydau pobl a’u cefnogi i gyrraedd eu nod.