Stori Darren

02 Dec 2025

Bu Darren yn cysgu allan ar strydoedd Caerdydd am 10 mlynedd

Ar ôl mynd trwy’r system ofal, profodd Darren drais ac unigrwydd ar y strydoedd. Yna daeth o hyd i gwmni sef Poppy, ei ffrind pedair coes.

Am y tro, mae Darren a Poppy y ci yn byw yn hostel The Wallich yng Nghaerdydd lle byddan nhw’n treulio’r Nadolig.

Mae The Wallich yn ddarparwr llety anifeiliaid anwes sydd wedi’i achredu gan yr Ymddiriedolaeth Cŵn. Mae’n croesawu anifeiliaid ledled y wlad.

Darllenwch stori Darren

“Rydw i wedi bod trwy gryn dipyn. Hosteli gwahanol, yn amlwg. Rydw i bellach yma yn The Wallich gyda fy nghi.

Mae gen i ystafell sylfaenol a chegin yn rhan ohoni. Ond mae ganddyn nhw gegin gymunedol i chi goginio ynddi.

Mae yna Weithwyr Cymorth os oes angen unrhyw gefnogaeth arnoch. Mae gwaith y rhain yn fwy na siec gyflog iddyn nhw, maen nhw’n wirioneddol boeni amdanoch chi.”

Bod yn ddigartref yng Nghaerdydd

“Roedd yn anodd oherwydd ar y dechrau doedd gen i ddim ci, felly roeddwn ar fy mhen fy hun yn cysgu allan o gwmpas Caerdydd.

Felly gallwch ddychmygu hynny, pabell a minnau’n crwydro o gwmpas Caerdydd.

Mae Poppy bellach yn 6 a hanner a phan ddechreuais i gysgu ar y strydoedd, doedd fy iechyd meddwl ddim yn rhy dda, ond wedyn yn amlwg tra oeddwn i ar y strydoedd, dechreuodd ddirywio.

Felly dewisais gael Poppy fel ffrind, oherwydd rwy’n ei chael hi’n anodd siarad efo pobl. Rwy’n berson mewnblyg felly does gen i ddim llawer o ffrindiau.

textimgblock-img

I fod yn onest, mae Poppy wedi gwneud fy mywyd yn hapusach.

Mae Poppy yn caru pawb, oherwydd dros amser, tra mae Poppy wedi bod efo fi’n mynd a dod o wahanol hosteli, mae hi’n amlwg wedi dod yn gi stryd. Mae’n ymddangos bod pobl ar y stryd yn adnabod Poppy.

Felly mae Poppy yn gi enwog ar y stryd.

Mae pobl yn barnu llawer hefyd pan fyddwch chi ar y strydoedd.

Mae rhai pobl yn wych ond daeth un person ata i a fy nghicio yn fy mhen tra oeddwn ar y stryd. Mae yna rai pobl fel yna, wyddoch chi beth ydw i’n ei olygu?

Felly dydi pawb ddim yn dewis bod yn ddigartref am wn i. Gall pob un ohonon ni fod yn ddigartref. Mater o sefyllfa’n mynd o’i le ydyw.

Fuaswn i ddim yn dymuno bod hynny’n digwydd i unrhyw un.”

Gofyn am gymorth

“Mae’n anodd ar y dechrau oherwydd i fod yn onest gyda chi, rydw i fel y rhan fwyaf o ddynion. Dydw i ddim yn hoffi gofyn am help.

Felly rwy’n ceisio gwneud popeth ar fy mhen fy hun ac fe gymerodd amser hir i mi fagu plwc i fynd i mewn a chael yr help.

Roeddwn i’n cysgu’n aml ar soffas a ballu yn nhŷ ffrindiau.

I fod yn onest gyda chi, es i i’r carchar am ychydig. A phan wnes i ddod allan, dyna pryd wnes i benderfynu mynd at y cyngor oherwydd roedd yn ormod, roedd hi’n ganol y gaeaf, ac yn rhy oer.

Felly yn amlwg ar ôl hynny, llwyddais i gael rhywle. Roedd yn eithaf swreal, mewn gwirionedd.

Roedd Poppy gen i cyn i mi fynd i’r carchar. A phan es i i’r carchar, wnaeth un o fy ffrindiau ofalu amdani.

Y broblem nawr yw dod o hyd i lefydd a fydd yn derbyn anifail. Ac mae’n anodd oherwydd yn amlwg, rwy’n gwybod bod Poppy yn ymddwyn yn dda, wnaiff hi ddim gwneud llanast. Ond mae’n anodd dod o hyd i rywun neu landlord sy’n barod i gredu yn yr hyn rydych chi’n ei ddweud.

Dim ond un neu ddau o hosteli sy’n derbyn cŵn yng Nghaerdydd. Felly gall anifeiliaid ddod yn dipyn o rwystr. Rwy’n credu bod hi’n deg dweud hynny.”

Digartrefedd adeg y Nadolig

“I fod yn onest gyda chi dros y Nadolig, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd. Y dyddiau hyn, rhywbeth i blant a theuluoedd ydi’r Nadolig, ac yn amlwg, wrth fy mod i’n ddigartref a ballu, does yna ddim llawer o deulu wedi bod o fy nghwmpas i oherwydd fy mrwydrau mewn bywyd.

Felly yn amlwg rwy’n tueddu i gael trafferth adeg y Nadolig – oherwydd mae’r Nadolig ar gyfer teuluoedd.

Felly, am wn i, fe fydda i a Poppy yn mynd allan am dro ar Ddydd Nadolig, neu rywbeth tebyg, oherwydd dyna beth rydyn ni wedi arfer ei wneud.

Rydw i wedi gorfod sefyll ar fy nwy droed fy hun ers fy mod i tua 14/15 oed. Cefais blentyndod eithaf gwael. Felly cefais fy ngwahanu oddi wrth fy rhieni.”

Beth ddylai’r cyhoedd ei wneud pan fyddan nhw’n gweld pobl ar y strydoedd y Nadolig hwn?

“Mae’n anodd oherwydd yn amlwg yr adeg hon o’r flwyddyn mae llawer o bobl o gwmpas yn siopa Nadolig. Rwy’n deall pam fod pobl yn cerdded heibio i chi.

Os ydych chi’n cerdded heibio iddyn nhw, beth am roi siocled poeth neu hyd yn oed rywbeth o Greggs iddyn nhw. Ie, yn amlwg cynigiwch rywbeth, cynigiwch siocled poeth, diod boeth neu rywbeth poeth i’w fwyta, efallai.”

Os ydych chi’n poeni am fod yn ddigartref y Nadolig hwn, mynnwch fwy o wybodaeth am The Wallich.

textimgblock-img

Ein gwasanaethau

Gael gwybod mwy
textimgblock-img

Apêl Nadolig Wallich

Cyfrannwch ar-lein
textimgblock-img

Help a chyngor

Gael gwybod mwy