Stori Kelly

08 Feb 2019

Mae Kelly yn gyn droseddwr a gwblhaodd leoliad gwaith tair wythnos gyda Interserve, i feithrin hyder a sgiliau newydd, trwy brosiect Adeiladu Cyfleoedd, Sgiliau a Llwyddiant (BOSS).

Fel rhan o gynllun i ddatblygu uwch arweinwyr, cynigiodd Interserve, busnes adeiladu wedi’i leoli yn , newydd gyda The Wallich i helpu’r rhai sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol i gael gwaith.

Awgrymwyd wrthynt eu bod yn ymuno â’n prosiect BOSS, sy’n gweithio gyda chyn droseddwyr a chyflogwyr i’w helpu i chwalu’r stigma sy’n gysylltiedig â chofnodion troseddol.

Bob yn barod ar gyfer Gwaith

Yn fuan, gwahoddwyd Kelly sy’n gleient ar brosiect BOSS, i swyddfa Interserve i gael cyflwyniad graddol i’r tîm.

Roedd wedi’i chael yn euog o droseddau’n ymwneud â chyffuriau yn y gorffennol, ond roedd yn awyddus i fynd yn ôl i fyd gwaith.

Roedd tasgau Kelly yn amrywio, er mwyn rhoi ystod eang o brofiadau iddi, nad oedd yn rhy heriol er mwyn meithrin ei hyder.

I ddechrau cafodd wythnos o brofiad gwaith. Bu’n gyfnod mor ddiddorol a defnyddiol nes iddi ddychwelyd am leoliad arall am bythefnos.

Rhoddwyd wythnos o brofiad gwaith i Kelly gyda thimau, yn rheoli gwaith gweinyddol adeiladu yn ogystal ag wrth y dderbynfa ac yn gwneud gwaith cyfrifo.

Hefyd paratowyd llyfr gwaith yn manylu ar amcanion clir a deilliannau dysgu ar gyfer tasgau fel: rheoli cyflogau a gwyliau staff, ymholiadau ynghylch anfonebau, cyfarch pobl, post, archebion prynu a chadw cofnodion, gyda sylwadau gan y staff cefnogi a gan yr ymgeisydd yn dilyn bob profiad newydd.

Dyma a ddywedodd Kelly am ei lleoliad gwaith:

“Mae gweithio gyda BOSS ac Interserve wedi newid fy mywyd.

Mae fy hyder a fy hunan barch wedi datblygu cymaint â buaswn yn argymell y lleoliad yma i unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynd yn ôl i fyd gwaith.

Cefais fy nhrin fel un o’r staff, ac roedd y gwaith yr oeddwn i’n poeni fyddai’n anodd iawn, fel cyfrifon, yn iawn mewn gwirionedd, gyda chymorth staff.

Hefyd roeddwn yn teimlo bod BOSS ac Interserve yn credu ynof, fod ganddynt hyder ynof, oedd yn gwneud i mi fod yn fwy penderfynol fyth i wneud yn dda mewn bywyd.”

Derbyniodd Kelly ‘Rhagorol’ am yr holl dasgau a roddwyd iddi, a chyd-weithiodd yn dda â’r tîm. Perfformiodd yn arbennig o dda yn y gwaith cyfrifo, a chreodd gymaint o argraff ar y tîm fel y byddant yn ei chadw mewn cof ar gyfer swyddi perthnasol yn y dyfodol.

Meddai David Bennett, Cydlynydd Cyswllt Corfforaethol, yn The Wallich:

“Rydym yn ddiolchgar i Interserve am eu cynnig i roi  profiad gwaith gwerthfawr i Kelly.

Cynyddodd hyder Kelly, sylwodd ar sgiliau na wyddai oedd ganddi a chynyddidd ei gallu I gael swydd, ond hefyd bu’n gatalydd I newid meysydd eraill o’i bywyd.

Roedd derbyn adborth mor arbennig am Kelly yn werthfawr iawn ac edrychwn ymlaen at barhau â’r bartneriaeth gydag Interserve.”

Llwyddiant parahaus

Bu’n brofiad gwerthfawr i swyddfa Interserve yn Abertawe ac mae wedi dewis parhau i fod yn gyflogwr fel rhan o raglen BOSS.

Mae Interserve a The Wallich yn credu bod cyn droseddwyr yn ffynhonnell na fanteisir arni, a’u bod fel arfer yn weithwyr ffyddlon a chynhyrchiol; yn gwbl groes i’r stereoteip.

Mae ymchwil wedi dangos bod gan 10 miliwn o oedolion yn y DU gofnodion troseddol, a bod cyflogaeth yn gallu lleihau cyfradd aildroseddu hyd at 50%. Eto i gyd dim ond 12% o gyflogwyr sydd wedi cyflogi rhywun â chofnod troseddol yn y tair blynedd diwethaf.

Byddwn yn parhau i helpu pobl sy’n wynebu rhwystr cofnod troseddol wrth geisio dychwelyd i fyd gwaith.

Darllenwch fwy am raglen Adeiladu Cyfleoedd, Sgiliau a Llwyddiant (BOSS) The Wallich