Stori gwirfoddoli Maia

16 Sep 2019

Dechreuodd Maia wirfoddoli yn The Wallich dros fisoedd yr haf, tra’r oedd hi adref o’r brifysgol. Darllenwch am ei phrofiad o fod y n Wirfoddolwr Cymorth Swyddfa gyda’r timau Codi Arian a Chyfathrebu.

“Wrth i mi lenwi fy ffurflen gais wirfoddoli yn gynnar yn yr haf, doedd gen i ddim syniad beth oedd o fy mlaen i mewn gwirionedd.

Roeddwn i wedi treulio ychydig wythnosau cyntaf haf fy ail flwyddyn yn y brifysgol adref yng Nghaerdydd yn gwneud dim o bwys. Wrth weld tri mis gwag yr haf yn ymestyn o fy mlaen, roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gwneud mwy na pheidio gwastraffu amser, roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth o bwys.

Roeddwn i hefyd yn gwybod bod arna i eisiau gwneud rhywbeth o bwys yn fy nhref enedigol. Â minnau wedi fy magu yng Nghaerdydd, roeddwn i’n hen gyfarwydd â ddifrifoldeb digartrefedd a chysgu allan yn y ddinas; roedd hefyd yn golygu fy mod wedi byw’n agos iawn at The Wallich am flynyddoedd. Roedd yn ddewis amlwg: fe es i i’w gwefan, lawrlwytho’r ffurflen gais wirfoddoli, a’i llenwi.

O fewn ychydig ddyddiau, roeddwn i’n eistedd yn yr adeilad a arferai fod yn Eglwys, yr oeddwn i wedi cerdded heibio iddo bob dydd ar fy ffordd at y bws ac yn ôl adref. Dysgais mai hwn oedd adeilad gwasanaethau canolog The Wallich. Dros baned o de, cefais fy holi gan amrywiol aelodau o dîm The Wallich ynglŷn â’m diddordebau a’m sgiliau, ac awgrymwyd fy mod yn dod i mewn un waith yr wythnos i wirfoddoli gyda’r timau Codi Arian a Chyfathrebu.

Roedd y broses yn un gyflym, drefnus a syml. Rhoddwyd yr un faint o bwyslais ar fudd gwirfoddoli i mi ag a roddwyd ar y rhesymau bod arnyn nhw angen pâr ychwanegol o ddwylo – rhywbeth a barhaodd yn wir drwy gydol fy nghyfnod fel gwirfoddolwr.

Yn ystod y deufis a dreuliais yn The Wallich, fe ddysgais i fwy nag yr oedd modd i mi ei ragweld. Drwy fynd at fusnesau, siopau ac ysgolion gyda’r tîm Codi Arian er mwyn datblygu partneriaethau a datblygu prosiectau codi arian, mae fy hyder wedi cynyddu ac mae fy sgiliau cyfathrebu wedi gwella. Mae gweithio gyda’r tîm Cyfathrebu er mwyn datblygu gwefan newydd The Wallich wedi dysgu sgiliau digidol newydd ac amhrisiadwy imi, ac roedd yn bleser gallu gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Cafodd mentor gwirfoddoli ei haseinio ar fy nghyfer, Sian, aelod o’r staff presennol a gychwynnodd ar ei hamser yn The Wallich fel gwirfoddolwr. Daeth i fy ngweld er mwyn cael syniad o’r tasgau y byddwn yn eu mwynhau, er mwyn trafod ei gwaith ei hun yn The Wallich ac i greu cynllun gwaith clir ar gyfer y mis yr oeddwn i yno.

Roeddwn i hefyd yn teimlo bod gweddill y tîm yn gwerthfawrogi fy nghyfraniad, ac yn wirioneddol eisiau i mi elwa a dysgu o’m hamser gyda nhw. Fe ddysgais yr un faint o’r sgyrsiau a gefais gydag amrywiol aelodau’r tîm â’u llwybr i ddod i weithio i The Wallich ag a wnes i o ymgymryd â’r tasgau a roddwyd i mi o wythnos i wythnos.

Gwirfoddoli yn The Wallich oedd y peth mwyaf gwerthfawr a wnes i yn ystod yr haf o bell ffordd. Fe fyddwn i’n annog unrhyw berson ifanc sydd ag amser i’w sbario, parodrwydd i ddysgu, ac awydd i weithio gyda thîm o unigolion caredig ac ymroddedig i ystyried gwirfoddoli yma hefyd.”