“Cefais fy rhyddhau o garchar ar ôl 20 mlynedd yn Awst 2016. Gwyddwn fy mod eisiau gweithio a bod gen i nifer o sgiliau y byddwn yn gallu eu cynnig i gyflogwr. Hefyd gwyddwn y byddai’n anodd i mi o ystyried fy amgylchiadau.
Ond doeddwn i ddim am adael i hyn gael y gorau arnaf. Euthum i’r Ganolfan Waith, ac ar ôl cyfnod o arfer i’r syniad o fod ‘allan’, cawsom sgwrs am y ffordd orau i gael gwaith a sut i gysylltu â chyflogwyr.
Cafodd fy hyfforddwr gwaith a minnau sgwrs am brosiect BOSS drwy The Wallich a rhoddwyd taflen a manylion cyswllt i mi.
Yn ystod Nadolig 2016, paratois CV a gwybodaeth amdanaf fy hun a’i e-bostio i brosiect BOSS.
Deuthum i gysylltiad â nhw yn Ionawr 2017 a bûm mewn cyfarfodydd rheolaidd i drafod beth y gallent ei gynnig i mi a beth y gallwn i ei gynnig i gyflogwr.
Mae gen i gymwysterau ym maes adeiladu ac rwy’n ystyried fy hun yn berson ymarferol gyda sgiliau da. Felly roedd yn ymddangos mai hwn oedd yr opsiwn gorau i mi. Roedd fy Mentor BOSS yn cysylltu â mi’n rheolaidd rhwng apwyntiadau ac yn cynnig cymorth bob amser.
Yn sgil gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer gweithio ar safle adeiladu, ar y dechrau roedd angen i mi sefyll prawf Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) a chael fy ngherdyn CSCS. Llwyddais i wneud hyn trwy BOSS ac roedd yn bosibl i mi gael sesiynau ymarfer gyda nhw i baratoi ar gyfer y prawf. Bûm yn llwyddiannus yn y prawf a chefais fy ngherdyn CSCS yn fuan wedyn.
Cefais fy nghyfeirio gan BOSS at Acorn Recruitment a dechreuodd y cwmni chwilio am waith i mi
Cefais gynnig swydd gyda chwmni adeiladu mawr a dechreuais y swydd hon ar ddechrau Mai 2017. Rwy’n hapus yn y swydd, yn cyd-dynnu’n dda â fy nghydweithwyr ac yn dysgu pethau newydd drwy’r amser.
Mae prosiect BOSS wedi parhau i gadw mewn cysylltiad tra ydw i’n gweithio.
Hefyd bûm ar gwrs Cerbydau, a drefnwyd trwy brosiect BOSS. Mae gen i bellach gymwysterau a sgiliau ychwanegol i’w rhoi ar fy CV ac mae’n braf gwybod eu bod yn dal i fy helpu pan fo angen.
Gwyddwn y byddai’n anodd dod allan o’r carchar ar ôl cyfnod mor hir, ond bellach rwyf wedi setlo ac yn gweithio. Dyna oedd fy nod. Aeth prosiect BOSS i drafferth fawr datgan fy nhroseddau i gyflogwyr.
Rwy’n gweithio’n galed ac yn mwynhau fy swydd ac rwy’n gobeithio y byddaf yn parhau i weithio.
Diolch BOSS!”
*Ffugenw yw Pete i ddiogelu manylion adnabod y client
Nod prosiect BOSS yw ailintegreiddio cyn droseddwyr i’w cymunedau trwy roi’r sgiliau, y cymwysterau, yr hyder a’r cymorth sydd ei angen arnynt i gael gwaith neu sefydlu eu busnes eu hunain ar ôl cyfnod yn y carchar.