Stori Richie

20 Feb 2019

Roedd Richie yn cael trafferth cael hyd I waith. Ae ôl cwblhau dau o gyrsiau dysgu a chyflogaeth The Wallich, dechreuodd swyff lawn-amser yn ionawr 2018. Darllenwch ei stori.

“Cyn cychwyn fy siwrnai gyda The Wallich, roedd cofnod troseddol wedi fy rhwystro rhag cael gwaith am amser hir. Roeddwn wedi bod i garchar ar dri gwahanol achlysur. Pan ddeuthum allan o’r carchar, roeddwn eisiau symud ymlaen â fy mywyd.

Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, rwyf wedi teimlo fod pobl yn amharod i roi swydd ystyrlon, sefydlog i mi oherwydd fy nghofnod troseddol. O ganlyniad, yn ystod y cyfnod hwnnw, rwyf wedi bod yn hunan gyflogedig gan mwyaf.

Pan oedd gen i fy musnes fy hun, roeddwn yn gweithio, heb feddwl mewn gwirionedd beth oeddwn i’n ei wneud neu beth hoffwn ei wneud mewn gwirionedd. Teimlwn nad oedd dewis gen i. Roeddwn mewn perthynas hirdymor a chwalodd yn sydyn, ac yn anffodus, bu’r gwahanu’n anodd iawn.

Yn sydyn iawn, cyrhaeddodd bwynt lle’r oeddwn heb unrhyw le i fyw, ac roedd yn rhaid i mi ailystyried nodau fy mywyd.

Dechrau eto

Cefais wybod am brosiect Adeiladu Cyfleoedd, Sgiliau a Llwyddiant (BOSS)  The Wallich a deuthum yn Fentor i Gymheiriaid ar gyfer y prosiect. Hefyd cefais fy annog i ymuno â’u prosiect Gweithio mewn Cyflogaeth Gynaliadwy (WISE).

Roedd WISE yn ymrwymiad mawr, yn para am chwe mis, ond fyddwn i ddim wedi gallu cael y swydd sydd gen i nawr heb yr hyfforddiant. Doeddwn i erioed wedi meddwl am bethau fel iaith y corff a sgiliau meddal cyn cael yr hyfforddiant. Hefyd dysgais sgiliau fel sut i lenwi ffurflenni cais a thechnegau cyfweld, ymysg pethau eraill oedd yn hanfodol i gael gwaith.

Rhoddodd yr hyfforddiant BOSS ar fod yn Fentor i Gymheiriaid a fy holl leoliadau gwirfoddoli eraill nid yn unig wybodaeth ymarferol, ond profiad ymarferol hefyd. Yn ogystal â hyn gwnaeth i mi feddwl amdanaf fy hun fel person, iaith y corff a sut rwy’n rhyngweithio â phobl eraill.

Rwyf wastad wedi bod yn gyfforddus iawn yn siarad â phobl, ond trwy brosiectau The Wallich cefais hyfforddiant, anogaeth a chyfleoedd i wella fy hun.

Bellach rwy’n llawer mwy ymwybodol o sut mae pobl yn ymateb mewn gwahanol sefyllfaoedd. Mae gen i fwy o empathi a chredaf fy mod yn rhyngweithio â phobl mewn ffordd llawer.

Profiad gwaith

Roedd prosiect BOSS a WISE yn sbardun i mi symud ymlaen a sylweddoli’n union beth oeddwn eisiau ei wneud gyda fy mywyd.

Alla i ddim gorbwysleisio pa mor hanfodol oedd yr agwedd gwirfoddoli. Credaf fod cyfleoedd gwirfoddoli wedi bod yn hanfodol i fy natblygiad. Trwyddynt cefais brofiad ymarferol mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.

Trwy BOSS a WISE agorwyd drysau i mi wirfoddoli mewn llefydd oedd yn addas i mi, a chynigiwyd y cymorth oedd ei angen ar y pryd. Gwirfoddolais yng Nghanolfannau Datrysiadau ar gyfer pobl sy’n cysgu allan, bûm ar leoliad gwaith drwy WISE ym Mhrosiect Gorwelion yn Abertawe a threuliais amser ym mhrif swyddfa BOSS. Dysgais gymaint a chyfarfod cymaint o bobl ysbrydoledig. Roedd fy Mentor BOSS ac aelodau tîm BOSS yno i mi drafod pethau pan oeddwn yn teimlo nad oedd pethau’n mynd yn iawn, neu pan oeddwn yn rhwystredig. Roedd hyn, ar sawl achlysur, yn werthfawr iawn.

Trwy leoliadau gwaith a gwirfoddoli, cefais hefyd gipolwg ar sut mae The Wallich yn gweithio a gwnaeth i mi fod eisiau gweithio iddynt. Dyna pam y gwneuthum gais am fy swydd gyda The Wallich.

Fy nghydweithwyr WISE

Fy hoff ran o brosiect WISE oedd gweld y ffordd y gwnaeth grŵp o bobl gyd-dynnu, wrth i amser fynd rhagddo, a dod yn dîm drwy’r anogaeth a’r cymorth yr oeddem yn ei roi i’n gilydd.

Wrth ymuno â phrosiect WISE, roedd pobl ar wahanol gamau yn eu bywydau, ac roedd yn wych eu gweld yn datblygu. Roedd yn siwrnai anodd i bawb ond dydw i ddim yn meddwl y byddai unrhyw un a fu ar y cwrs yn gwadu nad oeddent wedi dysgu llawer.

Nid pwrpas WISE yw cael swydd, yn hytrach rydych yn gweithio arnoch eich hun hefyd. Mae mwy iddo na chyflogaeth, mae’n ymwneud â’ch bywyd a’r ffordd yr ydych yn delio â phethau. Rhaid diolch o galon i staff y prosiect a fy nghyd gyfranogwyr gan i mi elwa cymaint ar ryngweithio â phob un ohonynt.

Myfyrio

Pan ddechreuais fy siwrnai gyda The Wallich, doeddwn i ddim wedi eistedd mewn ystafell ddosbarth ers amser hir, nac wedi gwneud llawer o hyfforddiant. Doedd gen i fawr o ffydd yn y prosiect ar y dechrau ond llwyddais i gwblhau prosiect WISE, a’r holl leoliadau gwirfoddoli. Yr holl gymorth ac anogaeth gan bawb y gwnes eu cyfarfod yn The Wallich a’m galluogodd i gyrraedd lle’r ydw i heddiw.

Yn fy swydd newydd fel Mentor Dysgu a Chyflogaeth ar brosiect BOSS gyda The Wallich, byddaf yn gweithio gyda chyn droseddwyr, yn y carchar ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau; gan roi sgiliau, hyfforddiant a hyder iddynt allu gweithio tuag at gael gwaith. Rwyf eisiau llwyddo yn fy swydd newydd. Dyna’r prif nod.

Rwy’n teimlo’n freintiedig, oherwydd llai na blwyddyn yn ôl, doedd gen i unman i fyw a doedd gen i’r un swydd. Bellach mae gen i swydd ddiddorol iawn ac rwy’n llawn cymhelliant. Mae’n swydd, na feddyliais i erioed, y buaswn yn cael y cyfle i’w gwneud.”

Helpwch ni i gynnig cyfleoedd gwaith gwerthfawr i eraill, fel Richie. Rydym wastad yn chwilio am fusnesau newydd i lunio partneriaeth â nhw a helpu i gael pobl yn ôl i fyd gwaith. Edrychwch ar ein Canllaw Cyflogwr.